Gwrthfiotig

Oddi ar Wicipedia
Gwrthfiotig
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg, meddyginiaeth Edit this on Wikidata
Mathmeddyginiaeth, anti-infective agent, cyffur gwrthficrobaidd, bacterleiddiad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o gyffur sy'n gwrthweithio yn erbyn bacteria yw gwrthfiotig. Bathwyd y term o'r hen Roeg αντιβιοτικά, neu antibiotiká.[1] Cyfeirir at gwrthfiotigau weithiau fel gwrthfacteroliaid ac fe'i defnyddir i drin ac atal heintiau bacteriol.[2][3] Maent yn lladd bacteria neu'n atal eu tyfiant. Medda nifer gyfyngedig o wrthfiotigau ar alluoedd gwrth-protosoaidd.[4] Nid yw gwrthfiotigau yn effeithiol wrth drin firysau megis yr annwyd cyffredin neu'r ffliw; yn hytrach, fe elwir cyffuriau sy'n atal firysau yn gyffuriau gwrthfirysol neu wrthfeirysau.

Weithiau, fe ddefnyddir y term gwrthfiotig (a olygir "gwrth-fywyd") i gyfeirio at unrhyw sylwedd sy'n ymladd microbau,[5] sy'n gyfystyr â gwrthfeicrobaidd.[6] Ceir rhai ffynonellau'n gwahaniaethu rhwng sylweddau gwrthfacterol a gwrthfiotig; defnyddir gwrthfacteroliaid mewn sebon a diheintyddion; meddyginiaeth yw gwrthfiotig.[7]

Fe wnaeth gwrthfiotigau chwyldroi'r maes meddygaeth yn yr 20fed ganrif.[8] Fodd bynnag, mae eu heffeithiolrwydd a'u hargaeledd cyson wedi arwain at eu gorddefnydd,[9][10][11] ffaith sydd wedi datblygu galluoedd ymwrthodol bacteria.[12] Mae'r gallu hwnnw wedi arwain at broblemau eang. Datganodd Sefydliad Iechyd y Byd bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn "fygythiad difrifol, nad sydd bellach yn broffwydoliaeth ar gyfer y dyfodol, y mae'n digwydd, ym mhob rhanbarth o'r byd ac â'r potensial i effeithio unrhyw un, o unrhyw oed, mewn unrhyw wlad".[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Utilizing antibiotics agents effectively will preserve present day medication". News Ghana. 21 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2015.
  2. "Antibiotics". NHS. 5 Mehefin 2014. Cyrchwyd 17 Ionawr 2015.
  3. "Factsheet for experts". European Centre for Disease Prevention and Control. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2014.
  4. Chemical Analysis of Antibiotic Residues in Food (PDF). John Wiley & Sons, Inc. 2012. tt. 1–60. ISBN 9781449614591. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-01-21. Cyrchwyd 2018-02-27.
  5. "American Heritage Dictionary of the English Language" (arg. 5th). 2011. A substance, such as penicillin or erythromycin, produced by or derived from certain microorganisms, including fungi and bacteria, that can destroy or inhibit the growth of other microorganisms, especially bacteria. Antibiotics are widely used in the prevention and treatment of infectious diseases.
  6. Mosby's Medical Dictionary (arg. 9th). Elsevier. 2013. 1. pertaining to the ability to destroy or interfere with the development of a living organism. 2. an antimicrobial agent, derived from cultures of a microorganism or produced semi-synthetically, used to treat infections
  7. "General Background: Antibiotic Agents". Alliance for the Prudent Use of Antibiotics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-14. Cyrchwyd 21 December 2014.
  8. Gualerzi, Claudio O.; Brandi, Letizia; Fabbretti, Attilio; Pon, Cynthia L. (4 December 2013). Antibiotics: Targets, Mechanisms and Resistance. John Wiley & Sons. t. 1. ISBN 9783527333059.
  9. "Antibiotics being incorrectly prescribed in Australian nursing homes, prompting superbug fears". ABC Australia. 10 Mehefin 2016. Cyrchwyd 12 Mehefin 2016.
  10. "UK study warns of threat of antibiotics overuse, lack of new drugs". CCTV America. 19 Mai 2016. Cyrchwyd 12 Mehefin 2016.
  11. "Superbugs could kill more people than cancer, report warns". CBS News. 19 Mai 2016. Cyrchwyd 12 Mehefin 2016.
  12. Brooks, Megan (16 Tachwedd 2015). "Public Confused About Antibiotic Resistance, WHO Says". Medscape Multispeciality. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2015.
  13. "Antimicrobial resistance: global report on surveillance" (PDF). The World Health Organization. April 2014. ISBN 978 92 4 156474 8. Cyrchwyd 13 Mehefin 2016.