Crynoddisg

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Crynoddisg
Crynoddisg

Disg optegol a ddefnyddir i storio data digidol yw crynoddisg neu CD. Dechreuodd datblygiad y gyfrwng gan y cwmniau electroneg Philips a Sony yn 1979. Bu'n dair blynedd cyn fod y crynoddisg yn cael ei ryddhau yn 1982. Yn wreiddiol, cynlluniwyd y crynoddisg fel cyfrwng ar gyfer storio cerddoriaeth digidol yn unig, oherwydd fod golwg y disgiau yn debyg i recordiau finyl, ond addaswyd y dechnoleg yn hwyrach i'w ddefnyddio fel dyfais storio data amlbwrpas. Felly, rhyddhawyd y CD-ROM ym mis Mehefin 1985, a fyddai'n dod yn brif gyfrwng ar gyfer meddalwedd cyfrifiadurol am dros ddegawd rhwng 1993 a 2005.


Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol