Meic Stevens
| Meic Stevens | |
|---|---|
| Meic yn Eisteddfod Wrecsam, 2011 | |
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Louis Michael James |
| Enw arall | Meic Stevens, Y Brawd Houdini |
| Ganwyd |
Mawrth 13, 1942 |
| Man geni | |
| Cerddoriaeth | Canu gwerin, Acwstig, Y felan |
| Offeryn(au) cerdd | llais, gitâr, gitâr fâs, harmonica, |
| Blynyddoedd | 1956–presennol |
| Label(i) recordio | Warner Bros. Records, Wren, Recordiau Sain, Tic Toc, Crai, Fflach, Bluetit Records, Tenth Planet, Rhino Handmade, Sunbeam Records |
| Cysylltiedig | Bara Menyn Heather Jones Billy Thompson Alan Stivell |
| Gwefan | [1] |
Canwr, cyfansoddwr, telynegwr, ac arlunydd Cymraeg yw Meic Stevens (ganwyd 13 Mawrth 1942). Mae Meic Stevens wedi bod yn un o ffigyrau amlycaf y sin cerddoriaeth Gymraeg am dros bum degawd, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu'r sin cerddoriaeth boblogaidd yng Nghymru. Disgrifir ef gan rai fel "y Bob Dylan Cymreig" ac mae hefyd wedi cael ei gymharu yn ffafriol gyda cherddorion fel Syd Barrett. Mae Meic yn canu yn y Gymraeg yn bennaf ac wedi dod yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus y byd cerddoriaeth Gymraeg.
Cynnwys |
Bywyd Cynnar [golygu]
Cafodd Meic Stevens ei eni yn Louis Michael James ar 13 Mawrth 1942 yn Solfach, Sir Benfro.
Gyrfa [golygu]
Cynorthwywyd lansiad gyrfa Meic Stevens fel perfformiwr ym 1965 gan y DJ Jimmy Savile, a'i gwelodd yn perfformio mewn clwb canu gwerin ym Manceinion. Y canlyniad oedd i Meic Stevens ryddhau ei sengl gyntaf - wedi'i drefnu gan John Paul Jones (a aeth ymlaen i fod yn aelod o Led Zeppelin) - i Decca Records yn yr un flwyddyn (ond ni werthodd yn dda).
Ym 1967 dioddefodd Meic oherwydd problemau meddyliol ac aeth yn ôl i Solfach i adfer ei iechyd. Dechreuodd ysgrifennu caneuon Cymraeg mewn ymdrech ymwybodol i geisio creu cerddoriaeth boblogaidd nodweddiadol Gymreig. Rhwng 1967-69 recordiodd gyfres o EPs Cymraeg (Rhif 2, Mŵg, Y Brawd Houdini, Diolch yn Fawr, Byw yn y Wlad) i stiwdios Sain a Wren. Perfformiodd ar draws Prydain hefyd yn y 1960au (er enghraifft i'w gyfaill Gary Farr ar ei albwm cyntaf i label Marmalade). Rhyddhaodd ei albwm gyntaf yn y Saesneg, Outlander, ar label Warner Bros. ym 1970. Fel ei LPs eraill o'r cyfnod hwnnw, fel Gwymon a Gôg, mae'n albwm prin heddiw.
Yn 2011, cyhoeddodd Meic Stevens ei fod am fudo i Ganada i ymuno efo'i hen gariad, Liz, a chwrddodd â hi yn ystod ei amser fel myfyriwr celf yng Nghaerdydd yn y 1960au cynnar. Mae Meic wedi chwarae sawl gig ffarwelio yng Nghymru cyn ymadael am Ganada.[1]
Dylanwad ar Artistiaid Eraill [golygu]
Wrth chwarae yn y grŵp Bara Menyn yn niwedd y 1960au, cafodd Meic Stevens ddylanwad uniongyrchol ar yr artistiaid Heather Jones a Geraint Jarman. Parhaodd y dylanwad yma ar waith Heather Jones wrth iddi hi a Meic Stevens berfformio yn aml gyda'i gilydd ar lwyfannau led-led Cymru yn ystod y degawdau nesaf. Gellir clywed dylanwad brand arbennig Meic Stevens o roc gwerin yng ngwaith bandiau Cymraeg cyfoes fel Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci. Mae'r artist Gai Toms yn enwi Meic Stevens fel y prif ddylanwad a ysgogodd ef i ddechrau ysgrifennu a pherfformio ei ganeuon ei hun. Mae dylanwad arddull werin nodweddiadol Meic Stevens yn amlwg yng ngwaith Gai Toms, yn enwedig ar ddeunydd Mim Twm Llai. Yn ddiweddar, perfformiodd Alun Tan Lan fersiwn o'r gân "Cwm y Pren Helyg" gan Meic Stevens.
Discograffiaeth [golygu]
Albymau [golygu]
- Outlander (1970, Warner Bros.)
- Gwymon (1972, Wren)
- Gôg (1977, Sain 1065M)
- Caneuon Cynnar (1979, Tic Toc TTL001)
- Nos Du, Nos Da (1982, Sain, Sain 82)
- Gitâr yn y Twll Dan Stâr (1983, Sain)
- Lapis Lazuli (1985, Sain, Sain 1312M)
- Bywyd ac Angau (1989, Fflach)
- Ware’n Noeth (Bibopalwla’r Delyn Aur) (1991, Sain SCD 4088)
- Er Côf Am Blant y Cwm (1993, Crai CD036)
- Y Baledi - Dim Ond Cysgodion (1992, Sain SCD 2001)
- Voodoo Blues (1993? Bluetit Records MS1)
- Yn Fyw (1995, Sain)
- Ghost Town (1997, Tenth Planet TP028)
- Mihangel (1998, Crai CD059)
- Ysbryd Solva (2002, Sain SCD 2364)
- September 1965: The Tony Pike Session (2002, Tenth Planet TP056)
- Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod (2002 Sain SCD 2345)
- Outlander (2003, Rhino Handmade RHM2 7839 ail-ryddhau)
- Meic a'r Gerddorfa (2005, Sain SCD 2499)
- Rain in the Leaves: The EPs vol. 1 (2006, Sunbeam)
- Sackcloth & Ashes: The EPs vol. 2 (2007, Sunbeam)
- Icarws (2007, Sain 2516)
- An Evening with Meic Stevens: Recorded Live In London (2007, Sunbeam SBRCD5039)
- Gwymon (2008, Sunbeam SBRCD5046)
Llyfryddiaeth [golygu]
Llyfrau Cerddoriaeth [golygu]
- I Adrodd yr Hanes: 51 O Ganeuon Meic Stevens Gyda Cherddoriaeth, Meic Stevens a Lyn Ebenezer, Tachwedd 1993, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9780863812736
Hunangofiannau [golygu]
Cyhoeddwyd hunangofiant Meic Stevens mewn tair rhan:
- Hunangofiant y Brawd Houdini, Tachwedd 2003, Gwasg Gwynedd, ISBN 9780862436971
- Y Crwydryn a Mi, Ebrill 2009, Y Lolfa, ISBN 9781847711212
- Mâs o 'Mâ, Gorffennaf 2011, Y Lolfa, ISBN 9781847713247