Plwton (planed gorrach)

Oddi ar Wicipedia
Plwton
Enghraifft o'r canlynolplaned gorrach Edit this on Wikidata
Màs13.05 ±0.07 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod18 Chwefror 1930 Edit this on Wikidata
Rhan oPluto System Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan(134339) 5628 T-3 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan(134341) 1979 MA Edit this on Wikidata
LleoliadCysawd yr Haul allanol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysatmosphere of Pluto Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.24880766 ±1e-08 Edit this on Wikidata
Radiws1,185 cilometr, 1,185 cilometr, 1,185 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Plwton mewn gwir liw, 14 Gorffennaf 2015

Planed gorrach, yn ôl penderfyniad yr Undeb Seryddol Rhyngwladol (IAU) ar 24 Awst 2006 yw Plwton (neu Plwto; symbolau: ⯓[1] ac ♇[2]). Cyn hynny roedd Plwton yn cael ei chyfrif fel y lleiaf o'r planedau. Fe'i enwir ar ôl y duw clasurol. Mae'n rhyw dri chwarter maint lleuad y ddaear. Darganfuwyd Plwton gan y seryddwr Americanaidd Clyde Tombaugh yn 1930. Mae gan Blwton bum lloeren: Charon (darganfuwyd yn 1978), Nix a Hydra (darganfuwyd yn 2005), Kerberos (darganfuwyd yn 2011) a Styx (darganfuwyd yn 2012).[3] Mae Plwton yn llai na saith o loerau Cysawd yr Haul: Y Lleuad, Io, Ewropa, Ganymede, Calisto, Titan a Thriton.

Mae ganddo gylchdro o 5,913,520,000 km (39.5 Unedau Seryddol) o'r Haul (fel rheol), yn mesur 2370 km yn nhryfesur, ac yn pwyso 1.27x1022 kg.

Mae cylchdro Plwton yn dra-echreiddig. Weithiau mae'n nes i'r Haul na Neifion (fel oedd e o Ionawr 1979 hyd Chwefror 1999). Mae Plwton yn chwyldroi yn y cyfeiriad cyferbyniol i'r rhan fwyaf o'r planedau eraill. Mae tymheredd arwyneb Plwton yn amrywio rhwng -235 a -210 C. Mae ei chyfansoddiad yn ddirgel, ond mae ei chynhwysedd (rhyw 2g/cm3) yn awgrymu ei bod yn gymysgedd o 70% craig a 30% iâ dŵr, yn debyg i Driton.

Gan fod cylchdro Plwton mor rhyfedd, y mae Plwton weithiau yn ddigon agos at yr Haul i droi rhewogydd ei harwyneb yn nwy a chreu awyrgylch sylweddol wedi ei gyfansoddi bron yn gyfan gwbl gan nitrogen a chanddo wyntoedd a chymylau. Serch hynny, gan ei bod yn gor-blaned nid oes ganddi ddigon o ddwyster i rwymo awyrgylch am gyfnod hir. Felly mae awyrgylch Plwton yn cael ei greu a'i ddileu yn fuan ar yr un pryd.

Cyrhaeddodd y chwiliedydd gofod New Horizons ar 14 Gorffennaf 2015 gan hedfan 12,500 km (7,800 milltir) uchlaw arwyneb Plwton gan gymryd y lluniau manwl cyntaf o'r blaned gorrach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. JPL/NASA (2015-04-22). "What is a Dwarf Planet?". Jet Propulsion Laboratory. Cyrchwyd 2022-01-19.
  2. John Lewis, gol. (2004). Physics and chemistry of the solar system (arg. 2). Elsevier. t. 64.
  3. Sharp, Tim (2012) Pluto's Moons: Five Satellites of Pluto, space.com. Adalwyd 14 Gorffennaf 2012.