New Horizons

Oddi ar Wicipedia
New Horizons
Enghraifft o'r canlynolchwiliedydd gofod Edit this on Wikidata
Màs478 cilogram, 401 cilogram, 29.62 cilogram, 76.8 cilogram Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Rhan oRhaglen New Frontiers Edit this on Wikidata
Olynwyd ganJuno Edit this on Wikidata
GweithredwrNASA Edit this on Wikidata
GwneuthurwrJohns Hopkins University Applied Physics Laboratory Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear58.96 uned seryddol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://newhorizons.jhuapl.edu/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chwiliedydd gofod yw New Horizons. Lawnsiwyd gan NASA o'r Cape Canaveral Air Force Station, Fflorida ar 19 Ionawr 2006 ar berwyl i hedfan heibio Plwton a'i loerennau Charon, Nix, Hydra, Kerberos a Styx. Ar 4 Ionawr 2012 roedd y chwiliedydd gofod yn teithio ar gyflymder o 15.41 km/eiliad, y tu hwnt i orbit Wranws.

Cyrhaeddodd Plwton ar 14 Gorffennaf 2015 gan hedfan 12,500 km (7,800 milltir) uchlaw arwyneb Plwton gan gymryd y lluniau manwl cyntaf o'r blaned gorrach.

Yn dilyn llwyddiant y daith, ail-gyfeiriwyd y llong ofod i deithio biliwn o filltiroedd ymhellach i archwilio un o wrthrychau cyntefig y Gwregys Kuiper. Dewiswyd y gwrthrych (486958) 2014 MU69 (Ultima Thule) a hedfanodd heibio'r corff bychan ar 1 Ionawr 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]