Gwregys Kuiper

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Wedi ei enwi ar ôl Gerard Peter Kuiper, rhanbarth ar ffurf disg tu hwnt i gylchdro Neifion yw Gwregys Kuiper, rhyw 30-50 Unedau Seryddol o bellter oddi wrth yr Haul, sy'n cynnwys llawer iawn o gyrff rhewllyd bychain. Ystyrier Gwregys Kuiper yn darddiad i gomedau cyfnod byr. Weithiau bydd cylchdro gwrthrych Gwregys Kuiper yn cael ei aflonyddu gan ryngweithiadau'r cewri nwy mewn ffordd a fydd yn ei achosi i groesi cylchdro Neifion. Yna mae'n debyg o gael ei daflu allan o Gysawd yr Haul, neu ar gylchdro newydd a fydd yn croesi rhai'r cewri nwy eraill, neu hyd yn oed i mewn i Gysawd Mewnol yr Haul. Ar hyn o bryd mae o leiaf naw gwrthrych sy'n cylchio rhwng Iau a Neifion. Fe'u gelwir yn ddynfeirch. Maen nhw'n siwr i fod yn "ffoaduriaid" o Wregys Kuiper, nas gwyddys eu ffawd. Ar hyn o bryd mae yna fwy nag 800 o wrthrychau sydd wedi cael eu darganfod o fewn Gwregys Kuiper, gan gynnwys un â chanddo dryfesur o 1000 km -50000 Quaoar- ac un o'r enw 90482 Orcus sy'n fwy ei faint na hynny, efallai dros hanner maint Plwton.

Mae rhai seryddwyr yn credu mai dim ond esiamplau mwyaf gwrthrychau Gwregys Kuiper yw Plwton, Charon a Thriton.

Dolenni allanol[golygu]