Wranws (planed)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wranws
Wranws
Symbol
Nodweddion orbitol
Pellter cymedrig i'r Haul 19.19US

2.87×109km

Radiws cymedrig 2,870,972,200km
Echreiddiad 0.04716771
Parhad orbitol 84b 3d 15.66a
Buanedd cymedrig orbitol 6.8352 km s-1
Gogwydd orbitol 0.76986°
Nifer o loerennau 27
Nodweddion materol
Diamedr cyhydeddol 51,118 km
Arwynebedd 8.13×109km2
Más 8.686×1025 kg
Dwysedd cymedrig 1.29 g cm-3
Disgyrchiant ar yr arwyneb 8.69 m s-2
Parhad cylchdro -17a 14m
Gogwydd echel 97.86°
Albedo 0.51
Buanedd dihangfa 21.29 km s-1
Tymheredd ar yr arwyneb:
isafrif cymedrig uchafrif
59K 68K ...
Nodweddion atmosfferig
Gwasgedd atmosfferig 120kPa
Hydrogen 83%
Heliwm 15%
Llosgnwy 1.99%
Amonia 0.01%
Ethan 0.00025%
Asetylen 0.00001%
Carbon monocsid
Hydrogen sylffid
arlliw

Y seithfed blaned oddi wrth yr Haul a'r trydydd mwyaf o ran tryfesur yw Wranws. Mae Wranws yn fwy ei dryfesur ond yn llai ei gynhwysedd na Neifion. Enwyd Wranws ar ôl Ouranos, duw Groeg y nefoedd.

Darganfuwyd Wranws, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn amserau modern, gan William Herschel ar y 13eg o Fawrth, 1781. Roedd mewn gwirionedd wedi cael ei gweld llawer gwaith o'r blaen ond wedi cael ei ystyried yn seren (cafodd ei gatalogio fel 34 Tauri ym 1690 gan John Flamsteed). Cafodd ei enwi gan Herschel fel "the Georgium Sidus" (y blaned Sioraidd) i anrhydeddu ei noddwr, Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig; roedd eraill yn ei galw wrth yr enw "Herschel". Cafodd yr enw "Wranws" ei gynnig gan Bode mewn cydymffurfiaeth â'r enwau planedol eraill o fytholeg glasurol ond ni ddaeth mewn defnydd cyffredin tan 1850.

Ymwelwyd Wranws ar 24ain o Ionawr 1986 gan Voyager 2. Mae'r rhan fwyaf o'r planedau'n troi ar echel sydd bron â pherpendicwlar i arwyneb y rhod ond mae echel Wranws bron â bod yn gyfochrog i'r rhod. Yn ystod ymweliad Voyager 2 roedd pegwn deheuol Wranws yn pwyntio tua'r Haul. Canlyniad hyn ydy bod ardaloedd pegynol Wranws yn derbyn mwy o egni'r Haul nag ei hardaloedd cyhydeddol. Serch hynny, mae Wranws yn fwy poeth ei gyhydedd nag ei begynau. Ni wybyddir y mecanwaith sy'n achosi hynny.

Cyfansoddir Wranws yn anad dim o greigiau a rhewogydd amrywiol, gyda dim ond 15% hydrogen ac ychydig heliwm. Ymddengys nad oes calon greigiog gan Wranws eithr mae ei deunydd mwy neu lai wedi ei ddosbarthu'n unffurf.

Mae awyrgylch Wranws tua 83% hydrogen, 15% heliwm a 2% methan.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fandiau o gymylau sy'n chwythu o gwmpas yn gyflym. Mae lliw glas Wranws yn ganlyniad o fethan yn yr awyrgylch uchaf yn llyncu golau coch. Gellir bod yna fandiau lliwgar fel ar Iau ond maen nhw wedi eu gorchuddio gan yr haen fethan.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fodrwyau. Fel modrwyau Iau maen nhw'n dywyll ond fel y rhai Sadwrn maen nhw wedi eu cyfansoddi gan ronynnau eithaf mawr, rhai ohonynt yn cyrraedd tryfesur o 10 metr yn ogystal â llwch mân. Mae 11 o fodrwyau wedi cael eu darganfod, pob un ohonynt yn llesg; Adnabyddir y fwyaf disglair ohonynt fel y fodrwy Epsilon. Roedd modrwyau Wranws y cyntaf ar ôl y rhai Sadwrn i gael eu darganfod.

Mae maes magnetig Wranws yn hynod am nad ydy wedi ei ganoli ar ganol y blaned ac mae wedi ei ogwyddo bron â 60 gradd ynglŷn ag echel ei chylchdro. Mae'n debyg o gael ei achosi gan symudiadau mewn dyfnderoedd cymharol bas o fewn Wranws.

Darganfuwyd 10 lloeren fach gan Voyager 2. Roedd eisoes 5 lloeren fawr ganddi. Mae'n debyg fod yna rhagor o loerennau o fewn y modrwyau.

Mae gan Wranws 21 o loerennau sydd wedi cael eu henwi a 6 lloeren heb enw. Yn wahanol i gyrff eraill Cysawd yr Haul sydd wedi eu henwi ar ôl cymeriadau o fytholeg glasurol, mae lloerennau Wranws yn cymryd eu henwau o ysgrifau Shakespeare a Pope.


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Gwener
Y Ddaear
Mawrth
Iau
Sadwrn
Wranws
Neifion