Ymasiad niwclear

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
dde

Mewn ffiseg niwclear a chemeg niwclear, ymasiad niwclear (Saesneg: nuclear fusion) ydy'r uniad hwnnw rhwng dau niwclews mas ysgafn, wedi eu gwasgu at ei gilydd gan egni aruthrol. Mae'r weithred o ymasiad yn gwbwl groes i'r weithred sy'n digwydd heddiw ymh mhob atomfa, sef Ymholltiad niwclar ble mae'r niwclei'n cael eu chwalu'n gyrbibion. Felly, dim ond o dan amgylchiadadau eithriadol y gall ymasiad ddigwydd e.e. mae'n rhaid wrth dymheredd uchel iawn. Cyn gynted ag y mae'r ddau niwclei'n ddigon agos at ei gilydd cânt eu gwthio at ei gilydd oherwydd fod yr egni sy'n eu gwthio yn gryfach na'r egni electromagnetig sy'n eu gwahanu. Pan mae nhw'n asio at ei gilydd, mae llawer iawn o egni'n cael ei ryddhau.

Dyma'n union yr hyn sy'n digwydd mewn sêr megis ein Haul: pedwar proton yn asio mewn niclews o heliwm, dau bositron a dau niwtrino. Mae'r asio (neu'r ymasio) hwn yn afreolus, hynny yw ni ellir ei reoli a gelwir y weithred hon yn rhediad thermoniwclear (Saesneg: thermonuclear runaway).

Dim ond mewn theori y gallwn heddiw (2010) droi'r egni hwn a roddir i fewn i'r broses o'u hasio yn egni anferthol a ellir ei ddefnyddio o ddydd i ddydd er i wyddonwyr geisio'r ffiol sanctaidd yma ers y 1940au. Ar hyn o bryd mae'r egni rydym yn ei roi i fewn i'r arbrawf yn fwy na'r hyn rydym yn ei gael allan o'r arbrawf.