Aberteifi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cardigan)
Aberteifi
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,184 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,293.45 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0842°N 4.6579°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000363 Edit this on Wikidata
Cod OSSN175465 Edit this on Wikidata
Cod postSA43 Edit this on Wikidata
Map

Tref farchnad hanesyddol a chymuned yn ne Ceredigion yw Aberteifi (Saesneg: Cardigan); saif ar lôn yr A487 hanner ffordd rhwng Aberaeron i'r gogledd ac Abergwaun i'r de. Fel mae'r enw yn ei awgrymu, saif y dref ar lan ogleddol Afon Teifi ger aber yr afon honno ym Mae Ceredigion. Yr ochr arall i'r aber mae pentref hanesyddol Llandudoch. Yn 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 4,184 (Cyfrifiad 2011).

Hanes[golygu | golygu cod]

Codwyd castell yn Aberteifi tua dechrau'r 12g yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwir Hen Gastell Aberteifi). Yn y flwyddyn 1176 cynhaliodd Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth eisteddfod yn ei lys yno adeg y Nadolig, yr eisteddfod gyntaf sy'n hysbys. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Aberteifi yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188. Arhosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddi Deheubarth y rhan fwyaf o'r amser hyd 1240 pan syrthiodd i'r Saeson. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell o ddwylo'r Saeson ym 1405.

Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y 18g. Erbyn dechrau'r 19g roedd dros 300 o longau hwylio yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechi Cilgerran o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r 20g roedd dyddiau'r porthladd ar ben.

Adeiladwyd y bont bum bwa ar draws afon Teifi yn 1726.[1]

Adeiladau[golygu | golygu cod]

Un o adeiladau mwyaf adnabyddus y dref yw'r Guildhall.

Capeli ac eglwysi[golygu | golygu cod]

Capeli[golygu | golygu cod]

Rhai o'r Gweinidogion: George Hughes (1881-1924); Y Parchg J. Arthur Jones 1927- ; Y Parchg Dr. Leighton James; Y Parchg Roland Bevan; Y Parchg David P. Kingdon; Y Parchg Ifan Mason Davies (1986- ); Y Parchg Dr. Gareth Edwards

  • Tabernacl, Capel y Methodistiaid Calfinaidd

Dyma enwau rhai o'r Gweinidogion: Robert Roberts, Penllwyn (1857-1862); Daeth Y Parchg W. Meidrym Jones ar 24 Hydref 1870; Mydrim Jones (1870-77); Griffith Davies (1881-74?; 1889-96); Y Parchg J. G. Moelwyn Hughes MA, PhD o Gastell Nedd (Ion 1896-1917/18); R. R. Williams (1923– ); Y Parchg Currie Hughes BA (1929- ); Y Parchg Richard Jones MA BSc, Charing Cross (Ion 1969– ); Y Parchg Thomas Roberts (1973-84) (1982?); Y Parchg Ifor ap Gwilym

  • Capel Mair, Annibynwyr. 1803+

Dyma rhai o'r Gweinidogion: Y Parchg Daniel Davies (1812–64); David Owen; David Owen arall; Y Parchg William Davies (1865-74); Y Parchg T. J. Morris (1876–1908); Y Parchg T. Esger James (1910–35); Y Parchg D. J. Roberts (1939–77); Y Parchg Ieuan Davies (1977-84); Y Parchg J. Arwyn Phillips (1986–93); Y Parchg Irfon Roberts (rhannu â Bethania).

Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1803. Ail adeiladwyd ym 1869; ail agorwyd 20-21 Medi 1870. Adeiladwyd y festri ym 1881, a thŷ'r capel. Ym 1905 roedd gan y Capel 344 o aelodau.

  • Hope Chapel, Annibynwyr Saesneg. 1830+ (wedi cau)

Dyma enwau'r Gweinidogion: David Phillips; Richard Hancock ( -1850); Robert Breeze (1854); David Jones (1861-67); John Newman Richards (1867-73); Lewis Beynon (1873-); Melchizedek Evans (1884); T. C. Evans; Garro Jones (1895-1902); Evan Evans (1902-05); Morda Evans (1905-1911); W. Whittington (1911-1923); T. J. Walters (1928- ); T. E. Morris; Chwe 1946 Thomas Perkins. Ailadeiladwyd mis Hydref 1880.

  • Ebenezer, Wesle. 1867+ (wedi cau)

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Eglwys y Santes Fair
  • Yr Eglwys Gatholig

Eglwys Mair y Tapyr Archifwyd 2011-09-19 yn y Peiriant Wayback. Agorwyd yr Eglwys bresennol ar 23 Gorffennaf 1970. Offeiriaid: Joseph Higgins (1930-32); John Tole (1932); Wilfred Brodie (1932-3); Basil Rowlands (1933-36); Thomas Williams (1936); Joseph Wedlake (1937-9); Thomas Canning (1940); James McAniff (1941); J. B. O’Connell (1942-5); Phillip Dwyer (1946-7); William Andrews (1947); Albin Kaltenbach (1947-51); George A. Anwyll (1951-9); Raymond Joyce (curad) (1951-9); John McHugh (1950-61??); Arthur Davies (1961); Seamus Cunanne (1962-99); Augustine Paikkatt (1999-2003); Jason Jones (2003–31/1/2011);

  • Eglwys y Santes Fair

Offeiriaid: 450 AD St Mathaiarn, mab Brychan; 1114; Edward y Presbyter; 1349 John de Whittle; 1411 John Barnett; 1413 Thomas Day; 1434 John Thornbury; John Frodsham; 1497 Richard Robyns; 1502 Hugh Wenty; 1524 Thomas Hore (y prior olaf); 1534 Morgan Meredith; 1553 Griffin Williams (? - 1555); 1555 Philip Howell ap Rice; 1563 Peregrine Daindle; Nicholas Harry; 1660 Gwilliomo Owens; Charles Price; 1662 Johannus Morgan; 1666 Richard Harries; 1693 David Jenkins MA; 1717 Thomas Richards MA; 1729 Jacobus Phillips BA; 1730 Jacobus Thomas; 1731 Rice neu Rees (Audelnus?Audoernis) Evans; 1737 Hugh Pugh BA; 1747 John Davies; 1748 William Powell; 1756-77 John Davies; 1778 John Evans; 1789 John Evans (yr un un mwy na thebyg); 1824-76 Griffith Thomas; 1876-1900 William Cynog Davies BD; 1900-12 David John Evans MA RD; 1912-16 David Timothy Alban BA RD; 1917-31 David Morgan Jones BA RD (Canon St Davids); 1931-51 Edward Lee Hamer BA; 1951- David Thomas Price BA; Ernest Jones; William Richards.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberteifi (pob oed) (4,184)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberteifi) (2,194)
  
54.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberteifi) (2938)
  
70.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberteifi) (972)
  
48.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Gŵyl Fawr Aberteifi[golygu | golygu cod]

Galwyd Gŵyl Fawr Aberteifi yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi a gynhaliwyd yn gyntaf yn 1953.[7]

Eisteddfodau[golygu | golygu cod]

1176 Eisteddfod gyntaf
1-2 Awst 1866 Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn pafiliwn pren mewn cae tu ôl i Gapel Bethania. Enillodd J R Phillips wobr o £10 am sgrifennu hanes Cilgerran. Côr Felindre (Drefach), yr unig gystadleuwyr, enillodd £10 yn ‘Achub Fi, O Dduw’. Bu cystadlu rhwng Côr Brynberian ac Aberteifi am wobr o £8 am ganu ‘Blessed be Thou, Lord God of Israel’. Aberteifi enillodd. Bu'r eisteddfod yn fethiant ariannol oherwydd salwch colera yn yr ardal.
12 Mehefin 1878 Cynhaliwyd mewn pafiliwn yn dal 5,000. Y llywydd oedd T. E. Lloyd, Coedmore AS, a David Davies AS y Fwrdeistref. Y côr buddugol oedd Bargoed Teifi.
14 Gorffennaf 1880 Bell Court – tu ôl Pendre. Pafiliwn yn dal 5,000. Prif fardd oedd Thomas Davies, Llwynysgaw (Ysgawenydd).
7 Awst 1895 Pabell ym Mhontycleifion.
4 Awst 1909
7 Awst 1942: cafwyd ymweliad gan Lloyd George, Megan, D. O. Evans AS, Mrs D. O. Evans YH
Mai 1954: enillwyd y gadair gan James Nicholas.

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Gorsedd Aberteifi

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi ym 1942 a 1976. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christopher Winn; addasiad: Sian Osawa (2008). Wyddwn i mo hynna am Gymru. Cymdeithas Llyfrau Ceredigion
  2. Gwefan Capel Mount Zion Archifwyd 2013-04-09 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21-03-2009
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-20. Cyrchwyd 2008-05-04.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r ganran hon yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Archifau Cymru

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]