Instituto Cervantes
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, endid tiriogaethol dynol-ddaearyddol ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1991 ![]() |
Yn cynnwys | Instituto Cervantes, Berlin ![]() |
Pennaeth y sefydliad | cyfarwyddwr Instituto Cervantes ![]() |
Isgwmni/au | Instituto Cervantes de Varsovia, Instituto Cervantes de Cracovia, Instituto Cervantes Tokio, Instituto Cervantes, Berlin, Instituto Cervantes de Budapest, Q104213428, Instituto Cervantes of Manila, Biblioteca María Zambrano. Instituto Cervantes di Roma ![]() |
Rhiant sefydliad | Secretariat of State for International Cooperation ![]() |
Pencadlys | Madrid ![]() |
Enw brodorol | Instituto Cervantes ![]() |
Rhanbarth | Madrid ![]() |
Gwefan | http://www.cervantes.es ![]() |
![]() |
Mae Instituto Cervantes (;Sefydliad Cervantes;) yn sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991.[1] Fe'i enwir ar ôl Miguel de Cervantes (1547-1616), awdur Don Quixote ac efallai'r ffigwr pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Sbaeneg. Sefydliad Cervantes yw'r sefydliad mwyaf yn y byd sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaeneg. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.
Ni cheir cangen o'r sefydliad yng Nghymru. Mae'r canghennau Prydeinig yn Llundain, Leeds a Manceinion.
Crynodeb[golygu | golygu cod]
Mae'r sefydliad hwn wedi ehangu i 45 o wledydd gyda 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliant Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ac iaith Sbaeneg.[2] Creodd Erthygl 3 o Gyfraith 7/1991, ar 21 Mawrth 1991, yr Instituto Cervantes fel asiantaeth y llywodraeth. Mae'r gyfraith yn egluro mai nodau eithaf y Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudio a defnyddio Sbaeneg yn gyffredinol fel ail iaith; cefnogi'r dulliau a'r gweithgareddau a fyddai'n helpu'r broses o addysg Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo diwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd ar draws gwledydd di-Sbaeneg.[3][4]
Swyddogaethau[golygu | golygu cod]
Swyddogaethau a gwasanaethau Sefydliad Cervantes yw:
- Cynllunio cyrsiau iaith Sbaeneg, gan gynnig dau fath o gwrs: cyffredinol ac arbennig.
- Cynnig arholiadau Diplomâu Sbaeneg fel Iaith Dramor (DELE) ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen. Mae hwn yn gymhwyster swyddogol sy'n ardystio lefelau cymhwysedd yn yr iaith Sbaeneg, a dyma'r unig dystysgrif ar gyfer siaradwyr Sbaeneg anfrodorol sy'n cael ei chydnabod yn swyddogol yn Sbaen. Rhennir y diplomâu yn chwe lefel, pob un yn cyfateb i lefel hyfedredd arbennig fel y disgrifir gan y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd: A1, A2, B1, B2, C1, C2.
- Gwella dulliau addysg Sbaeneg.
- Mae'n cefnogi Sbaenwyr a "Hispaniaeth", sef yr astudiaeth o ddiwylliant Sbaen ac America Sbaenaidd.
- Trefnu ac yn hyrwyddo'r rhaglen i ledaenu'r iaith Sbaeneg ledled y byd.
- Mae'n gweinyddu'r arholiadau Gwybodaeth Gyfansoddiadol a Chymdeithasol o Sbaen (CCSE) ledled y byd, sy'n ofyniad cyfreithiol ar gyfer caffael cenedligrwydd Sbaenaidd.
- Mae'n sefydlu llyfrgelloedd a chanolfannau.
- Mae hefyd yn cyhoeddi'r Anuario del español i ddadansoddi ac adrodd ar sefyllfa a datblygiad yr iaith Sbaeneg mewn gwahanol leoedd.
- Mae'n cefnogi'r Centro Virtual Cervantes ar y rhyngrwyd ers 1997.
Diplomâu Iaith Sbaeneg[golygu | golygu cod]
Y Diploma Iaith Sbaeneg, DELE, yw'r dystysgrif swyddogol gyda chydnabyddiaeth ryngwladol sy'n ardystio gwybodaeth o Sbaeneg fel iaith dramor. Fe'i cyhoeddir gan yr Instituto Cervantes ar ran Gweinyddiaeth Addysg Sbaen.
Cydnabyddiaeth[golygu | golygu cod]
Yn 2005, ynghyd â'r Alliance française, y Società Dante Alighieri, y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut, a'r Instituto Camões, dyfarnwyd Gwobr Tywysog Asturias i'r Instituto Cervantes am gyflawniadau eithriadol ym maes cyfathrebu a dyniaethau.
Lleoliadau byd-eang[golygu | golygu cod]
Mae’r Instituto Cervantes wedi datblygu ei brosiect addysgol ar system o sefydliadau a chanolfannau lleol:
- Centros Cervantes (canolfanau llawn)
- Aulas Cervantes ("darlithfaoedd" llai)
- Rhwydwaith Centros Acreditados a Centros Asociados
Mae rhestr gynrychioliadol yn dilyn, ac mae'r rhestr ddiweddaraf a chyflawn i'w gweld yn www.cervantes.es.
- Centros Cervantes
- Affrica
- Americas
- Asia
- Ewrop
Awstria (Vienna)
Gwlad Belg (Brussels)
(Sofia)
Y Weriniaeth Tsiec (Prague)
Ffrainc (Bordeaux, Lyon, Paris, Toulouse)
Almaen (Berlin, Bremen, Frankfurt am Main, Hamburg, Munich)
Gwlad Groeg (Athens) – agorwyd yr Institute Cervantes Institute gyntaf yn Anthen 1992; ym mis Mawrth 2010, agorodd y Breninines Sofía o Sbaen yr adeilad newydd.
Hwngari (Budapest)
Iwerddon (Dublin) – 53°20′31″N 6°15′06″W / 53.341975°N 6.251575°W
Yr Eidal (Milan, Naples, Palermo, Rhufain)
Yr Iseldiroedd (Utrecht)
Gwlad Pwyl (Warsaw, Kraków)
Portiwgal (Lisbon)
(Bucharest)
Rwsia (Moscow)
Serbia (Belgrade)
Sweden (Stockholm)
Y Deyrnas Unedig (Leeds, Llundain, Manceinion)
- Dwyrain Canol
- Oceania
- Aulas Cervantes
- Centros Acreditados
- Centros Asociados
Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill[golygu | golygu cod]
Mae Instituto Cervantes yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ [1] Archifwyd December 14, 2007, yn y Peiriant Wayback.
- ↑ 2.0 2.1 "Cervantes homepage". Cervantes.es. Cyrchwyd 2015-08-01.
- ↑ "Instituto Cervantes: Spain's Language and Cultural Center | Manila Bulletin". Mb.com.ph. 2005-08-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-08. Cyrchwyd 2012-06-10.
- ↑ "Instituto Cervantes celebrates its 15th year | Manila Bulletin". Mb.com.ph. 2007-11-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-04. Cyrchwyd 2012-06-10.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Thinkspain News Feed". Thinkspain.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-06. Cyrchwyd 2012-06-10.
- ↑ "Instituto Cervantes Hong Kong | Cervantes Institute HK | Spanish…". Spanish World Hong Kong (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-10.
- ↑ "Cervantes Quality Seal | Only Spanish Learning Center in Singapore". Spanish World Singapore (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-06-10.
- ↑ [2][dolen marw]
- ↑ [3] Archifwyd December 11, 2009, yn y Peiriant Wayback.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Gwefan swyddogol
- InstitutoCervantesVideos sianel Youtube
- Cervantes Institute yn Encyclopædia Britannica
- Spanish and Empire
- Journals, A review of Centro Virtual Cervantes