European Union National Institutes for Culture
| Enghraifft o: | sefydliad, sefydliad diwylliannol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2006 |
![]() | |
| Gwefan | https://www.eunicglobal.eu |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0284qql |
Rhwydwaith o sefydliadau diwylliant cenedlaethol Ewropeaidd a chyrff cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol a gweithgareddau cysylltiedig y tu hwnt i'w ffiniau cenedlaethol yw Sefydliadau Cenedlaethol dros Ddiwylliant yr Undeb Ewropeaidd (European Union National Institutes for Culture, EUNIC). Mae'r Sefydliad yn dod â sefydliadau o bob un o 27 aelod-wladwriaethau’r UE ynghyd ac yn ychwanegu gwerth drwy gydweithio ar draws cyrff diwylliannol rhyngwladol. Drwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd ei aelodau a gwneud gwaith ar y cyd ar feysydd diddordeb cyffredin, mae EUNIC yn bartner cydnabyddedig i’r UE a’i randdeiliaid wrth ddiffinio a gweithredu polisi Ewropeaidd ar ddiwylliant y tu mewn a’r tu allan i’r UE.
Strwythur
[golygu | golygu cod]
Pwrpas trosfwaol EUNIC yw creu partneriaethau a rhwydweithiau effeithiol rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan, er mwyn gwella a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol a dealltwriaeth rhwng cymdeithasau Ewropeaidd, ac i gryfhau deialog a chydweithrediad rhyngwladol gyda gwledydd y tu allan i Ewrop.
Ers ei sefydlu yn 2006, mae EUNIC wedi datblygu i fod yn rhwydwaith cryf sy'n darparu prosiectau cydweithredol trawswladol ledled y byd trwy ei 36 aelod a'i 103 o glystyrau, sy'n cynnwys sefydliadau diwylliannol cenedlaethol. Mae clystyrau yn llwyfannau cydweithio a sefydlwyd lle mae o leiaf tair swyddfa leol o aelodau EUNIC yn gweithredu gyda’i gilydd. Gall clystyrau weithredu ledled y wlad neu ledled y ddinas. Mae clwstwr EUNIC yn cynrychioli EUNIC cyfan ac nid yn unig yr aelodau hynny sy'n bresennol mewn gwlad neu leoliad.
Ar 16 Mai 2017, yn ystod Llywyddiaeth Denmarc EUNIC a'r Undeb Ewropeaidd, llofnododd gytundeb gweinyddol sy'n amlinellu egwyddorion, gwerthoedd ac amcanion ar y cyd ar gyfer cydweithredu, yn ogystal â threfniadau ymarferol ar gyfer ei weithredu.[1]
Cefnogir y Llywyddion gan dîm swyddfa EUNIC Global a leolir ym Mrwsel. Mae Swyddfa Fyd-eang EUNIC ym Mrwsel hefyd yn cefnogi gwaith aelodau a chlystyrau EUNIC ledled y byd.
Rheolaeth
[golygu | golygu cod]Rheolir EUNIC gan gyfarfod chwe-misol o Benaethiaid ei aelod sefydliadau (Cynulliad Cyffredinol). Maent yn ethol Llywydd, Is-lywydd, a phedwar aelod cyffredin sydd gyda'i gilydd yn cynrychioli Bwrdd Cyfarwyddwyr EUNIC.
- 2020-2021:
Yr Iseldiroedd - DutchCulture, canolfan ar gyfer cydweithredu rhyngwladol - 2019-2020:
Yr Eidal - Gweinyddiaeth Materion Tramor a Chydweithrediad Rhyngwladol (yr Eidal) - 2018-2019:
Ffrainc - Gweinyddiaeth dros Ewrop a Materion Tramor (Ffrainc[2] - 2017-2018:
Gwlad Belg - Adran Materion Tramor Fflandrys[3] - 2016-2017:
Denmarc - Dansk Kulturinstitut
Aelodau oddi fewn i'r UE
[golygu | golygu cod]Aelodau EUNIC ym mis Medi 2020):[4]
Yr Almaen - Goethe-Institut, Sefydliad Cysylltiadau Diwylliannol Tramor yr Almaen
Awstria - Y Weinyddiaeth Ffederal ar gyfer Ewrop, Integreiddio a Materion Tramor, Österreich Institut
Bwlgaria - Gweinyddiaeth Diwylliant Bwlgaria
Croatia - Hrvatska kuća ('Tŷ Croatia'), Gweinyddiaeth Diwylliant a Chyfryngau Croatia
Cyprus - Gweinyddiaeth Addysg a Diwylliant Cyprus
Denmarc - Dansk Kulturinstitut
Yr Eidal - Società Dante Alighieri, Gweinyddiaeth Materion Tramor yr Eidal
Estonia - Eesti Instituut
Y Ffindir - Suomen kulttuuri- ja tiedeinstituutit
Ffrainc - Fondation Alliance française, Institut français, Gweiniyddiaeth Materion Tramor Ffrainc
Gwlad Belg - Wallonie-Bruxelles International, Adran Materion Tramor Fflandrys
Gwlad Groeg - Gweinyddiaeth Materion Tramor Groeg, Sefydliad Diwylliant Groeg
Gwlad Pwyl - Weinyddiaeth Materion Tramor Gwlad Pwyl
Hwngari - Balassi Intézet
Yr Iseldiroedd - DutchCulture, Canolfan Cydweithio Rhyngwladol
Gweriniaeth Iwerddon - Culture Ireland
Latfia - Latvian Institute
Lithwania - Lietuvos kultūros institutas
Lwcsembwrg - Weinyddiaeth Materion Tramor Lwcsembwrg
Malta - Cyngor Celfyddydau Malta
Portiwgal - Instituto Camões
Rwmania - Institutul Cultural Român
Sbaen - Instituto Cervantes, Asiantaeth Sbaen ar gyfer Cydweithrediad Datblygu
Slofacia - Gweinyddiaeth Materion Tramor Slofacia
Slofenia - Gweinyddiaeth Diwylliant Slofenia Rhyngwladol (AECID)
Sweden - Svenska Institutet
Tsiecia - Česká centra
Aelodau tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
[golygu | golygu cod]Mae aelodau EUNIC yn bresennol yn y gwledydd canlynol:[5]
Albania
Armenia - EUNIC Armenia
Belarws
Georgia
Gogledd Macedonia
Moldofa
Norwy
Rwsia
Serbia
Y Deyrnas Unedig - British Council
Wcráin
Sefydliadau tebyg
[golygu | golygu cod]Mae'r EUNIC yn gorff ymbarél i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr o sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol
- Grym meddal
- Diplomyddiaeth ddiwylliannol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Administrative arrangement signed between EUNIC and the European Union". EUNIC.
- ↑ "Meet the people of EUNIC: Augustin Favereau, president of EUNIC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-14 – drwy www.youtube.com.
- ↑ "Flanders president of EUNIC". www.fdfa.be. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-02. Cyrchwyd 2023-03-28.
- ↑ "About".
- ↑ EUNIC, EU National Institutes for Culture-. "Map". EU National Institutes for Culture - EUNIC.
