Canolfan Diwylliannol Corea
![]() | |
Enghraifft o: | sefydliad, Kulturzentrum ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2009 ![]() |
Yn cynnwys | Korean Cultural Center, Tokyo, Korean Cultural Center in Spain, Korean Cultural Center in Argentina, Korean Cultural Center, Paris, Korean Cultural Center Washington, D.C., Korean Cultural Center New York, Korean Cultural Center, Los Angeles ![]() |
Sylfaenydd | Korean Culture and Information Service ![]() |
![]() |




Mae Canolfan Diwylliannol Corea Saesneg arferol Korean Cultural Center (Coreeg: 한국문화원, Hanja: 韓國文化院) yn sefydliadau dielw sy'n cyd-fynd â Llywodraeth De Corea sy'n anelu at hyrwyddo diwylliant Corea a hwyluso cyfnewid diwylliannol. Fel sawl corff genedlaethol arall, mae'n rhan o ddiplomyddiaeth ddiwlliannol y wlad i hyrwyddo pŵer meddal y wladwriaeth.
Hanes
[golygu | golygu cod]Gan ddechrau o 2009, dechreuodd Gwasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea sefydlu Canolfannau Diwylliannol Corea ledled y byd.
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Mae'r canolfannau'n cael eu rhedeg gan Wasanaeth Diwylliant a Gwybodaeth Corea, is-adran o Weinyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth De Corea.[1]
Mentrau Fel rhan o ymdrechion i gyflwyno a lledaenu diddordeb mewn agweddau amrywiol ar ddiwylliant Corea, mae'r canolfannau wedi trefnu llawer o raglenni o dan y categorïau celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilm a choginio.[2]
Rhestr o Ganolfannau Diwylliannol Corea
[golygu | golygu cod]
De Corea
O 2021 ymlaen, mae 33 o Ganolfannau Diwylliannol Corea mewn 28 o wledydd.[3]
Asia-Môr Tawel
[golygu | golygu cod]Awstralia - Sydney
Gweriniaeth Pobl Tsieina - Beijing and Shanghai
Hong Kong - Hong Cong
India - Delhi Newydd
Indonesia - Jakarta
Japan - Tokyo ac Osaka
Casachstan - Astana
Y Philipinau - Taguig
Gwlad Tai - Bangkok
Fietnam - Hanoi
Ewrop
[golygu | golygu cod]Gwlad Belg - Brwsel
Ffrainc - Paris
Almaen - Berlin
Hwngari - Budapest
Yr Eidal - Rhufain
Gwlad Pwyl - Warsaw
Rwsia - Moscow
Sbaen - Madrid
Y Deyrnas Unedig - Llundain
Yr Americas
[golygu | golygu cod]Yr Ariannin - Buenos Aires
Brasil - São Paulo
Canada - Ottawa
Mecsico - Dinas Mecsico
Unol Daleithiau - Washington D.C., Los Angeles ac Efrog Newydd
Dwyrain Canol ac Affrica
[golygu | golygu cod]Yr Aifft - Cairo
Nigeria - Abuja
De Affrica - Pretoria
Twrci - Ankara
Yr Emiradau Arabaidd Unedig - Abu Dhabi
Sefydliadau tebyg
[golygu | golygu cod]Mae Canolfan Diwylliannol Corea yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gydag Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ KOCIS, Korean Culture and Information Service
- ↑ "All eyes Turn to Korean Culture in London". The Korea IT Times. Cyrchwyd 20 January 2013.
- ↑ KOREAN CULTURAL CENTERS
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol
- Sianel 'Gateway to Korean Culture Sianel Youtube y KCC