Indian Council for Cultural Relations

Oddi ar Wicipedia
Indian Council for Cultural Relations
Enghraifft o'r canlynolasiantaeth lywodraethol, sefydliad diwylliannol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1950 Edit this on Wikidata
Gweithwyr208 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadLlywodraeth India Edit this on Wikidata
PencadlysDelhi Newydd Edit this on Wikidata
RhanbarthDelhi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://iccr.gov.in/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo'r Indian Council for Cultural Relations

Mae Indian Council for Cultural Relations (talfyriad ICCR), yn sefydliad ymreolaethol o Lywodraeth India, sy'n ymwneud â chysylltiadau diwylliannol byd-eang India, trwy gyfnewid diwylliannol â gwledydd eraill a'u pobl. Fe'i sefydlwyd ar 9 Ebrill 1950 gan Maulana Abul Kalam Azad, Gweinidog Addysg cyntaf India annibynnol.

Mae Pencadlys yr ICCR wedi'i leoli yn Azad Bhavan, I.P. Estate, [[Delhi Newydd], gyda swyddfeydd rhanbarthol yn Bangalore, Chandigarh, Chennai, Cuttack, Goa, Guwahati, Hyderabad, Jaipur, Kolkata, Lucknow, Mumbai, Patna, Pune, Shillong, Thiruvananthapuram & Varanasi. Mae'r cyngor hefyd yn gweithredu cenadaethau rhyngwladol, gyda chanolfannau diwylliannol sefydledig yn Georgetown, Paramaribo,[1] Port Louis, Jakarta, Mosgo, Valladolid, Berlin, Cairo, Llundain (Canolfan Nehru, Llundain), Tashkent, Almaty, Johannesburg, Durban, Port of Sbaen a Colombo. Mae ICCR wedi agor canolfannau diwylliannol newydd yn Dhaka, Thimpu, Sao Paulo, Kathmandu, Bangkok, Kuala Lumpur a Tokyo.[2][3]

Gweithgareddau[golygu | golygu cod]

Copi o ffiguryn Hindŵaidd Shiva Nataraja, rhodd i Amgueddfa Celf Asiaidd Corfu, Gwlad Groeg

Mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â'i fandad o ddiplomyddiaeth ddiwylliannol trwy ystod eang o weithgareddau. Yn ogystal â threfnu gwyliau diwylliannol yn India a thramor, mae'r ICCR yn cefnogi'n ariannol nifer o sefydliadau diwylliannol ledled India, ac yn noddi perfformwyr unigol mewn dawns, cerddoriaeth, ffotograffiaeth, theatr, a'r celfyddydau gweledol. Mae hefyd yn gweinyddu Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddealltwriaeth Ryngwladol, a sefydlwyd gan Lywodraeth India yn 1965, y dyfarnwyd ei gwobr ddiwethaf yn 2009.[4]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Cyhoeddir chwe chyfnodolyn chwarterol mewn pum iaith wahanol :

Cyhoeddiad Iaith
Indian Horizons Saesneg
Africa Quarterly Saesneg
Gagananchal Hindi
Papeles de la India Sbaeneg
Rencontre Avec I’ Inde Ffrainc
Thaqafat-ul-Hind Arabeg

Sefydliadau tebyg[golygu | golygu cod]

Mae Indian Council for Cultural Relations yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Welcome to Indian Cultural Centre, Embassy of India,Paramaribo". iccsur.org. Cyrchwyd 18 April 2018.
  2. "Indian Council for Cultural Relations (ICCR): about the organisation". iccr.tripod.com. Cyrchwyd 18 April 2018.
  3. "Indian Council for Cultural Relations Jaipur". facebook.com. Cyrchwyd 18 April 2018.
  4. "Nehru Award Recipients". Indian Council for Cultural Relations. Government of India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 August 2016. Cyrchwyd 8 October 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.