Paramaribo
| Math | dinas, dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol |
|---|---|
| Poblogaeth | 223,757 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC−03:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Paramaribo District |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 182 km² |
| Uwch y môr | 3 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Swrinam, Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 5.87°N 55.17°W |
![]() | |
Prifddinas a dinas fwyaf Swrinam yng ngogledd-ddwyrain cyfandir De America yw Paramaribo (llysenw: Par'bo). Gorwedd ar lannau Afon Swrinam yn Ardal Paramaribo, tua 15 km o lan y Cefnfor Iwerydd. Mae gan Paramaribo boblogaeth o tua 250,000 o bobl, tua hanner poblogaeth y wlad ei hun. Mae hen ddinas Paramaribo, o fewn y ddinas ei hun, ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 2002.
Dechreuodd Paramaribo gan yr Iseldirwyr fel gwersyll fasnachu. Fe'i cipwyd gan Brydain yn 1630, ac yn 1650 daeth yn brifddinas y wladfa Brydeinig newydd. Ond cipwyd y dref gan yr Iseldiroedd yn 1667 a bu dan reolaeth y wlad honno fel rhan o wladfa Swrinam o 1815 hyd annibyniaeth Swrinam yn 1975. Mae'r trigolion yn hanu o India, Swrinam ei hun, Affrica, a'r Iseldiroedd.
Yn Ionawr 1821 cafwyd tân mawr yng nghanol y ddinas a ddinistriodd tua 400 o dai ac adeiladau eraill, i gyd yn adeiladau pren. Dinistriwyd tua 46 o dai gan dân arall ym Medi 1832 yn y rhan o'r hen ddinas a adanbyddir fel y Waterkant.
Ceir nifer o adeiladau hanesyddol o'r cyfnod trefedigaethol yng nghanol y ddinas. Lleolir unig sinema y wlad yn Paramaribo.

Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Mosg Swriname
- Senedd Swrinam
- Teml Arya Dewaker
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Anton de Kom (1898–1945), awdur
- Lieve Hugo (1934–1975), canwr
- Ronald Snijders (g. 1951), cerddor ac awdur
