Cuttack
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 606,007 |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cuttack district |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 192.5 km² |
| Uwch y môr | 36 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 20.45°N 85.87°E |
| Cod post | 753001 |
![]() | |

Dinas yn nhalaith Odisha, India yw Cuttack (Hindi: कटक, ynganer Katak, o'r gair Sansgrit kataka sy'n golygu 'caer'). Mae'n un o'r dinasoedd hynaf yn India ac yn ganolfan ddiwylliannol a masnachol Odisha. Dyma ail ddinas fwyaf Odisha. Fe'i lleolir ar rimyn o dir sy'n gorwedd rhwng Afon Mahanadi a'i phrif lednant Afon Kathajodi. Poblogaeth: 750,000 (2007).
Sefydlwyd Cuttack yn 989 OC a bu'n brifddinas Odisha am fil o flynyddoedd bron, hyd 1947: daeth dinas newydd Bhubaneswar, 20 km i ffwrdd, yn brifddinas yn 1948. Cyfeirir at Cuttack a Bhubaneswar gyda'i gilydd fel "Dinasoedd Gefaill" Odisha. Er iddi golli allan fel safle'r brifddinas, erys Cuttack yn ganolfan hanesyddol y dalaith ac sy'n enwog am ei waith crefft mewn arian, ifori a phres ac am frethynnau wedi'u gweu o sidan a cotwm.
Gorwedd y ddinas ar Briffordd 5, sy'n ei chysylltu gyda Kolkata i'r gogledd a Chennai i'r de. Fe'i gwasanaethir gan rwydwaith o fysus a threnau hefyd.

