Goethe-Institut

Oddi ar Wicipedia
Goethe-Institut
Enghraifft o'r canlynolsefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, sefydliad rhyngwladol, sefydliad elusennol, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1951 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganDeutsche Akademie Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGoethe-Institut Kraków, Goethe-Institut Denmark, Goethe-Institut Ghana, Goethe-Institut Pakistan, Villa Kamogawa, Goethe-Institut New York, Goethe-Institut Jordan, Goethe-Institut Hungary, Goethe-Institut Bangladesh, Goethe-Institut Lebanon, Goethe-Institut Bordeaux, Goethe-Institut Warsaw, Goethe-Institut Prague, Goethe-Institut Sudan, Goethe-Institut Mexico, Goethe-Institut Berlin, Goethe-Institut Frankfurt, Goethe-Institut Alexandria, Goethe-Institut Cairo, Goethe-Institut Athens, Goethe-Institut South Africa, Goethe-Institut Lille, Goethe-Institut Afghanistan, Goethe-Institut Boston, Goethe-Institut Buenos Aires, Goethe-Institut Ireland, Goethe-Institut Syria, Goethe-Institut Tunisia, Goethe-Institut Malaysia, Goethe-Institut Central Office Munich, Goethe-Institut Ukraine, Goethe-Institut Nigeria, Goethe-Institut Palestinian Territories, Goethe-Institut Tel Aviv, Goethe-Institut London, Goethe-Institut Glasgow, Goethe-Institut Moscow, Goethe-Institut Saint Petersburg, Goethe-Institut Novosibirsk, Goethe-Institut Munich, Goethe-Institut Istanbul, Goethe-Institut Ankara, Goethe-Institut İzmir, Goethe-Institut Paris, Goethe-Institut Togo, Goethe-Institut Amsterdam, Goethe-Institut Rotterdam, Goethe-Institut Philippines, Goethe-Institut Cameroon, Goethe-Institut Washington, Goethe-Institut Lyon, Goethe-Institut Strasbourg, Goethe-Institut São Paulo, Goethe-Institut Rio de Janeiro, Goethe-Institut Côte d’Ivoire, Goethe-Institut Montréal, Goethe-Institut Ottawa, Goethe-Institut Toronto, Goethe-Institut Jerusalem, Goethe-Institut Manchester, Goethe-Institut Chicago, Goethe-Institut Barcelona, Goethe-Institut Madrid, Goethe-Institut San Sebastián, Goethe-Institut Hamburg, Goethe-Institut Göttingen, Goethe-Institut Dresden, Goethe-Institut Norway, Goethe-Institut Schweden, Goethe-Institut Finland, Goethe-Institut Bulgaria, Goethe-Institut Tokyo, Goethe-Institut Osaka, Goethe-Institut Nancy, Goethe-Institut Toulouse, Goethe-Institut Genoa, Goethe-Institut Milan, Goethe-Institut Naples, Goethe-Institut Palermo, Goethe-Institut Rome, Goethe-Institut Trieste, Goethe-Institut Turin, Goethe-Institut Georgia, Goethe-Institut Abu Dhabi, Goethe-Institut Iraq, Goethe-Institut Algeria, Goethe-Institut Angola, Goethe-Institut Córdoba, Goethe-Institut Ethiopia, Goethe-Institut Melbourne, Goethe-Institut Sydney, Goethe-Institut Curitiba, Goethe-Institut Porto Alegre, Goethe-Institut Salvador, Goethe-Institut Bosnia and Herzegovina, Goethe-Institut Beijing, Goethe-Institut Shanghai, Goethe-Institut Hong Kong, Goethe-Institut Bolivia, Goethe-Institut Burkina Faso, Goethe-Institut Chile, Goethe-Institut Congo, Goethe-Institut Portugal, Goethe-Institut Porto, Goethe-Institut Taipei, Goethe-Institut New Zealand, Goethe-Institut Bonn, Goethe-Institut Bremen, Goethe-Institut Düsseldorf, Goethe-Institut Freiburg, Goethe-Institut Schwäbisch Hall, Goethe-Institut Senegal, Goethe-Institut Uzbekistan, Goethe-Institut Cyprus, Goethe-Institut Rabat, Goethe-Institut Casablanca, Goethe-Institut Namibia, Goethe-Institut Riyadh, Goethe-Institut Calcutta, Goethe-Institut New Delhi, Goethe-Institute Bengaluru, Goethe-Institut Pune, Goethe-Institut Mumbai, Goethe-Institut Chennai, Goethe-Institut Colombia, Goethe-Institut Peru, Goethe-Institut Serbia, Goethe-Institut Hanoi, Goethe-Institut Ho Chi Minh City, Goethe-Institut Uruguay, Goethe-Institut Thessaloniki, Goethe-Institut Singapore, Goethe-Institut Estonia, Goethe-Institut Bandung, Goethe-Institut Jakarta, Goethe-Institut Iran, Goethe-Institut Iceland, Goethe-Institut Kazakhstan, Goethe-Institut Kenya, Goethe-Institut Croatia, Goethe-Institut Korea, Goethe-Institut Latvia, Goethe-Institut Lithuania, Goethe-Institut North Macedonia, Goethe-Institut Mongolia, Goethe-Institut Myanmar, Goethe-Institut Ruanda, Goethe-Institut Romania, Goethe-Institut Slovenia, Goethe-Institut Sri Lanka, Goethe-Institut Tanzania, Goethe-Institut Thailand, Goethe-Institut Venezuela, Goethe-Institut San Francisco, Goethe-Institut Los Angeles, Goethe-Institut Belarus, Goethe-Institut Slovakia, Goethe-Institut Marseille, Goethe-Institut Capitol Office Berlin, Goethe-Institut Gulf-Region, Dubai Office, Goethe-Institut Muscat, Goethe-Institut Belgium, Goethe-Institut Mannheim Edit this on Wikidata
SylfaenyddCabinet Gweriniaeth Ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolBibliothek & Information Deutschland, European Union National Institutes for Culture, Deutscher Musikrat, German Language Council, Comisiwn UNESCO yr Almaen, Association of Language Testers in Europe, DeGEval – Evaluation Society, Kulturweit, Prix Jeunesse Foundation, American Association of Teachers of German, International Federation of Library Associations and Institutions Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithioleingetragener Verein Edit this on Wikidata
PencadlysGoethe-Institut Central Office Munich Edit this on Wikidata
Enw brodorolGoethe-Institut Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.goethe.de/, https://www.goethe.de/en/, https://swb.bsz-bw.de/DB=2.308/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo yr Goethe-Istitut

Sefydliad diwylliannol Almaeneg yw'r Goethe-Institut. Mae'n sefydliad cyhoeddus yn yr Almaen a'i genhadaeth yw hyrwyddo gwybodaeth o'r iaith Almaeneg a gofalu am gydweithrediad diwylliannol rhyngwladol. Yn ogystal, mae'r corff cyhoeddus hwn yn ceisio hyrwyddo cysylltiadau tramor rhwng yr Almaen a'r gwledydd lle mae wedi'i sefydlu. Ariennir y Goethe-Institut yn bennaf gan grantiau gan Weinyddiaeth Materion Tramor yr Almaen ac i raddau llai trwy ffioedd cwrs ac arholiadau Almaeneg swyddogol. Enwyd y Sefydliad wedi'r awdur Almaenig o'r 19g, Johann Wolfgang von Goethe. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.

Hanes[golygu | golygu cod]

Fe'i crëwyd yn 1951 fel olynydd i'r Academi Almaenig (Deutsche Akademie, DA 1925). Ei dasg gyntaf oedd hyfforddi athrawon Almaeneg fel iaith dramor yn yr Almaen. Yn 2001 unodd â Inter Nationes, sefydliad o Swyddfa'r Wasg yn yr Almaen a grëwyd ym 1952. Mae ei bencadlys wedi'i leoli yn ninas München ac mae ganddi 12 sefydliad yn yr Almaen a 158 o sefydliadau dramor mewn cyfanswm o 98 o wladwriaethau. Ym 1952, sefydlwyd y Goethe-Institut cyntaf dramor, yn Athen.

Prif gerrig filltir[golygu | golygu cod]

Y (Bundestag), senedd-dy'r Almaen a chyllidwr y Goethe-Institut
  • 1951: blwyddyn sefydlu'r Goethe-Institut sy'n cymryd drosodd o'r hen Academi Almaenig (Deutsche Akademie, DA).[1].
  • 1953: Mae'r cyrsiau Almaeneg cyntaf yn cychwyn yn Bad Reichenhall yn Bafaria, ac yn fuan, oherwydd y galw cynyddol, ychwanegir canolfannau dysgu newydd yn Murnau a Kochel. Y nod yw dewis trefi bach, delfrydol sy'n arddangos y ddelwedd orau o'r Almaen ar ôl y rhyfel yn ogystal â hyrwyddo'r iaith Almaeneg. Roedd y gwersi yn dilyn y gwerslyfr cyntaf a ddatblygwyd gan y Goethe-Institut, yr enwog "Schulz-Griesbach".[1]
  • 1953-55: darlithwyr tramor yr hyn a arferai fod y Deutsche Akademie yn symud i'r Goethe-Institut. Tasgau'r athrofa bellach yw addysgu Almaeneg, hyfforddi athrawon a darparu'r digwyddiadau diwylliannol sy'n cyd-fynd â'r cyrsiau.
  • 1959-60: ar fenter cyfarwyddwr adran artistig y Weinyddiaeth Materion Tramor Dieter Sattler , mae'r Goethe-Institut yn ymgorffori'r holl sefydliadau eraill o ddiwylliant yr Almaen sy'n bresennol dramor, gan ddod felly yr unig ganolfan gyfeirio yn y byd.[1].
  • 1968: Wedi'i ddylanwadu gan brotestiadau myfyrwyr diwedd y 1960au, mae'r Goethe-Institut yn addasu ac yn diweddaru ei raglen, gan ei ehangu gyda digwyddiadau diwylliannol sy'n cynnwys themâu cymdeithasol-wleidyddol a chelf avant-garde.[1]
  • 1976: y Weinyddiaeth Materion Tramor a'r Goethe-Institut yn arwyddo cytundeb sy'n caniatáu i'r Goethe ddod yn sefydliad annibynnol.[1]
  • 1980: lluniwyd prosiect newydd ar leoliad y swyddfeydd: wedi'u lleoli'n wreiddiol mewn trefi bach, yn enwedig yn Bafaria, maent bellach yn cael eu symud i ddinasoedd mawr a champysau prifysgol.
  • 1989: Mae cwymp Mur Berlin yn nodi trobwynt i'r Almaen ac i'r Goethe-Institut. Ehangwyd ei weithgareddau, a oedd yn canolbwyntio ar Orllewin Ewrop yn y 1990au, i ffryntiau newydd nad oeddent yn hygyrch hyd yn hyn am resymau gwleidyddol, megis Dwyrain Ewrop. Mae nifer o sefydliadau newydd yn cael eu geni yn y gwledydd hyn.[1]
  • 2001: Goethe-Institut yn uno â sefydliad Almaeneg, Inter Nations.[1]
  • 2004: agor swyddfa yn Pyongyang (Gogledd Corea), yna caewyd yn 2009.
  • 2005: ar Ebrill 29 2005, cafodd Goethe-Institut o Lomé yn Togo ei ddinistrio a'i roi ar dân gan bobl ifanc a ymosododd ar y Sefydliad Diwylliannol ar ôl saethu yn yr adeilad. Yn dilyn ymgyrch etholiadol gwrth-Almaeneg llywodraeth Togo, mae'n gredadwy mai gweithred wleidyddol oedd hon. Ym marn llywodraeth Togo ar y pryd, cymerodd yr Almaen ochr yr wrthblaid Togo. Ar ôl yr ymosodiad hwn, galwyd ar holl ddinasyddion yr Almaen oedd yn byw yn Togo i adael y wlad.[2].
  • 2005: y Goethe-Institut yn derbyn gwobr "Tywysog Asturias" (Sbaen).
  • 2007: am y tro cyntaf dyranodd y Bundestag, Senedd yr Almaen, a chynyddu'r arian a fwriedir ar gyfer y Goethe-Institut.[1]
  • 2010: mae ffilm fer doniol a wnaed gan y dylunydd a'r cyfarwyddwr Eidalaidd, Bruno Bozzetto, o'r enw Va bene , yn canolbwyntio ar ystrydebau a'r gwahaniaethau rhwng yr Eidal a'r Almaen, a wnaed ar gyfer yr Eidal Goethe-Institut,[1] yn cael ei ryddhau.
  • 2014: Agorwyd y swyddfa ym Myanmar.

Trefniadaeth[golygu | golygu cod]

y pencadlys ym München

Mae tua 246,000 o bobl yn cymryd rhan yn y cyrsiau Almaeneg hyn bob blwyddyn. Mae'r Goethe-Istitut yn un o ddarparwyr dysgu Almaeneg fel ail-iaith ac yn dilyn canllawiau mesur hyfedredd a ddatblygwyg gan Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CERN).

Strwythurau[golygu | golygu cod]

Mae'r Goethe-Institut wedi'i leoli ym Munich. Ei Llywydd yw Klaus-Dieter Lehmann, gyda chefnogaeth yr Ysgrifennydd Cyffredinol Johannes Ebert a'r Prif Swyddog Ariannol Dr Bruno Gross. Mae gan y sefydliad ganghennau mewn tair ar ddeg o ddinasoedd yn yr Almaen a 159 o sefydliadau a swyddfeydd cyswllt mewn 98 o wledydd. Mae ganddo hefyd tua mil o sefydliadau tramor eraill a phartneriaid cydweithredu ledled y byd, y mae'r Goethe-Institut yn darparu cymorth ariannol a/neu fesurau ar gyfer ymgynghoriaeth a sicrhau ansawdd iddynt.[3]

Cyllido[golygu | golygu cod]

Ariennir y Goethe-Institut yn bennaf gan lywodraeth yr Almaen, mae ganddo tua 3,000 o weithwyr a chyllideb gyffredinol o tua €366 miliwn, y mae dros hanner ohono'n cael ei ariannu gan ffioedd dysgu. Mae'r Goethe-Institut hefyd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr tramor sydd am ddod yn athrawon yr iaith Almaeneg.[4]

Ers 2007, am y tro cyntaf ar ôl blynyddoedd o ostyngiad mewn cymorthdaliadau, mae'r Goethe-Institut wedi derbyn cymorthdaliadau uwch, gyda'r nod o ailstrwythuro'r sefydliad a'i wneud yn fwy hyblyg ac effeithlon. Mae hyn wedi arwain at ailstrwythuro a lleihau maint y pencadlys yn ogystal â symud cymwyseddau a chyfrifoldebau tuag at y sefydliadau rhanbarthol. Y gyllideb flynyddol a ddyrannwyd i'r Goethe-Institut yn 2015 oedd tua 387 miliwn ewro.[5]

Mae'r incwm o gyrsiau iaith a ffioedd arholiad mewn lleoliadau yn yr Almaen a thramor, ynghyd â rhoddion a nawdd trydydd parti, tua 157 miliwn ewro.

Mae grantiau'r llywodraeth ar gael i sefydliadau tramor; mae'r 13 Goethe-Instituts yn yr Almaen yn cael eu hariannu trwy werthu cyrsiau iaith.

Cyd-destun[golygu | golygu cod]

Mae'r sefydliad hwn yn cyfateb i Institut Ramon Llull (Catalaneg), Institutul Cultural Român (Rwmania) Instituto Cervantes (Sbaen), Instituto Camões (Portiwgal), Alliance française ac Institut français (Ffrainc), y Cyngor Prydeinig neu'r Società Dante Alighieri a'r Istituto Italiano di Cultura (Yr Eidal). Mae pob un ohonynt yn gweithio i ledaenu eu priod ddiwylliannau ledled y byd, gan hybu gwybodaeth rhai o brif ieithoedd Ewrop.

Yn 2005 cafodd Sefydliad Cervantes, Sefydliad Camões, yr Alliance Française, y Cyngor Prydeinig, y Goethe-Institut a'r Società Dante Alighieri eu cydnabod yn rhyngwladol am eu gwaith trwy ennill Gwobr Tywysog Asturias mewn Cyfathrebu a'r Dyniaethau y flwyddyn honno.[6]

Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill[golygu | golygu cod]

Mae'r Goethe-Institut yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 "History".
  2. "German Goethe Institut Attacked in Togo".
  3. "Goethe - Institut".
  4. "Borse di studio".
  5. "Supporti".
  6. Fundació Príncep d'Astúries, Príncep d'Astúries de Comunicació i Humanitats 2005 Archifwyd 2010-03-23 yn y Peiriant Wayback.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.