Pune
Gwedd
| Math | dinas, dinas â miliynau o drigolion |
|---|---|
| Poblogaeth | 6,200,000 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Gefeilldref/i | Vacoas-Phoenix, San Jose, Fairbanks, Bremen, Tromsø, Nagoya, Tref y Penrhyn, Fairbanks North Star Borough, Okayama |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi, Marathi, Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Pune district |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 710 km² |
| Uwch y môr | 561 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Pimpri-Chinchwad |
| Cyfesurynnau | 18.5211°N 73.8553°E |
| Cod post | 411001–411062 |
![]() | |

Dinas yn nhalaith Maharashtra yng ngorllewin India yw Pune (Marathi/Hindi: पुणे, hefyd Poona). Roedd poblogaeth yr ardal ddinesig yn 5,050,000 yn 2008, yr wythfed o ran poblogaeth ymhlith dinasoedd India. Saif ger cymer Afon Mula ac Afon Mutha.
Daeth Pune i amlygrwydd yn y 17g fel canolfan y Peshwe, prif weinidogion Ymerodraeth Maratha. Wedi i'r ddinas ddod dan reolaeth Brydeinig yn 1817, daeth yn ganolfan weinyddol Arlywyddiaeth Bombay yn ystod cyfnod y monsŵn.
Mae'n adnabyddus am ei chryfder yn y sector addysgol, gyda naw prifysgol a mwy na chant o sefydliadau addysgol yn y ddinas.
