Shiva

Oddi ar Wicipedia
Shiva
Enghraifft o'r canlynolgod, Hindu deity, ffigwr chwedlonol Edit this on Wikidata
CrefyddShaivism edit this on wikidata
Rhan oTrimurti Edit this on Wikidata
Enw brodorol𑖫𑖰𑖪 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun o Shiva yn synfyfyrio, Bangalore, India
Erthygl am y duw Shiva yw hon. Gweler hefyd Shiva (gwahaniaethu).

Un o brif dduwiau Hindŵaeth yw Shiva (Sansgrit: शिव, Śiva "Y Ffafriol" neu "Coch ei liw"). O fewn Shivaeth mae ei addolwyr yn ei ystyried yn dduw Goruchel, ond mewn canghennau eraill o Hindŵaeth mae'n cael ei addoli fel un o'r chwe phrif ymrithiad neu agwedd o'r Hanfod Dwyfol. Gelwir Hindwiaid sy'n gwneud Shiva yn ganolbwynt eu haddoliad yn Siviaid (Sansgrit Śaiva). Adlewyrchir ei ran fel prif dduw Shivaeth yn ei enwau — Mahādeva ("Duw Mawr"; mahā = mawr + deva = duw), Maheśvara ("Arglwydd Mawr"; mahā = mawr + īśvara = arglwydd), a Parameśvara ("Arglwydd Goruchel"). Mae Shivaeth, gyda'r traddodiadau Vaishnava sy'n canolbwyntio ar Vishnu, a'r rhai Śākta sy'n canolbwyntio ar y Dduwies (Devī neu shakti: yr hanfod benywaidd) yn un o'r tair prif gangen yn Hindŵaeth.

Mae Shiva yn un o'r chwe phrif ffurf neu agwedd ar y Dwyfol yn Smartiaeth, enwad sy'n rhoi pwyslais arbennig ar chwech o'r duwiau; y pum arall yw Vishnu, Shakti, Ganesha, Kartikkeya a Surya. Mae'r ddysgeidiaeth "uniongred" o fewn Hindŵaeth yn ystyried bod Shiva, Brahma, a Vishnu, yn cynrychioli'r tair prif agwedd ar y Dwyfol, a elwir gyda'i gilydd fel y Trimurti neu'r Drindod. O fewn y system Trimurti, Brahma yw'r Creawdwr, Vishnu yw'r Cynhaliwr, a Shiva yw'r Dinistriwr neu'r Newidydd.

Addolir Shiva fel rheol yn ffurf ei linga. Mewn delweddau mae'n cael ei bortreadu fel rheol fel duw wedi ymgolli mewn synfyfyrdod dwfn neu'n dawnsio'r Tandava ar ddiafol Anwybodaeth yn ei ymrithiad fel y Nataraja, neu Arglwydd y Ddawns. Mae ganddo sawl cymar dwyfol, sy'n cynrychioli ei agwedd fenywaidd neu shakti; y bennaf o'r rhain yw'r dduwies Parvati. Mae ei gartref dwyfol yn Kailas (Kailasa).

Ceir enghraifft o'r gair Sansgrit shiva yn y Rig Veda, ond gair yn golygu "ffafriol" ydyw yn hytrach nag enw duw. Ymddengys na ddaeth addoliad Shiva yn gyffredin tan o gwmpas yr 2g OC. Fe'i cysylltir ag asthetiaeth a yoga. Mae ganddo 1008 o enwau.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.