Brahma

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Brahma on hamsa.jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolHindu deities Edit this on Wikidata
Rhan oTrimurti Edit this on Wikidata
Enw brodorol𑖤𑖿𑖨𑖮𑖿𑖦𑖯 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brahma
Gweler hefyd Brahma (Bwdhaeth) a Brahman (Vedanta).

Duw Hindŵaidd sy'n creu'r bydysawd ac sy'n un o'r Trimurti, gyda Vishnu (y Cynhaliwr) a Shiva (Y Dinistriwr) yw Brahma (Sansgrit Brahmā ब्रह्मा). Ni ddylid ei gymysgu â'r Brahman, yr Ysbryd Cosmig Goruchel yn athroniaeth Vedanta, er bod y ddau enw yn gytras. Ei chymar yw Saraswati, duwies Hindŵaidd dysg a doethineb. Uniaethir Brahmā yn aml gyda Prajapati, un o'r duwiau yn nhraddodiad y Veda. Mewn cymhariaeth â Vishnu a Shiva a sawl duw a duwies arall yn Hindŵaeth, nid yw Brahma yn ffigwr amlwg ym mywyd crefyddol y wlad.

Fel rheol portreadir Brahma fel ffigwr dynol coch ei liw gyda phedwar wyneb barfog a phedair braich. Mae'n preswylio yn Brahmaloka ("paradwys"). Mae'n marchogaeth Hamsa, aderyn chwedlonol tebyg i alarch a gysylltir â soma'r Rig Veda; daeth Hamsa yn symbol o'r Enaid a'r Ysbryd Goruchel.

Mae tymor bywyd Brahma yn cael ei alw yn kalpa, sef yr uned sylfaenol yng nghosmoleg draddodiadol India.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Om symbol.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.