Saraswati

Oddi ar Wicipedia
Saraswati
Enghraifft o'r canlynolriver god, Devi, Tridevi Edit this on Wikidata
Enw brodorolसरस्वती Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duwies doethineb, gwyddoniaeth, iaith a cherddoriaeth yng nghrefydd Hindŵaeth yw Saraswati (hefyd Sarasvati). Mae hi'n wraig i'r Brahma, Creawdwr y Bydysawd. Yn ôl yr ysgrythurau Hindŵaidd, Saraswati a greodd Devanagari, yr wyddor Sanscrit.

Ganed Saraswati o Brahma ei hun. Gwyn yw ei lliw. Mae hi'n cael ei phortreadu yn ferch ddeniadol, heb freichiau ychwanegol fel rheol. Ei virhana ("cerbyd") yw'r paun ac mae hi'n ei farchogaeth gan ddal y vina (offeryn cerdd linynnol) yn ei llaw.

Yn wreiddiol, duwies yr afon o'r un enw, un o'r saith afon sanctaidd, oedd hi. Yn yr agwedd honno fe'i cysylltir â ffrwythlondeb.

Cyfeirir at Saraswati yn y Rig Veda fel Vach (lleferydd), ymgnawdoliad y Gair, Mam y Duwiau a Goleuni'r Rishis (doethion). Fe'i henwir yn y Mahabharata fel mam y rishi Sarasvata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.