Don Quixote
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Miguel de Cervantes |
Cyhoeddwr | Francisco de Robles, Juan de la Cuesta |
Gwlad | Sbaen |
Iaith | Sbaeneg Modern Cynnar |
Dyddiad cyhoeddi | 1605, 1615 |
Genre | Rhamant, ffuglen antur, parody, found manuscript |
Cymeriadau | Sancho Panza, Alonso Quijano, Rocinante, Dulcinea, Rucio, Pero Perez, Ginés de Pasamonte, Cardenio, Dorotea, Luscinda, Don Fernando, Ruy Pérez de Viedma, Zoraida, Juan Pérez de Viedma, Lothario, Anselmo, Camila, Maritornes, Marcela, Clavileño, Sansón Carrasco, Maese Nicolás, Clara de Viedma, Cide Hamete Benengeli, Teresa Panza |
Yn cynnwys | Don Quixote, part 1, Don Quixote, part 2 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Ymerodraeth Sbaen, La Mancha, Barcelona |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Don Quixote yw'r enw arferol ar nofel Miguel de Cervantes sydd a'r teitl llawn El ingenioso hidalgo don Quixote de la Mancha, neu yn orgraff Sbaeneg modern, Don Quijote. Y nofel yma, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1605, yw nofel enwocaf Sbaen; mae hefyd yn un o nofelau enwocaf y byd. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n nofel ddoniol ym yr arddull bicaresg, ond mae neges fwy difrifol iddi hefyd.
Prif amcan Cervantes wrth ysgrifennu Don Quixote oedd dinistrio'r llyfrau marchogwriaeth a rhamant a oedd mor boblogaidd yn Sbaen. Oherwydd y brwydro yn erbyn y Mwriaid bu'r llyfrau rhamant oroesi yn hwy nac unrhyw fan arall. Nid ef oedd yr unig un. Yn 1533 pasiodd Siarl V ddeddf yn gwahardd dwyn Rhamantau Marchogwriaeth i mewn i India'r Gorllewin. yn 1555 ceisiwyd deddfu yn ei herbyn a'u llosgi, ond heb lwyddo.[1]
Mae'r arwr, Alonso Quixano, yn foneddwr gwledig sy'n byw yn La Mancha. Trwy ddarllen gormod o lyfrau ar sifalri, mae'n dod i gredu ei fod yn byw mewn byd o farchogion crwydr o'r cyfnod yma, ac mae'n cychwyn allan gyda'i ysgweier Sancho Panza, yn marchogaeth ar ei hen geffyl "Rocinante". Mae'n rhaid i farchog gael cariad, a dewis Don Quixote yw Dulcinea del Toboso, mewn gwirionedd Aldonza Lorenzo, merch fferm gyfagos, sy'n gwybod dim am hyn.
Dilynir Don Quixote trwy gyfres o anturiaethau; un o'r enwocaf yw ei ymosodiad ar felinau gwynt gan dybio mai cewri ydynt. Ar ddiwedd y nofel, mae'n sylweddoli ei fod wedi bod yn ei dwyllo ei hun, ac yn marw.
Yn 2005, dathlwyd pedwar can mlwyddiant y llyfr mewn nifer o ffyrdd; er enghraifft yn Feneswela, rhannodd yr arlywydd Hugo Chávez filiwn o gopiai am ddim fel rhan o ymgyrch yn erbyn anllythrenedd.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anturiaethau Don Cwicsot J.T.Jones Llyfrau'r Dryw.