Marchog crwydr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
The Knight Errant gan John Everett Millais, 1870.

Cymeriad o lenyddiaeth ramantaidd yr Oesoedd Canol yw'r marchog crwydr neu'r marchog crwydrad. Bydd y marchog crwydr yn teithio gan ddangos ei ddewrder a'i sifalri, yn ymladd gornestau a pas d'armes, yn canlyn serch llys, ac yn helpu'r rhai mewn angen.[1]

Marchogion Cylch Arthur, gan gynnwys Lawnslot a Gwalchmai ap Gwyar, yw'r marchogion crwydr gwreiddiol. Yr arch-chwedl oedd yr Ymchwil am y Greal Santaidd, yn Perceval, le Conte du Graal gan Chrétien de Troyes (1180au). Gwelir defnydd cyntaf y term knygt erraunt yn y gerdd Sir Gawain and the Green Knight yn y 14g.[2] Cafodd yr uchelwr Ffrancaidd Rolant ei bortreadu fel marchog crwydr mewn llenyddiaeth Ffrengig ac Eidalaidd. Roedd straeon y marchogion crwydr yn boblogaidd mewn llysoedd Ewrop hyd yr Oesoedd Canol Diweddar, yn bennaf yn yr ieithoedd Ffrangeg Canol, Saesneg Canol ac Almaeneg Canol.

Yn yr 16g daeth y llenyddiaeth hon yn boblogaidd iawn ym Mhenrhyn Iberia, er enghraifft Amadis de Gaula. Wrth i genre'r marchog crwydr droi'n hen ffasiwn ar ddiwedd y ganrif, cafodd ei dychanu gan y nofel bicarésg. Yn Don Quixote (1605), mae'r prif gymeriad yn ceisio byw fel marchog crwydr ar ôl darllen straeon am eu hanturiaethau ac yn troi'n barodi ohonynt. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth y cymeriad i'r golwg eto mewn nofelau hanesyddol y cyfnod Rhamantaidd. Heddiw, mae nifer o gymeriadau ffuglen yn seiliedig ar batrymlun y marchog crwydr, gan gynnwys ditectifs megis Sherlock Holmes a Philip Marlowe[3] ac archarwyr megis Batman.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]