Trwbadŵr

Oddi ar Wicipedia

Beirdd a gyfansoddai ganeuon yn Ocsitaneg yn ystod yr Oesoedd Canol mewn llysoedd ar draws Ewrop ond yn bennaf yn ne Ffrainc oedd y trwbadwriaid (Ocsitaneg: trobadors). Roedd y trwbadwriaid ymhlith y cyntaf i feithrin y ffenomen lenyddol a elwir yn gyffredinol 'serch llys' (Ocsitaneg: fin' amor). Mae tua hanner y 2,600 o ganeuon y trwbadwriaid sydd ar glawr yn cansos, sy'n canu clodydd merched. Mae'r genres eraill yn cynnwys cerddi dychanol a gwleidyddol (sirventés) a galarnadau ar gyfer noddwyr (planhs). Mae enwau rhyw 460 o drwbadwriaid yn hysbys. Roedd rhai, fel y trwbadŵr hysbys cyntaf, Guilhem de Peitieus (1071-1126), yn uchelwyr, ond daeth lleill, gan gynnwys Bernart de Ventadorn (tua 1135-1195), o dras werinol. Mae nifer o ganeuon gan trwbadwriaid benywaidd (trobairitz) wedi goroesi hefyd. Dechreuodd canu'r trwbadwriaid edwino yn Ocsitania wedi'r Groesgad yn erbyn yr Albigensiaid (1209-1229) ond erbyn hynny roeddent wedi gadael marc annileadwy ar y dychymyg Ewropeaidd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Simon Gaunt a Sarah Kay, The Troubadours: An Introduction (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1999)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.