Ffilm yng Nghymru
Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys Richard Burton a Peter Greenaway.
Ffilm Gymraeg
[golygu | golygu cod]- Prif: Ffilm Gymraeg
Mae ffilm yn y Gymraeg yn mynd yn ôl i Y Chwarelwr ym 1935, ffilm ddu-a-gwyn, gyda thrac sain Cymraeg ar riliau ar wahân, yn dangos agweddau ar fywyd chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog, yn cynnwys ei fywyd cartref, gwaith a'r capel. Cafodd ei chynhyrchu gan Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, a'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan John Ellis Williams. Cafodd y ffilm ei dangos mewn nifer o sinemâu cludadwy ar hyd a lled Cymru rhwng 1935 ac 1940, ac roedd hi'n llwyddiannus iawn yn y Gogledd. Dywedwyd mewn llythyr yn Y Cymro ym Mawrth 1936:
Mewn byd lle mae'r ffilmiau Saesneg yn cael eu perffeithio, teimlad rhyfedd oedd eistedd i lawr i edrych ar blentyn cyntaf-anedig y sinema Gymraeg. Pan sylweddolir fod y 'talkie' Americanaidd wedi bod mewn bri ers tua deuddeng mlynedd a'r ffilm ddistaw o flaen hynny rhaid cyfaddef bod rhywbeth o'i le pan sylweddolir fod Cymru wedi gorfod aros tan 1935 am enedigaeth ffilm genedlaethol.[1]
Erbyn heddiw, mae dwy ffilm wedi cael eu henwebu am Oscar: Hedd Wyn a Solomon & Gaenor.
Cymry Ym Myd Y Ffilmiau
[golygu | golygu cod]
Actorion[golygu | golygu cod] |
Cyfarwyddwyr[golygu | golygu cod] |
Cymru fel lleoliad i saethu ffilmiau
[golygu | golygu cod]Cafodd Cymru ei darganfod gan Hollywood yn gyntaf yn 1913 – ffilmiwyd Ivanhoe ger Castell Cas-Gwent a chyflogwyd 500 o bobl lleol fel rhodwyr.
Mae Bollywood hefyd wedi dangos diddordeb mewn saethu ffilmiau yng Nghymru.[2][3][4]
Gwyliau ffilm
[golygu | golygu cod]Abertoir - Gŵyl Ffilmiau Arswyd Genedlaethol Cymru
[golygu | golygu cod]Cynhelir Abertoir[5] yn Aberystwyth bob mis Hydref ers 2009.
Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Soundtrack
[golygu | golygu cod]Cynhelir Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Soundtrack - yng Nghaerdydd bob mis Tachwedd. Cynhaliwyd yr Ŵyl gyntaf yn 2008.
Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru
[golygu | golygu cod]Cynhelir Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru yn Aberystwyth bob mis Chwefror. Cynhaliwyd yr Wyl gyntaf yn 2003 a cheir cystadleuthau ym maesydd ffilm, teledu ac animeiddio ar gyfer myfyrwyr addysg bellach yng Nghymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Amanda Thomas, A Welsh Miscellany (Zymurgy Publishing, 2004)
- Berry, David, Wales and Cinema: The First Hundred Years (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Asiantaeth Ffilm Cymru Archifwyd 2007-07-22 yn y Peiriant Wayback
- Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru Archifwyd 2006-02-08 yn y Peiriant Wayback
- Ffresh - Gŵyl Delwedd Symudol Myfyrwyr Cymru
- Comisiwn Ffilm cymru Archifwyd 2007-02-21 yn y Peiriant Wayback
- Ffilm-Fap Gogledd Cymru Archifwyd 2006-11-05 yn y Peiriant Wayback
- BBC Cymru'r Byd - Ffilm
- Yn y Ffrâm Archifwyd 2010-09-22 yn y Peiriant Wayback