Paul Turner

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfarwyddwr ffilmiau o Cymreig yw Paul Turner (ganed 30 Rhagfyr 1945). Cyfarwyddodd y ffilm Hedd Wyn a chafodd ei henwebu am Oscar.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Turner yng Nghernyw. Ar ôl cyfnod o wneud astudiaethau ffilm, gweithiodd fel dyn camera a thorrwr ffilm. O 1971 tan 1982, gweithiodd fel golygydd rhaglenni i'r BBC. Dysgodd Gymraeg yn ystod y cyfnod yma. Fe weithiodd ar raglenni fel cyfres ddrama John Hefin, The Life and Times of David Lloyd George (1981). Yn yr un flwyddyn cynhyrchodd ei waith annibynnol cyntaf sef Trisgel, ffilm yn ôl David Berry sydd yn "ramant uchelgeisiol, di-ddeialog sy'n drwch o draddodiad a mytholeg".

Sefydlodd y cwmni cynhyrchu Teliesyn ar y cyd gyda Colin Thomas. Yn 1982/3 Enillodd y cwmni newydd gomisiwn am drama-ddogfen gan S4C o'r enw Chwedlau Serch yn ogystal â chyfres Saesneg a Chymraeg gefn-wrth-gefn i'r BBC o’r enw Arswyd y Byd / Tales From Wales.

Yn 1984, cyfarwyddodd Turner ddrama sengl awr o hyd ar gyfer S4C o’r enw Wil Six. mae'r ddrama yn adrodd atgofion dyn o'r amser yn fachgen ifanc mewn ysgol wledig, yn ogystal â'r drasiedi lesbiaidd Tra Bo Dwy a'r drama deledu Dihirod Dyfed'.

Cyfarwyddodd y ffilm Hedd Wyn yn 1992, y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am [[Gwobrau'r Academi|Wobr yr Academi] am y Ffilm Iaith Dramor orau. Aeth ymlaen i ennill llu o wobrau rhyngwladol eraill gan ddod â chlod a bri i sinema Cymraeg.

Aeth ymlaen i gyfarwyddo tair ffilm hyd llawn arall gyda'i gwmni cynhyrchu Pendefig - Cwm Hyfryd(1993), Dial (1995) a Porc Pei (1998) gafodd ei throi mewn i gyfres ddrama lwyddianus gan S4C. [2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei ail wraig oedd yr actores Gymreig Sue Roderick.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr cwmni Pendefig. Adalwyd ar 25 Chwefror 2016.
  2.  Porth - Paul Turner (25 Gorffennaf 2014). Adalwyd ar 25 Chwefror 2016.