Karl Francis
Karl Francis | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1942, 1943 Bedwas |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr ffilm |
Adnabyddus am | Rebecca's Daughters |
Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a theledu Cymreig yw Karl Francis (ganwyd 1 Ebrill 1942), sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth adain chwith.[1] Cafodd ei waith ei ysbrydoli gan bobl fel Chris Marker a Ken Loach ac mae wedi cynhyrchu gwaith yn Saesneg a Chymraeg.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Francis yn Bedwas, ger Caerffili. Enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Manceinion lle cafodd radd BA yn 1964. Yna fe fynychodd Hornsey College of Art i astudio am ddiploma ôl-raddedig am Ffilm mewn Addysg. Cychwynnodd ei yrfa yn y byd teledu yn 1971, yn gyntaf fel ymchwilydd annibynnol, cyn cymryd swydd cynhyrchu gyda Weekend World ar gyfer London Weekend Television.[2] Yn 1973 symudodd i'r BBC ac fe gynhyrchodd rhaglenni fel 2nd House.
Yn 1977 fe ysgrifennodd, cynhyrchodd a chyfarwyddodd y ddrama ddogfen Above us the Earth. Roedd y ffilm, a saethwyd yng ngwanwyn a haf 1975, yn cofnodi cau glofa Ogilvie yng Nghwm Rhymni a'r effaith ar y glowyr a'r gymuned ehangach. Mae'r ffilm yn defnyddio actorion proffesiynol ac amatur i ddangos y perthynas rhwng y gweithwyr, undebau a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, ynghyd â ffilm o arweinwyr gwleidyddol y dydd.[3] Mae'r ffilm yn cael ei ystyried yn bwysig am ei sylwebaeth gymdeithasol ac mae nawr yn rhan o Archif Sgrîn a Sain Cymru. Yn 2010 fe ddewiswyd Above us the Earth gan wefan celf BBC Cymru fel un o'r deg ffilm gorau am Gymru.[4] Yn 2012, fe ddewisodd y BFI/UK Film Council Above Us The Earth fel y ffilm annibynnol orau a wnaed erioed yng Nghymru.
Yn 1995 fe'i hapwyntiwyd yn Bennaeth Drama BBC Cymru,[5] a pharhaodd yn y swydd tan 1997.[1]
Yn 2008 rhyddhaodd y ffilm Hope Eternal, sy'n dweud stori nyrs o Madasgar yn gweithio mewn hosbis twbercwlosis ac AIDS yn y Congo. Fe wnaed Hope Eternal mewn chwe iaith gan gyfuno ffilm a barddoniaeth ar yr un pryd yn defnyddio isdeitlau Saesneg. Agorwyd Gŵyl Ffilm Hay Sony 2008 gyda'r ffilm a fe'i cynigwyd fel enwebiad y DU yng nghategori Ffilm Iaith Dramor Orau yr 82fed Gwobrau yr Academi; ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y pum enwebiad olaf.[6]
Yng Ngorffennaf 2009 fe roddwyd Francis ar gofrestr troseddwyr rhyw y DU ar ôl "cyfaddef drwgweithredoedd" mewn perthynas â gwneud lluniau anweddus o blant.[7] Fe wnaeth Francis ddatgan ei fod yn gweithio ar ffilm am y broblem o fasnachu plant ar gyfer rhyw, ac er ei fod wedi hysbysu'r heddlu am natur ei ymchwiliad o flaen llaw, roedd yn teimlo fod rhaid iddo dderbyn y rhybudd ar ôl i'w gyfrifiadur, oedd yn cynnwys gwaith ysgrifenedig ei fywyd, gael ei feddiannu.[8] Yng Ngorffennaf 2011 siaradodd Francis yn gyhoeddus am ei ddymuniad i weld y system rybuddio, lle cafodd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am ddwy flynedd, yn cael ei ddiwygio, i ystyried gwaith ymchwil dilys. Yn Awst 2011, fe wnaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu dderbyn honiad Francis fod Heddlu De Cymru wedi methu ymchwilio i gyfres o gwynion am driniaeth ei achos.[9] Ers 1 Awst 2011 mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'w gwynion.[9]
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Above Us the Earth (1977)
- The Mouse and the Woman (1980)
- Giro City (1982)
- Yr Alcoholig Llon (1983)
- Milwr Bychan (1984)
- Ms.Rhymney Valley" (1985)
- Nineteen 96 (1989)
- Rebecca's Daughters (1992)
- Streetlife (1995)
- One of the Hollywood Ten (2000)
- Hope Eternal (2008)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Factfinder (1971)
- Chekhov in Derry (1982)
- Morphine and Dolly Mixtures (1990)
- Raymond Williams: a Journey of Hope (1990)
- Civvies (1992)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Francis, Karl (1942- )". BFI Screenonline. Cyrchwyd 26 Ionawr 2010.
- ↑ "Francis, Karl (1942- )". BFI Screenonline. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
- ↑ "Above us the Earth". movinghistory.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-30. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
- ↑ "Top 10 Welsh films: Above Us The Earth". BBC Wales. 2010. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
- ↑ Culf, Andrew (14 December 1995). "Drama revival in BBC £191m winter season". The Guardian. t. 9. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ "Welsh film on Academy Award list". BBC News. 18 Hydref 2008. Cyrchwyd 17 Awst 2011.
- ↑ "Film director Karl Francis put on sex offenders' register". South Wales Echo. Walesonline. 2 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
- ↑ Shipton, Martin (22 Gorffennaf 2011). "Film director Karl Francis wants police caution reform after being branded sex offender". Western Mail. Walesonline. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
- ↑ 9.0 9.1 Shipton, Martin (1 Awst 2011). "Film director cautioned for downloading indecent images for research wins complaints victory against police". Western Mail. Walesonline. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Karl Francis yn yr Internet Movie Database
- 'Broadcasters refused to commission documentary on paedophile John Owen'
- Karl Francis's appeal against South Wales Police upheld
- Karl Francis case to be reviewed by South Wales Police
- Murdered Cardiff prostitute Lynette White appears as an angel in new play
- Film director Karl Francis asks 'is Wales asleep' in new documentary on the miners' strike