82ain seremoni wobrwyo yr Academi
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o 82fed seremoni wobrwyo yr Academi)
| Enghraifft o: | Academy Awards ceremony |
|---|---|
| Dyddiad | 7 Mawrth 2010 |
| Cyfres | Gwobrau'r Academi |
| Rhagflaenwyd gan | 81ain seremoni wobrwyo yr Academi |
| Olynwyd gan | 83ain seremoni wobrwyo yr Academi |
| Lleoliad | Dolby Theatre |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Cyfarwyddwr/wyr | Hamish Hamilton |
| Cynhyrchydd/wyr | Bill Mechanic, Adam Shankman |
| Gwefan | https://www.oscars.org/oscars/ceremonies/2010 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05qb8vx |
Cynhaliwyd yr 82ain seremoni wobrwyo yr Academi ar 7 Mawrth 2010 yn Theatr Kodak yn Hollywood, Los Angeles, Califfornia. Roedd y seremoni'n anrhydeddu ffilmiau gorau 2009. Darlledwyd seremoni Gwobrau'r Academi yn yr Unol Daleithiau ar sianel ABC. Cyflwynwyd y sioe gan yr actorion Alec Baldwin a Steve Martin. Dyma oedd y trydydd tro i Martin gyflwyno'r seremoni, wedi iddo lywyddu'r seremonïau yn 73ain seremoni gwobrwyo yr Academi a 75ain seremoni gwobrwyo yr Academi. Dyma oedd y tro cyntaf i Baldwin gyflwyno'r sioe.