James Cameron

Oddi ar Wicipedia
James Cameron
GanwydJames Francis Cameron Edit this on Wikidata
16 Awst 1954 Edit this on Wikidata
Kapuskasing Edit this on Wikidata
Man preswylMalibu, Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Fullerton College
  • Prifysgol Taleithiol California, Fullerton
  • Brea Olinda High School
  • Sonora High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, golygydd ffilm, dyfeisiwr, cyfarwyddwr, dyngarwr, peiriannydd, actor, fforiwr, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
PriodGale Anne Hurd, Suzy Amis, Kathryn Bigelow, Linda Hamilton, Unknown Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi am y Golygu Ffilm Gorau, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Neuadd Enwogion California, Gwobr Nierenberg, Gwobr Hans Hass, Medal Hubbard, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Golden Raspberry Award for Worst Screenplay, Cydymaith o Urdd Canada, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director Edit this on Wikidata

Mae James Francis Cameron (ganed 16 Awst 1954) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Canadaidd sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ffilmiau yn armywio o Terminator 2: Judgment Day i Titanic. O ran themâu, mae ffilmiau Cameron yn dueddol o astudio'r berthynas rhwng y ddynoliaeth a thechnoleg. Crëodd Cameron y gyfres o ffilmiau Terminator, gan weithio fel cyfarwyddwr a chyd-sgriptiwr y ffilmiau The Terminator a Terminator 2: Judgment Day. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd a sgriptiodd y ffilm Titanic, a enillodd unarddeg o Wobrau'r Academi ac a wnaeth dros $1.8 biliwn yr Unol Daleithiau (UDA) yn fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae'r ffilmiau a gyfarwyddwyd ganddo wedi codi tua $3biliwn (UDA), heb ystyried chwyddiant. Ar ôl cyfnod o gynhyrchu ffilmiau, trodd Cameron ei olygon at ffilmiau dogfen a datblygu'r System Gamera Uno 3-D ar y cyd. Ar hyn o bryd, mae'n bwriadu dychwelyd i gynhyrchu ffilmiau gyda'r ffilm wyddonias Avatar a fydd yn defnyddio'r dechnoleg System Gamera Uno 3-D. Disgwylir y bydd Avatar yn cael ei rhyddhau yn Rhagfyr 2009.

Caiff Cameron ei adnabod am ei ffilmiau sydd yn aml yn hynod flaengar, creadigol ac yn llwyddiannus o safbwynt ariannol, yn ogystal â'i dymer ffrwydrol a'i bersonoliaeth dadleugar.

Baner CanadaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ganadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.