Titanic (ffilm 1997)
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | James Cameron |
| Cynhyrchydd | Jon Landau James Cameron |
| Ysgrifennwr | James Cameron |
| Serennu | Leonardo DiCaprio Kate Winslet Billy Zane Frances Fisher Victor Garber |
| Cerddoriaeth | James Horner |
| Sinematograffeg | Russell Carpenter |
| Golygydd | Conrad Buff James Cameron Richard A. Harris |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Yn rhyngwladol 20th Century Fox UDA/Canada Paramount Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 19 Rhagfyr, 1997 |
| Amser rhedeg | 194 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ramantaidd Americanaidd gan y cyfarwyddwr James Cameron yw Titanic (1997). Mae'n serennu Leonardo DiCaprio fel Jack Dawson a Kate Winslet fel Rose DeWitt Bukater, dau berson o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol iawn sy'n cwympo mewn cariad ar fordaith anffortunus y llong. Mae'r prif gymeriadau a'r llinnyn stori ramantaidd sy'n ganolog i'r ffilm yn ffuglennol, ond mae rhai cymeriadau (fel aelodau o griw'r llong) yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol. Adroddir y stori gan Gloria Stuart, sy'n chwarae rhan Rose pan yn hen wraig.
Dechreuodd y broses gynhyrchu ym 1995, pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn Playas de Rosarito, Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth Paramount Pictures a 20th Century Fox. Bron i'r ddau gwmni fynd yn fethdalwyr yn ystod y cyfnod cynhyrchu.[1][2][3][4][5]
Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr 2 Gorffennaf 1997, ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan 19 Rhagfyr 1997. Daeth y ffilm yn llwyddiant beirniadaol a masnachol enfawr, gan ennill unarddeg o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau. Dosbarthwyd y ffilm hon gan Paramount Pictures. Mae'r incwm a dderbyniwyd am y ffilm hon dros 1,850,197,130 $ (UDA).
Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
- 4/4[6] (Roger Ebert)
- 4/4[7]
- 3.5/4[8] (Gene Siskel)
- 4/4[9]
- 8/10[10]
- 88%
- 75/100
- 8.0/10[11] (Internet Movie Database)
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Jack Dawson - Leonardo DiCaprio
- Rose DeWitt Bukater - Kate Winslet
- Hen Rose - Gloria Stuart
- Cal Hockley - Billy Zane
- Brock Lovett - Bill Paxton
- Ruth DeWitt Bukater (Mam Rose) - Frances Fisher
- Margaret Brown - Kathy Bates
- Capten Edward Smith - Bernard Hill
- Thomas Andrews, Jr. - Victor Garber
- Joseph Ismay - Jonathan Hyde
- Fabrizio De Rossi - Danny Nucci
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Ymhlith y gwobrau a enillwyd y mae Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi am y Sinematograffi Gorau, Academy Award for Best Sound Editing, Gwobr yr Academi am y Golygu Ffilm Gorau, Gwobr yr Academi am Gynllunio'r Gwisgoedd Gorau, Gwobr yr Academi am y Gynllunio'r Cynhyrchiad Gorau, Gwobr yr Academi am Gerddoriaeth Ddramatig Wreiddiol, Gwobr yr Academi am y Sain Orau, Academy Award for Best Visual Effects, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau, Gwobr Ffilmiau Ewropeaidd - Gwobr Dewis y Bobl am yr Actores Orau.
Cafodd ei henwebu am y gwobrau canlynol: European Film Academy Achievement in World Cinema Award, Gwobr yr Academi am y Gân Wreiddiol Orau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: http://www.boxofficemojo.com/alltime/world/. https://www.loc.gov/programs/national-film-preservation-board/film-registry/complete-national-film-registry-listing/. dyddiad cyrchiad: 25 Hydref 2022.
- ↑ Gwlad lle'i gwnaed: https://www.europeanfilmawards.eu/en_EN/film/titanic.5495. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2020.
- ↑ Diada cyhoeddi: http://www.mathaeser.de/mm/film/07572000012PLXMQDD.php. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2016. http://www.imdb.com/title/tt0120338/releaseinfo. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 17 Awst 2016. iaith y gwaith neu'r enw: Saesneg. http://www.sfi.se/sv/svensk-filmdatabas/Item/?itemid=34351&type=MOVIE&iv=Basic.
- ↑ Cyfarwyddwr: https://www.csfd.cz/film/1250-titanic/prehled/. dyddiad cyrchiad: 19 Mawrth 2018. https://www.europeanfilmawards.eu/en_EN/film/titanic.5495. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2020.
- ↑ Sgript: https://www.europeanfilmawards.eu/en_EN/film/titanic.5495. dyddiad cyrchiad: 8 Mehefin 2020.
- ↑ Roger Ebert (19 Rhagfyr 1997). "Titanic" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- ↑ "Titanic (1997)" (yn Saesneg). 1997. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- ↑ Gene Siskel (19 Rhagfyr 1997). "Dicaprio Is The Ballast For `Titanic'" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- ↑ "Titanic" (yn Saesneg). 19 Rhagfyr 1997. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015.
- ↑ "Titanic". Cyrchwyd 10 Hydref 2021.
- ↑ (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/
| |||||||||||
