20th Century Fox

Oddi ar Wicipedia
20th Century Fox
Math
stiwdio ffilm
Diwydianty diwydiant ffilm
Sefydlwyd31 Mai 1935
SefydlyddJoseph M. Schenck, Darryl F. Zanuck, William Fox
PencadlysFox Plaza
Pobl allweddol
(Prif Weithredwr)
Cynnyrchmeddalwedd
PerchnogionThe Walt Disney Company
Nifer a gyflogir
2,300 (2018)
Gwefanhttps://www.20thcenturystudios.com Edit this on Wikidata

Un o chwe prif stiwdio ffilmiau yr Unol Daleithiau yw Twentieth Century Fox Film Corporation (sillafwyd fel Twentieth Century-Fox Film Corporation o 1934 hyd 1985), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 20th Century Fox, Fox 2000 Pictures, neu yn syml Fox. Lleolir y cwmni yn ardal Century City o Los Angeles, i'r gorllewin o Beverly Hills ac mae'n is-gwmni i News Corporation, cydglyniad cyfryngol a reolir gan Rupert Murdoch. Sefydlwyd y cwmni ym 28 Rhagfyr 1934 wrth i ddau gwmni sef Fox Film Corporation (a sefydlwyd gan William Fox ym 1915) a Twentieth Century Pictures (a ddechreuwyd gan Darryl F. Zanuck, Joseph Schenck, Raymond Griffith a William Goetz ym 1933 gyfuno.

Mae rhai o ffilmiau enwocaf 20th Century Fox yn cynnwys y cyfresi Star Wars, Ice Age, X-Men, Die Hard, Alien, Night at the Museum, Home Alone, Predator, The Rocky Horror Picture Show a Revenge of the Nerds.