Up (ffilm 2009)
![]() | |
Enghraifft o: | ffilm animeiddiedig ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 29 Mai 2009, 16 Hydref 2009, 13 Mai 2009, 28 Mai 2009, 17 Medi 2009, 15 Hydref 2009, 29 Gorffennaf 2009 ![]() |
Genre | ffilm antur, ffilm gomedi, ffilm ffantasi ![]() |
Cyfres | list of Pixar films ![]() |
Cymeriadau | Carl Fredricksen, Charles Muntz ![]() |
Prif bwnc | awyrennu, henaint ![]() |
Lleoliad y gwaith | De America, Feneswela, Unol Daleithiau America ![]() |
Hyd | 96 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Pete Docter, Bob Peterson ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Jonas Rivera ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Pixar ![]() |
Cyfansoddwr | Michael Giacchino ![]() |
Dosbarthydd | Fórum Hungary, Disney+ ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Gwefan | https://www.pixar.com/feature-films/up ![]() |
![]() |
Ffilm Disney-Pixar a animeiddiwyd ar gyfrifiadur yw Up (2009). Adrodda hanes hen ŵr pigog a sgowt gor-awyddus sy'n hedfan i Dde America mewn tŷ sy'n hedfan gyda chymorth balwnau heliwm. Dosbarthwyd y ffilm gan Walt Disney Pictures, a chafodd ei noson agoriadol yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2009, y ffilm animeiddiedig gyntaf i agor yno. Rhyddhawyd y ffilm ar y 29ain o Fai, 2009 yng Ngogledd America a bwriedir ei rhyddhau yn y Deyrnas Unedig ar yr 16eg o Hydref, 2009. Dyma ail ffilm y cyfarwyddwr Pete Docter (a gyfarwyddodd Monsters, Inc. hefyd), a gwnaed y gwaith lleisiol gan Edward Asner, Christopher Plummer, Bob Peterson a Jordan Nagai ymysg eraill.
Plot
Mae Carl Fredricksen yn fachgen tawel sy'n cwrdd â merch bachgennaidd o'r enw Ellie. Maent yn darganfod fod ganddynt yr un diddordeb yn y fforiwr Charles Muntz. Mynega Ellie ei dyhead i symud i Paradise Falls yn Ne America, ac mae Carl yn addo hyn iddi. Mae Carl ac Ellie yn priodi ac yn tyfu'n hen gyda'i gilydd yn yr hen dŷ lle cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf ac maent yn gwneud bywoliaeth drwy werthu balwnau a thrwy weithio fel tywysydd o amgylch parc thema. Am nad ydynt yn medru cael plant, maent yn cynilo ar gyfer taith i Paradise Falls ond cwyd cyfrifoldebau ariannol eraill. Ar yr union foment ag y maent yn medru fforddio mynd ar eu taith, mae Ellie'n marw o henaint, gan adael Carl yn unig yn eu cartref, yn feudwy heb unrhyw bwrpas i'w fywyd. Wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, mae'r ddinas yn tyfu o amgylch cartref Carl ond gwrthoda Carl symud. Ar ôl gwrthdaro gydag adeiladwr ynglŷn â blwch llythyrau Carl sydd wedi torri, dywed y llysoedd barn fod yn rhaid i Carl symud i Gartref Ymddeoliad Shady Oaks. Dyfeisia Carl gynllun a fydd yn gwireddu ei addewid i Ellie, a defnyddia adnoddau o'i waith i greu llong ofod, gan ddefnyddio miloedd o falwnau heliwm sy'n codi ei dŷ o'i sylfeini.
Derbyniad
Mae "Up" wedi derbyn adolygiadau clodwiw gan y beirniaid ffilm. Erbyn y 1af o Fehefin, 2009, derbyniodd y ffilm farc o 8.7/10 ar wefan Rotten Tomatoes yn seiliedig ar 157 o adolygiadau. Rhoddodd beirniaid cydnabyddedig fel Roger Ebert sgôr o bedair seren allan o bump i'r ffilm.