Ffilm animeiddiedig

Oddi ar Wicipedia
Ffilm animeiddiedig
Enghraifft o'r canlynoltype of cinematic work, genre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathffilm Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebacsiwn byw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o ffilm sy'n defnyddio dulliau animeiddio i greu argraff o ddelweddau'n symud ar y sgrin yw ffilm animeiddiedig. Gall y dilyniant o fywddarluniau hyn gael eu tynnu â'r llaw, eu cynhyrchu ar gyfrifiadur, neu eu ffurfio drwy dechnegau megis stop-symud. Y ffordd draddodiadol o animeiddio ar y sgrin yw darlunio pob ffrâm ar wahân, gyda'r llaw, ar ddalennau seliwloid (yn ddiweddarach seliwlos asetad) a chwarae'r lluniau un ar ôl y llall, yn gyflym, fel eu bod yn edrych fel pe baent yn symud. Erbyn diwedd yr 20g, delweddau wedi'u cynhyrchu â chyfrifiadur oedd y prif ddull o wneud ffilmiau animeiddiedig. Ers y cychwyn, bu'r math hwn o ffilm yn hynod o boblogaidd ar draws y byd, ymhlith plant a theuluoedd yn enwedig, ac yn gyfrwng ar gyfer sawl genre sinematig.

Animeiddio traddodiadol[golygu | golygu cod]

O 1937 hyd at y 1960au, The Walt Disney Company oedd y brif stiwdio animeiddio yn y byd, a rhyddhawyd nifer o ffilmiau mawr yn y sinema a ystyrir bellach yn glasuron, gan gynnwys Snow White and the Seven Dwarfs (1937), Pinocchio (1940), Dumbo (1941), Bambi (1942), Cinderella (1950), Alice in Wonderland (1951), Peter Pan (1953), Lady and the Tramp (1955), Sleeping Beauty (1959), One Hundred and One Dalmatians (1961), a The Jungle Book (1967). Bu rhai o ffilmiau Disney yn cyfuno lluniau o bobl a phethau go iawn â chymeriadau animeiddiedig, er enghraifft Mary Poppins a (1964) a Bedknobs and Broomsticks (1971).

Am gyfnod hir, ni wynebai Disney fawr o gystadleuaeth ar y farchnad, yn bennaf oherwydd y costau uchel o animeiddio lluniau mawr, a chanolbwyntiodd animeiddwyr eraill ar ffilmiau byrion neu gartwnau ar gyfer y teledu. Un o'r ychydig i herio tra-arglwyddiaeth Disney oedd Max Fleischer (1883–1972), creawdwr y cymeriad Betty Boop, a gynhyrchodd Gulliver's Travels (1939) a Mr. Bug Goes to Town (1941). Un o'r ffilmiau animeiddiedig hir cyntaf a anelwyd at oedolion yn hytrach na phlant oedd Animal Farm (1954) gan John Halas (1912–95) a Joy Batchelor (1914–91), er y byddai'n cael ei dangos i blant ysgol yn bennaf yn y blynyddoedd i ddod wrth astudio'r nofel o'r un enw.[1]

Yn y 1970au, dechreuodd Ralph Bakshi (g. 1938) gynhyrchu ffilmiau animeiddiedig annibynnol, gan gynnwys Fritz the Cat (1972), y llun animeiddiedig gyntaf i dderbyn dosbarthiad X (i oedolion yn unig) oddi ar y Motion Picture Association of America.[1] Aeth nifer o gyn-animeiddwyr Disney yn annibynnol, neu i weithio i stiwdios eraill, gan gynnwys Don Bluth (g. 1937) a enillai glod am ei ffilm ffantasi antur The Secret of NIMH (1982). Yn yr un cyfnod, fodd bynnag, rhyddhawyd nifer o addasiadau sinematig o gartwnau teledu neu deganau a chymeriadau masnachol poblogaidd a oedd o safon israddol, megis The Care Bears Movie (1985) a My Little Pony (1986).[1]

Cafwyd adfywiad yn animeiddiad Disney gyda ffilmiau cerdd i blant megis The Little Mermaid (1989), Beauty and the Beast (1991), Aladdin (1992), a The Lion King (1994).

Technegau stop-symud[golygu | golygu cod]

Mae animeiddio stop-symud yn defnyddio dilyniant o ffotograffau o bypedau neu fodelau a gwrthrychau eraill, a newidir neu symudir yn araf bach o ffrâm i ffrâm, er mwyn creu'r argraff o ymsymudiad. Defnyddiwyd technegau o'r fath yn aml i ddodi anghenfilod neu greaduriaid chwedlonol mewn ffilmiau gydag actorion go iawn, er enghraifft King Kong (1933). Meistr y ffilmiau stop-symud yng nghanol yr 20g oedd yr animeiddiwr Ray Harryhausen (1920–2013), a gyfrannodd at The Beast from 20,000 Fathoms (1953), Jason and the Argonauts (1963), The Golden Voyage of Sinbad (1973), a Clash of the Titans (1981).

Ffurf ar animeiddio stop-symud ydy claymation, sy'n defnyddio modelau clai. Un o'r stiwdios amlycaf i ddefnyddio'r dechneg hon ydy Aardman Animations, a gynhyrchodd gyfres Wallace a Gromit ac hefyd Chicken Run (2000), y ffilm animeiddiedig stop-symud sydd wedi ennill yr arian mwyaf yn y swyddfa docynnau.

Yr oes ddigidol[golygu | golygu cod]

Y ffilm animeiddiedig gyntaf o hyd llawn a gynhyrchwyd yn gyfan gwbl ar gyfrifiadur oedd Toy Story (1995) gan gwmni Pixar, a fu'n llwyddiant aruthrol yn y swyddfa docynnau. Cychwynnwyd ar oes newydd o ffilmiau i blant wedi'u cynhyrchu ar gyfrifiadur, yn bennaf gan y ddwy brif stiwdio, Pixar a DreamWorks. Dechreuodd Pixar gydweithio â Disney ers Toy Story, ac yn 2006 daeth dan berchenogaeth Walt Disney Studios. Mae Pixar wedi cynhyrchu llu o ffilmiau poblogaidd i blant sydd wedi torri recordau yn y swyddfa docynnau, derbyn clod y beirniaid, ennill gwobrau, a chael eu hystyried yn glasuron newydd ym myd ffilm, gan gynnwys Finding Nemo (2003), WALL-E (2008), ac Up (2009). Yn ogystal mae hen stiwdio Disney yn cynhyrchu ffilmiau animeiddiedig ei hun, megis Frozen (2013). Mae DreamWorks hefyd wedi arbenigo mewn ffilmiau i blant, gan gynnwys cyfresi Shrek (2001) a Madagascar (2005).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Richard B. Armstrong a Mary Willems Armstrong, "Animated Movies (Feature-Length)" yn Encyclopedia of Film Themes, Settings and Series (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2001), tt. 9–10.