Neidio i'r cynnwys

John Ellis Williams (1901-1975)

Oddi ar Wicipedia
John Ellis Williams
Ganwyd19 Ebrill 1901 Edit this on Wikidata
Penmachno Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1975 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata

Awdur a dramodydd Cymraeg oedd John Ellis Williams (19 Ebrill 19017 Ionawr 1975).[1] Cyhoeddai dan yr enw J. Ellis Williams.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed ef ym mhentref Penmachno, ac addysgwyd ef yn Ysgol y Sir, Llanrwst. Hyfforddodd fel athro yn Y Coleg Normal, Bangor, a bu'n dysgu ym Manceinion, Blaenau Ffestiniog a Llanfrothen cyn ymddeol yn 1961. Yn 1962, derbyniodd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, ac MBE.[2] Enillodd y wobr ariannol am y ddrama hir orau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926 am y ddrama, Y Ffon Dafl, a Thlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1943 am ei ddrama hir, Wedi'r Drin.

Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau, straeon byrion a dramâu, ac roedd yn gyfrannwr cyson i nifer o newyddiaduron. Cydweithredodd gyda Syr Ifan ab Owen Edwards i ysgrifennu a chynhyrchu y ffilm sain gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr, yn 1935. Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant, yn cynnwys Haf a'i Ffrindiau (tri llyfr, 1929–1930) a Stori Mops (1952).[2] Cyhoeddodd ei hunangofiant, Inc yn fy Ngwaed (1963) gyda Llyfrau'r Dryw. Cafodd llawer o'i ddramâu eu cyhoeddi fel rhan o'r gyfres Welsh Drama Series.

Roedd yn arloeswr y nofel dditectif yn Gymraeg, gan ysgrifennu dwy gyfres ohonynt, sef Cyfres Hopkyn a Chyfres Parri, gyda phum nofel yn y ddwy.[2]

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]

Dramâu

[golygu | golygu cod]

Dramâu Hir[3]

[golygu | golygu cod]

Dramâu Byr

[golygu | golygu cod]

Cerddi ac Ysgrifau

[golygu | golygu cod]
  • 'Sglodion (1932)
  • Whilmentan (1961)
  • Inc yn fy Ngwaed (1963) - rhyw lun o hunangofiant
  • Y Gŵr Drws Nesaf
  • Tri Dramaydd Cyfoes

Llyfrau Plant

[golygu | golygu cod]
  • Llyfr y Dyn Du (1923)
  • Haf a'i Ffrindiau (Tynnu Lluniau, Plant Drwg, Mynd i'r Ysgol 1929-1930)
  • Drwy Ddŵr a Thân
  • Sadig y Ditectif
  • O Bell ac Agos
  • Stori Mops (1952)
  • Cwningen Fach
  • Y Gwningen Fach a'r Hen Lwynog
  • Y Chwarelwr
  • Y Gwningen Fach a'i Ffrindiau

Nofelau ditectif

[golygu | golygu cod]

Cyfres Hopkyn

[golygu | golygu cod]
  • Y Gadair Wag
  • Talu'r Pwyth
  • Y Gymwynas Olaf (1959)
  • Y Gwenith Gwyn
  • Llwybrau Cam

Cyfres Parri

[golygu | golygu cod]
  • Celwydd Golau
  • Y Trydydd Tro
  • Nos Galan
  • Gwerin Gwyddbwyll (1967)
  • Porth Ewyn

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]
  • Meredydd Evans (gol.), Gŵr wrth Grefft: Cyfrol Deyrnged i J. Ellis Williams (Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1974). Ceir llyfryddiaeth lawn yn y gyfrol hon.
  • Elfyn Pritchard, "John Ellis Williams", yn Dewiniaid Difyr: Llenorion Plant Cymru hyd tua 1950, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brynley Francis Roberts (2014). "Williams, John Ellis (1901-1975), llenor, dramodydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 28 Mehefin 2025.
  2. 2.0 2.1 2.2 Dewiniaid Difyr: llenorion plant Cymru hyd tua 1950 (Llandysul, 1983).
  3. Williams, John Ellis (1963). Inc yn fy Ngwaed. Llyfrau'r Dryw.