Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 2017

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017
 ← Blaenorol Nesaf →
Cyhoeddi Eist 2017 gwefan swyddogol yr Eist.PNG
Lleoliad Bodedern
Cynhaliwyd 4-12 Awst 2017
Archdderwydd Geraint Llifon
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Derec Llwyd Morgan
Nifer yr ymwelwyr 147,498
Enillydd y Goron Gwion Hallam
Enillydd y Gadair Osian Rhys Jones
Gwobr Daniel Owen Neb yn deilwng
Gwobr Goffa David Ellis Steffan Prys Roberts
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Carys Bowen
Gwobr Goffa Osborne Roberts John Ieuan Jones
Gwobr Richard Burton Sara Anest Jones
Y Fedal Ryddiaith Sonia Edwards
Medal T.H. Parry-Williams Dan Puw
Y Fedal Ddrama Heiddwen Tomos
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Emma Chappell
Tlws y Cerddor Neb yn deilwng
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Sarah Gilford
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Cecile Johnson Soliz[1]
Medal Aur am Grefft a Dylunio Julia Griffiths Jones
Gwobr Ivor Davies Rhannwyd rhwng Peter Davies, Peter Finnemore, Pete Telfer a Christine Mills
Gwobr Dewis y Bobl Julia Griffiths Jones
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Marged Elin Owen
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Stride Treglown
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Myfyr Jones-Evans
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Deri Tomos

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 ger Bodedern ar 4-12 Awst 2017. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod ar 26 Mehefin 2016 yn neuadd yr ysgol uwchradd yng Nghaergybi, gyda'r Archdderwydd Geraint Llifon wrth y llyw.[2] Roedd yr Eisteddfod yn cynnal prosiect i ddathlu canmlwyddiant Eisteddfod y Gadair Ddu a gynhaliwyd ym Mhenbedw ym 1917.[3]

Prif gystadlaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Gadair[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd y gadair oedd Osian Rhys Jones (ffugenw Gari); roedd 12 ymgais a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres. Traddodwyd y feirniadaeth gan Peredur Lynch ar ran ei gyd-feirniaid Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth agos a bod tri yn deilwng o'r gadair gyda dau o'r tri beirniad yn ffafrio Gari.

Y Goron[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd y goron oedd Gwion Hallam (ffugenw 'elwyn/ annie/ janet/ jiws.') o Felinheli ger Caernarfon; roedd 34 wedi cystadlu a'r dasg oedd ysgrifennu pryddest ar y testun 'Trwy Ddrych'. Traddodwyd y feirniadaeth gan M. Wynn Thomas ar ran ei gyd-feirniaid Glenys Mair Roberts a Gwynne Williams.[4]

Gwobr Goffa Daniel Owen[golygu | golygu cod y dudalen]

Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan Ann Clwyd er cof am ei phriod Owen Roberts, Niwbwrch. Cafwyd 13 o nofelau ond nid oedd yr un ymgais yn haeddu’r wobr yn ôl y beirniaid Bethan Gwanas, Caryl Lewis a’r diweddar Tony Bianchi.

Y Fedal Ryddiaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd y fedal oedd Sonia Edwards o Langefni ddeunaw mlynedd ar ôl iddi ennill y fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999. Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema 'Cysgodion' gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r fedal. Derbyniwyd 20 o gyfrolau eleni a traddodwyd y feirniadaeth gan Gerwyn Williams ar ran ei gyd-feirniaid Francesca Rhydderch a Lleucu Roberts.[5]

Tlws y Cerddor[golygu | golygu cod y dudalen]

Y dasg oedd cyfansoddi darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth, sêr, planedau a / neu’r gofod, heb fod yn hwy na saith munud. Cafwyd naw ymgais ond nid oedd neb yn deilwng o'r wobr eleni, yn ôl y beirniaid Geraint Cynan, Branwen Gwyn a Philip Harper.[6]

Y Fedal Ddrama[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd y fedal oedd Heiddwen Tomos, yn wreiddiol o Lanybydder sydd nawr yn byw ym Mhengarreg, am ei drama Milwr yn y Meddwl; roedd 17 o ymgeiswyr a'r dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Y beirniaid oedd Siân Summers, Sara Lloyd a Tony Llewelyn Roberts.

Prosiect Hedd Wyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd dau frawd o ardal Pen Llŷn, Aled a Dafydd Hughes, sy’n aelodau o'r band Cowbois Rhos Botwnnog, yn arwain tîm creadigol i gofio aberth y Cymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gydweithio gydag amryw o artistiaid a pherfformwyr er mwyn creu cyfanwaith newydd ym mhafiliwn yr Eisteddfod gan gynnwys cyngerdd Côr yr Eisteddfod. Bydd y bardd Guto Dafydd a Grahame Davies a'r cyfansoddwr Paul Mealor o Lanelwy, Sir Ddinbych hefyd yn rhan o'r prosiect.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod ym Môn bedair gwaith yn ystod yr 20g: Caergybi 1927, Llangefni 1957, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1983 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Medal Aur yr Eisteddfod i artist o Gaerdydd , Golwg360, 5 Awst 2017.
  2. Gwefan eisteddfod.cymru; adalwyd 10 Awst 2016.
  3. Gwefan eisteddfod.cymru; adalwyd 10 Awst 2016.
  4.  Pobol â dementia’n ysbrydoli bardd y Goron. Golwg360 (7 Awst 2017).
  5.  Ail Fedal Ryddiaith Eisteddfod Ynys Môn i Sonia Edwards. Eisteddfod Genedlaethol (9 Awst 2017).
  6. Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor ym mhrifwyl Môn , Golwg360, 9 Awst 2017.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]