Cân i Gymru

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:52, 5 Mawrth 2021 gan Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau)
Cân i Gymru
Gwlad/gwladwriaeth Baner Cymru Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 120 munud (yn cynnwys hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru (1969)
S4C (1983–)
Rhediad cyntaf yn 1969; 55 blynedd yn ôl (1969)
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cyfansoddwr buddugol yn ennill swm o arian a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Hanes

Cyflwynwyd Cân i Gymru o dan yr enw 'Cân Disg a Dawn' am y tro cyntaf ym 1969. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn gobeithio byddai'r gân fuddugol yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, er y penderfynodd y BBC yn Llundain yn y diwedd mai dim ond un cân o wledydd Prydain fyddai'n cystadlu.[1]

Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis Cân i Gymru gyda saith cân ymhob un, yn cael eu perfformio gan gantorion adnabyddus y cyfnod. Roedd y cyhoedd yn pleidleisio drwy ddanfon llythyrau i mewn ac roedd y gân gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.[2] Darlledwyd y rhaglen olaf ar 5 Mehefin 1969 drwy wledydd Prydain dan y teitl Song for Wales ac fe'i gyflwynwyd gan Ronnie Williams yn Gymraeg a Saesneg. Roedd panel wedyn yn dewis y gân fuddugol ar y noson. Roedd y rhaglen hefyd yn rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer arwisgiad Tywysog Siarl a fyddai'n digwydd ar 1 Gorffennaf 1969.[3]

Yn dilyn sefydlu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddechrau'r 70au dechreuodd Pwyllgor Cymru yr Ŵyl y gystadleuaeth 'Cân i Gymru' unwaith eto er mwyn dewis cân i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Celtavision. Doedd yna ddim cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1973. I ddechrau doedd gan y cyfryngau yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb yn y gystadleuaeth. Doedd Cân i Gymru ddim yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu, a phanel oedd yn pleidleisio i ddewis enillwyr. Er enghraifft cynhaliwyd cystadleuaeth 1980 ym Mar Cefn yr Angel yn Aberystwyth ac fe'i darlledwyd ar Radio Cymru.

Erbyn 1982 roedd y gystadleuaeth nôl ar y teledu ond panel oedd yn dal i ddewis yr enillydd.

Erbyn hyn caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Yn 2019 roedd y wobr yn £5,000 gyda £2,000 am yr ail safle a £1,000 am y trydydd safle. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Ŵyl Ban Geltaidd.

Yn wahanol i'r mwyafrif o gystadlaethau canu yn Ewrop, pwysleisir cyfansoddwr y gân yn hytrach na'r perfformiwr.

Crynodeb o'r rhaglenni

Pennod Rhaglen a Blwyddyn Nifer y caneuon Cân fuddugol[4] Perfformiwr/perfformwyr Cyfansoddwyr[5][6] Lleoliad Cyflwynwyr Cwmni Cynhyrchu Darlledwr Dyddiad darlledu
1 Cân i Gymru 1969 Y Cwilt Cymreig Margaret Williams Llifon Hughes-Jones, Megan Lloyd Ellis Caerdydd Ronnie Williams BBC Cymru BBC 1
2 Cân i Gymru 1970 6 Dydd o Haf Y Canolwyr Hawys James Caerdydd Ronnie Williams BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 23 Mai
3 Cân i Gymru 1971 6 Nwy yn y Nen Eleri Llwyd Dewi 'Pws' Morris Caerdydd Huw Jones BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 31 Gorffennaf
4 Cân i Gymru 1972 Pan Ddaw'r Dydd Heather Jones Geraint Jarman Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
Dim cystadleuaeth yn 1973
5 Cân i Gymru 1974 6 I Gael Cymru'n Gymru Rydd Iris Williams Rod Thomas, Rod Gruffydd Caerdydd Dewi 'Pws' Morris BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
6 Cân i Gymru 1975 Caledfwlch Brân (grŵp) Gwyndaf Roberts Caerdydd Hywel Gwynfryn BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
7 Cân i Gymru 1976 Y Llanc Glas Lygad Rhian Rowe Douglas Roberts Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
8 Cân i Gymru 1977 Dafydd ap Gwilym Cawl Sefin Peter Hughes Griffiths, Meinir Lloyd Caerdydd Gwyn Erfyl HTV HTV 1 Mawrth
9 Cân i Gymru 1978 Angel Ble Wyt Ti Delwyn Siôn a Brân John Gwyn, Ronw Protheroe Caerdydd BBC Cymru BBC 1 Cymru Wales 1 Mawrth
10 Cân i Gymru 1979 Ni Welaf yr Haf Pererin (grwp) Arfon Wyn Caerdydd Arfon Haines Davies HTV HTV 1 Mawrth
11 Cân i Gymru 1980 5 Golau Tan Gwmwl Plethyn Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd Aberystwyth Emyr Wyn a Mynediad am Ddim

(Darllediad Radio yn unig)

BBC Cymru BBC Radio Cymru 1 Mawrth
12 Cân i Gymru 1981 6 Dechrau'r Dyfodol Beca Gareth Glyn, Eleri Cwyfan Yr Wyddgrug Gwyn Erfyl HTV HTV
13 Cân i Gymru 1982 5 Nid Llwynog Oedd yr Haul Caryl Parry Jones a Bando Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd Caerdydd Menna Gwyn ac Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
14 Cân i Gymru 1983 6 Popeth Ond Y Gwir Linda Healy a Cleif Harpwood Siân Wheway, Robin Gwyn Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
15 Cân i Gymru 1984 5 Y Cwm Geraint Griffiths Huw Chiswell Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
16 Cân i Gymru 1985 6 Ceiliog y Gwynt Bwchadanas Euros Rhys Evans Caerdydd Emyr Wyn BBC Cymru S4C 1 Mawrth
17 Cân i Gymru 1986 6 Be Ddylwn i Ddweud Eirlys Parri Mari Emlyn Caerdydd Margaret Williams BBC Cymru S4C 1 Mawrth
18 Cân i Gymru 1987 8 Gloria Tyrd Adre Eryr Wen Euros Elis Jones, Llion Jones Llandudno Caryl Parry Jones Teledu'r Tir Glas S4C 15 Mawrth
19 Cân i Gymru 1988 8 Can Wini Manon Llwyd Manon Llwyd, Eurig Wyn Llandudno Geraint Griffiths Teledu'r Tir Glas S4C 13 Mawrth
20 Cân i Gymru 1989 8 Twll Triongl Hefin Huws Hefin Huws, Les Morrison Llandudno Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 19 Mawrth
21 Cân i Gymru 1990 8 Gwlad y Rasta Gwyn Sobin a'r Smaeliaid Rhys Wyn Parry, Bryn Fôn Alaw Bennett Jones ac Owain Gwilym Teledu'r Tir Glas S4C 15 Mawrth
22 Cân i Gymru 1991 8 Yr Un Hen Lle Neil Williams a'r Band Richard Marks Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 2 Mawrth
23 Cân i Gymru 1992 7 Dal i Gredu Eifion Williams Gwennant Pyrs, Meleri Roberts, Alwen Derbyshire Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 18 Ebrill
24 Cân i Gymru 1993 8 Y Cam Nesa Paul Gregory Llion Rhys Howel, Anthony James Burdett Caernarfon Nia Roberts Teledu'r Tir Glas S4C 10 Ebrill
25 Cân i Gymru 1994 8 Rhyw Ddydd Geraint Griffiths Paul Gregory, Lorraine King, Tim Hamill, Dave Parsons Caerdydd Nia Roberts a Stifyn Parri HTV S4C 1 Mawrth
26 Cân i Gymru 1995 8 Yr Ynys Werdd Gwenda Owen Richard Jones, Arwel John Pontrhydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
27 Cân i Gymru 1996 8 Cerrig yr Afon Iwcs a Doyle Iwan Roberts, John Doyle Pontrhydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
28 Cân i Gymru 1997 8 Un Funud Fach Bryn Fôn Barry Jones Ponthydfendigaid Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
29 Cân i Gymru 1998 8 Rho Dy Law Arwel Wyn Roberts Rhodri Tomos Caerdydd Nia Roberts Apollo S4C 28 Chwefror
30 Cân i Gymru 1999 8 Torri'n Rhydd Steffan Rhys Williams Matthew McAvoy, Steffan Rhys Williams Corwen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
31 Cân i Gymru 2000 8 Cae o Ŷd Martin Beattie Arfon Wyn Llangollen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
32 Cân i Gymru 2001 Dagrau Ddoe Geinor Haf Emlyn Dole Llangollen Dafydd Du a Nia Roberts Apollo S4C 1 Mawrth
33 Cân i Gymru 2002 Harbwr Diogel Elin Fflur Arfon Wyn, Richard Synnott Port Talbot Sarra Elgan, Lisa Gwilym, ac Angharad Llwyd Apollo S4C 1 Mawrth
34 Cân i Gymru 2003 16 Oes Lle i Mi Non Parry & Steffan Rhys Williams Emma Walford, Mererid Hopwood Port Talbot Sarra Elgan a Dafydd Du Apollo S4C 1 Mawrth
35 Cân i Gymru 2004 16 Dagrau Tawel Rhian Mair Lewis Meinir Richards. Tudur Dylan Casnewydd Sarra Elgan a Dafydd Du Apollo S4C 1 Mawrth
36 Cân i Gymru 2005 Mi Glywais Rhydian Bowen Philips Dafydd Jones, Guto Vaughan Casnewydd Sarra Elgan ac Alun Williams Apollo S4C 1 Mawrth
37 Cân i Gymru 2006 9 Llii'r Nos Ryland Teifi Ryland Teifi Port Talbot Sarra Elgan a Hefin Thomas Avanti S4C 1 Mawrth
38 Cân i Gymru 2007 9 Blwyddyn Mas Einir Dafydd Einir Dafydd, Ceri Wyn Jones Port Talbot Sarra Elgan a Hefin Thomas Avanti S4C 2 Mawrth
39 Cân i Gymru 2008 9 Atgofion Aled Myrddin Aled Myrddin Port Talbot Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips Avanti S4C 29 Mawrth
40 Cân i Gymru 2009 8 Gofidiau Elfed Morgan Morris Lowri Watcyn Roberts, Elfed Morgan Morris Llandudno Sarra Elgan a Rhodri Owen Avanti S4C 1 Mawrth
41 Cân i Gymru 2010 8 Bws i'r Lleuad Tomos Wyn Alun Evans Llandudno Sarra Elgan a Rhodri Owen Avanti S4C 28 Chwefror
42 Cân i Gymru 2011 8 Rhywun yn Rhywle Tesni Jones Steve Balsamo, Ynyr Gruffydd Pontrhydfendigaid Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 6 Mawrth
43 Cân i Gymru 2012 8 Braf yw Cael Byw Gai Toms Gai Toms, Philip Jones Pontrhydfendigaid Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 1 Mawrth
44 Cân i Gymru 2013 6 Mynd I Gorwen Hefo Alys Jessop a'r Sgweiri Rhys Gwynfor, Osian Huw Williams Caerdydd Elin Fflur a Dafydd Du Avanti S4C 1 Mawrth
45 Cân i Gymru 2014 6 Galw Amdanat Ti Mirain Evans Barry Evans, Mirain Evans Gwalchmai Elin Fflur a Gethin Evans Avanti S4C 28 Chwefror
46 Cân i Gymru 2015 8 Y Lleuad a'r Sêr Elin Angharad Elin Angharad, Arfon Wyn Gwalchmai Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 7 Mawrth
47 Cân i Gymru 2016 8 Dim Ond Un Cordia Ffion Elin, Rhys Jones Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 5 Mawrth
48 Cân i Gymru 2017 10 Rhydd Cadi Gwyn Edwards Cadi Gwyn Edwards Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 11 Mawrth
49 Cân i Gymru 2018 8 Cofio Hedd Wyn Ceidwad y Gân Erfyl Owen Bangor Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 1 Mawrth
50 Cân i Gymru 2019 8 Fel Hyn 'da Ni Fod Elidyr Glyn Elidyr Glyn Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 6 Mawrth
51 Cân i Gymru 2020 8 Cyn i’r Llenni Gau Gruffydd Wyn Gruffydd Wyn Aberystwyth Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 29 Chwefror
52 Cân i Gymru 2021 8 Bach o Hwne Morgan Elwy Williams Morgan Elwy Williams Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris Avanti S4C 5 Mawrth

Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).

Y goreuon, yn ôl gwylwyr S4C, 2016

Ym Mawrth 2016 cynhaliodd S4C bleidlais o'r holl enillwyr ers 1982, a'r 7 uchaf oedd:

  • 7fed: Cerrig Oer yr Afon - Iwcs a Doyle
  • 6ed: Dagrau Tawel - Rhian Mair Lewis
  • 5ed: Galw Amdanat Ti - Mirain a Barry Evans
  • 4ydd: Harbwr Diogel - Arfon Wyn
  • 3ydd: Y Cwm - Geraint Griffiths yn canu; Chiswell y cyfansoddwr
  • 2il: Gofidiau - Elfed Morgan Morris
  • 1af: Torri'n Rhydd - Steffan Rhys Williams
Y grŵp gwerin 'Cilmeri' yn perfformio yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1975. Daethant yn ail i'r grwp Brân a gannodd 'Caledfwlch'. Yn y llun: Elwyn Rowlands, Robin Owain a Huw Roberts.

Dychan

Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn destun dychan ar hyd y blynyddoedd. Ar gyfer Cân i Gymru 2019 cafwyd sgetch ddychan gan DJ Bry ar sianel ar-lein Hansh S4C, "Tips Bry ar Shwt i Ennill Cân i Gymru".[7]

Twitter

Mae sylwadau o gefnogaeth, anghytuno a dychan ar y sioe ar Twitter yn boblogaidd iawn adeg darllediad y rhaglen yn fyw ar S4C. Mae'r hashnod #CiG2019 (neu'r flwyddyn gyfredol) yn 'trendio' ar Twitter ar draws Brydain adeg cyfnod y darllediad byw.[8]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau