Dinas Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Y mae '''Dinas Emrys''' yn safle hen [[Castell|gastell]] a [[bryngaer]] yn ne [[Eryri]], [[Gwynedd]]. Mae'n un o'r cynharaf o'r [[Cestyll y Tywysogion Cymreig|cestyll Cymreig]]. Saif i'r gorllewin o'r [[A498]] rhwng [[Capel Curig]] a [[Beddgelert]], tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf. |
Y mae '''Dinas Emrys''' yn safle hen [[Castell|gastell]] a [[bryngaer]] yn ne [[Eryri]], [[Gwynedd]]. Mae'n un o'r cynharaf o'r [[Cestyll y Tywysogion Cymreig|cestyll Cymreig]]. Saif i'r gorllewin o'r [[A498]] rhwng [[Capel Curig]] a [[Beddgelert]], tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf. |
||
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018. |
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. |
||
==Lleoliad== |
==Lleoliad== |
||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
==Y dreigiau== |
==Y dreigiau== |
||
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]] |
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]] |
||
Mae gwaith yr [[ |
Mae gwaith yr [[archaeoleg]]wyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] a'r [[Oesoedd Canol]] cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy [[Draig|ddraig]], [[Y Ddraig Goch|un yn goch]] a'r llall yn wyn, yn chwedl [[Cyfranc Lludd a Llefelys|Lludd a Llefelys]]. Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn adrodd sut y bu i [[Myrddin|Fyrddin]] eu dangos i'r brenin [[Gwrtheyrn]] gan esbonio eu bod yn cynrychioli y [[Brythoniaid]] a'r [[Saeson]] yn eu gornest am [[sofraniaeth]] [[Ynys Prydain]]. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith [[Nennius]], yr ''[[Historia Brittonum]]'' (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd. |
||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
Llinell 55: | Llinell 55: | ||
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
||
⚫ | |||
[[de:Dinas Emrys]] |
[[de:Dinas Emrys]] |
||
⚫ | |||
[[it:Dinas Emrys]] |
[[it:Dinas Emrys]] |
Fersiwn yn ôl 13:23, 7 Mawrth 2013
53.02°N -4.08°W / 53.02°N 4.08°E Coordinates: longitude degrees < 0 with hemisphere flag
{{#coordinates:}}: hydred annilys
Y mae Dinas Emrys yn safle hen gastell a bryngaer yn ne Eryri, Gwynedd. Mae'n un o'r cynharaf o'r cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert, tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Lleoliad
Mae'r hen amddiffynfa ar ben bryn syrth a choediog, sy'n mwynhau golygfa eang i lawr i gyfeiriad Beddgelert ac i fyny i Lyn Dinas a Nant Gwynant. I'r dwyrain mae ucheldir creigiog y Moelwynion, rhwng Croesor a Blaenau Ffestiniog, ac yn gefn iddi dros gwm unig Afon y Cwm mae llethrau gwyllt yr Aran (2451'), sy'n rhan o gadwyn yr Wyddfa.
Y tŵr
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan Llywelyn Fawr yn gynnar yn y 13eg ganrif neu, yn fwy tebygol, gan Owain Gwynedd tua diwedd y 12fed ganrif. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel Castell Deudraeth. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.
Y dreigiau
Mae gwaith yr archaeolegwyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl Lludd a Llefelys. Mae Sieffre o Fynwy yn adrodd sut y bu i Fyrddin eu dangos i'r brenin Gwrtheyrn gan esbonio eu bod yn cynrychioli y Brythoniaid a'r Saeson yn eu gornest am sofraniaeth Ynys Prydain. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius, yr Historia Brittonum (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
Llyfryddiaeth
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Gweler hefyd
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Cylchoedd cerrig
- Rhestr copaon Cymru
- Llwythau Celtaidd Cymru
- Gŵr Blewog, un o chwedlau gwerin yr ardal.
- Owain fab Macsen Wledig
- Y Ddraig Goch