Dinas Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle |
{{Gwybodlen lle |
||
| suppressfields = cylchfa |
|||
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}} |
| ynganiad = {{wikidata|property|P443}} |
||
| sir = [[Gwynedd]] |
|||
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} |
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}} |
||
}} |
}} |
||
Llinell 7: | Llinell 9: | ||
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. |

⚫ | |||
[[Delwedd:Dinas Emrys |
[[Delwedd:Castell Dinas Emrys.jpg|bawd|dim|250px|Dinas Emrys]] |
||
⚫ | |||
==Enw== |
==Enw== |
||
Llinell 22: | Llinell 25: | ||
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|chwith|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]] |
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|250px|bawd|chwith|Safle Dinas Emrys o [[Afon Glaslyn]]]] |
||
Mae gwaith yr [[archaeoleg]]wyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] a'r [[Oesoedd Canol]] cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy [[Draig|ddraig]], [[Y Ddraig Goch|un yn goch]] a'r llall yn wyn, yn chwedl [[Cyfranc Lludd a Llefelys|Lludd a Llefelys]]. Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn adrodd sut y bu i [[Myrddin|Fyrddin]] eu dangos i'r brenin [[Gwrtheyrn]] gan esbonio eu bod yn cynrychioli y [[Brythoniaid]] a'r [[Saeson]] yn eu gornest am [[sofraniaeth]] [[Ynys Prydain]]. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith [[Nennius]], yr ''[[Historia Brittonum]]'' (9g). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd. |

==Gweler hefyd == |
==Gweler hefyd == |
||
Llinell 35: | Llinell 34: | ||
* [[Owain fab Macsen Wledig]] |
* [[Owain fab Macsen Wledig]] |
||
* [[Y Ddraig Goch]] |
* [[Y Ddraig Goch]] |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
{{comin|Category:Dinas Emrys|Dinas Emrys}} |
|||
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}} |
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}} |
||
{{Bryngaerau Cymru}} |
{{Bryngaerau Cymru}} |
||
⚫ | |||
[[Categori:Beddgelert]] |
[[Categori:Beddgelert]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Bryngaerau Gwynedd]] |
||
[[Categori:Cestyll Gwynedd]] |
[[Categori:Cestyll Gwynedd]] |
||
⚫ | |||
[[Categori:Eryri]] |
[[Categori:Eryri]] |
||
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]] |
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 20:23, 23 Tachwedd 2021
Math | castell, caer lefal, safle archaeolegol, cestyll y Tywysogion Cymreig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.022°N 4.079°W |
Cod OS | SH60604920 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN018 |
Mae Dinas Emrys yn safle hen gastell a bryngaer yn ne Eryri, Gwynedd. Mae'n un o'r cynharaf o'r cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert, tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Enw
Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Dinlle, Dinas Cerdin, Dinas Powys; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw). Ystyr yr enw felly yw "Caer Emrys" (gweler isod am yr hanes).
Lleoliad
Mae'r hen amddiffynfa ar ben bryn syrth a choediog, sy'n mwynhau golygfa eang i lawr i gyfeiriad Beddgelert ac i fyny i Lyn Dinas a Nant Gwynant. I'r dwyrain mae ucheldir creigiog y Moelwynion, rhwng Croesor a Blaenau Ffestiniog, ac yn gefn iddi dros gwm unig Afon y Cwm mae llethrau gwyllt yr Aran (2451'), sy'n rhan o gadwyn yr Wyddfa.
Y tŵr
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan Llywelyn Fawr yn gynnar yn y 13g neu, yn fwy tebygol, gan Owain Gwynedd tua diwedd y 12g. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel Castell Deudraeth. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.
Y dreigiau
Mae gwaith yr archaeolegwyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl Lludd a Llefelys. Mae Sieffre o Fynwy yn adrodd sut y bu i Fyrddin eu dangos i'r brenin Gwrtheyrn gan esbonio eu bod yn cynrychioli y Brythoniaid a'r Saeson yn eu gornest am sofraniaeth Ynys Prydain. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius, yr Historia Brittonum (9g). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
Gweler hefyd
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Cylchoedd cerrig
- Rhestr copaon Cymru
- Llwythau Celtaidd Cymru
- Gŵr Blewog, un o chwedlau gwerin yr ardal.
- Owain fab Macsen Wledig
- Y Ddraig Goch
Llyfryddiaeth
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)