Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Fforwyr

Oddi ar Wicipedia
WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Fforwyr



Person sydd yn chwilio neu ymchwilio er mwyn darganfod gwybodaeth neu adnoddau yw Fforiwr. 

Mae fforio wedi bod yn rhan annatod o fodolaeth dynoliaeth ar y ddaear a thu hwnt wrth ddarganfod am y byd o gwmpas, er enghraifft, anturiaethau fforio y Groegiaid a’r Rhufeiniaid yng ngogledd Ewrop. Fe wnaeth fforwyr Groegiaid amgylchynu Ynys Prydain am y tro gyntaf yn y 4edd ganrif. Roedd y Rhufeiniaid a'r Tsieineaid hefyd yn fforwyr cynnar llwyddianus, yn dogfennu tiroedd newydd a'u pobl.

O tua 800 AD ymlaen dechreuodd y Llychlynwyr archwilio Ewrop a hwylio i diroedd newydd gan gynnwys Gwlad yr Iâ a Newfoundland. Yn y dwyrain, arweiniodd fforio at sefydliad y Ffordd y Sidan, rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ar gyfer masnach rhwng Tsieina a'r Dwyrain Canol. Cafodd y llwybrau yma ei ddogfennu gan yr archwiliwr Marco Polo yn y 13eg ganrif.[1]

Gyda dyfodiad y 15fed ganrif hyd at y 17eg ganrif roedd hwn yn gyfnod pan fu fforwyr o Ewrop, yn enwedig Sbaen a Phortiwgal, yn anturio ar draws Cefnfor yr Iwerydd i'r Amerig.  Dyma oedd Oes y Darganfod. Yn nes ymlaen yn y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif helpodd fforio gwblhau gwybodaeth dynoliaeth am fap cyfan y byd, er enghraifft, cyrion Asia a fyny i Alaska, a chyfandiroedd Awstralia a’r Antartig.  Bu fforio a darganfod cyson yn nhiroedd America gan y Ewropeaid yn y 19eg ganrif a thechnoleg newydd yn caniatau fforio a darganfod yn y bydysawd a’r planedau tu hwnt i’r ddaear yn yr 20fed ganrif.

Fforio cynnar[golygu cod]

Copi o map 2il ganrif Ptolemi o Ynysoedd Prydain

Y fforiwr Groegaidd, Pytheas (380 – c.310 CC) oedd yr un cyntaf i  gylch-deithio o gwmpas Prydain Fawr, fforio yr Almaen a chyrraedd Thule ( credir bod yr enw yn cyfeirio at Ynysoedd y Shetland neu Gwlad yr Iâ). Bu’r Rhufeiniaid n ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr, Augustus (teyrnasodd rhwng 27 CC – 14 AD) yn fforio ar hyd Y Môr Baltig.  Trefnodd y Rhufeiniaid hefyd ymgyrchoedd fforio i groesi’r Sahara wrth iddynt fforio Affrica a threfnwyd ymgyrchoedd fforio i Tseina ac Asia.[2][3]

Rhwng tua 800 AD – 1040 AD bu’r Llychlynwyr yn fforio Ewrop a llawer o Hemisffer y Gogledd-Orllewin drwy deithio ar hyd afonydd a moroedd.  Roedd y fforiwr Llychlynaidd Norwyaidd, Eric Coch (950 – 1003) wedi hwylio ac ymgartrefu yn Yr Ynys Las wedi iddo gael ei anfon allan o Wlad yr Iâ , ac roedd ei fab, y fforiwr o Wlad yr Iâ, Leif Ericson (980 – 1020), wedi cyrraedd Newfoundland ac arfordir cyfagos Gogledd America.  Credir mai ef oedd yr Ewropead cyntaf i lanio yng ngogledd America.  Hwyliodd y fforiwr Tseiniaidd, Wang Dayuan (1311 – 1350) ar ddwy fordaith fawr draw i For India yn ystod y 14eg ganrif gan lanio yn Sri Lanka ac India, a hyd yn oed cyrraedd Awstralia ar ei fordaith gyntaf rhwng 1328 – 1333.  Rhwng 1334 – 1339 ymwelodd gyda Gogledd Affrica a Dwyrain Affrica.  Yn nes ymlaen gwnaeth y fforiwr Zheng He (1371 – 1433) sawl mordaith i Arabia, Dwyrain Affrica, India, Gwlad Tai ac Indonesia.

Oes y Darganfod[golygu cod]

Mae Oes y Darganfod yn cael ei gyfrif fel ‘oes aur’ mewn hanes fforio ac yn cael ei ystyried yn un o’r cyfnodau pwysicaf yn hanes dynoliaeth wrth anturio ei amgylchfyd.  Roedd fforio ar ei anterth yn ystod Oes y Darganfod, yn bennaf rhwng y 15fed a’r 17eg ganrif pan oedd fforwyr o Ewrop yn hwylio ar draws y byd I bob cyfeiriad.  Dyma pryd oedd Ewropeaid yn fforio ac yn darganfod tiroedd newydd yn Yr Amerig, Affrica, Asia ac Ynysoedd y De.  Portiwgal a Sbaen fu’n dominyddu cyfnodau cynharaf o fforio ac yn nes ymlaen daeth gwledydd fel Lloegr, yr Iseldiroedd a Ffrainc yn fwy amlwg.

Teithiau nodedig[golygu cod]

Diogo Cao yn Affrica

Roedd fforwyr yn ystod y cyfnod Oes y Darganfod yn mynd i wahanol gyfandiroedd a rhanbarthau ar draws y byd. Yn Affrica, roedd fforwyr enwog fel Diogo Cão (c.1452-c.1486) wedi darganfod ac wedi fforio i fyny yr afon Congo gan gyrraedd arfordiroedd gwledydd modern heddiw fel Angola a Namibia.  Bartolomeu Dias (c.1450-1500) oedd yr Ewropead cyntaf i gyrraedd Penrhyn Gobaith Da a rhannau eraill o arfordir de Affrica.

Gwnaeth fforwyr eraill ddarganfod llwybrau o Ewrop tuag at Asia, Cefnfor India a'r Cefnfor TawelVasco da Gama (1460-1524), a oedd yn fordwywr, oedd yr un cyntaf i deithio o Ewrop i India ac yna nôl heibio Penrhyn Gobaith Da gan ddarganfod y llwybr ar y môr draw tuag at y Dwyrain. Penderfynodd Pedro Alvares Cabral (c.1467/68 – c.1520), ddilyn ôl traed llwybr Gama, gan berchnogi Brasil yn ystod y daith a fe arweiniodd y fordaith gyntaf a gysylltodd Ewrop, Affrica, America ac Asia.  Darganfyddodd Diogo Dias arfordir dwyreiniol Madagasgar.

Arweiniwyd y fflyd gyntaf o Ewrop i fewn yn uniongyrchol i'r Cefnfor Tawel (ar ei hochr orllewinol) gan António de Abreu (c.1480-c.1514) a Francisco Serrão (14? – 1521). Aethant heibio Ynysoedd Swnda gan gyrraedd y Moluccas.  Darganfyddodd Andres de Urdaneta (1498-1568) y llwybr morwrol o Asia i’r Amerig.

Ym Môr y Pasiffig, darganfyddwyd Papua Gini Newydd gan Jorge de Menezes (c.1498-?) ac Ynysoedd Marshall gan Garcia Jofre de Loaisa (1490-1526).[4]

Darganfod America[golygu cod]

Portread ar ol marwolaeth o Christopher Columbus

Rhwng 1492 0 1502 arweiniwyd mordeithiau gan Christopher Columbus (1451-1506) ar draws y Cefnfor Atlantig er mwyn darganfod ffordd newydd o gyrraedd India drwy fynd i gyfeiriad y Gorllewin yn lle’r Dwyrain.  Byddai’r mordeithiau hyn yn profi hefyd bod y byd yn grwn.  Yn ddiarwybod iddo roedd Columbus wedi darganfod ynysoedd y Caribi er ei fod ef yn credu ei fod wedi darganfod Asia. Roedd y fordaith wedi ei noddi gan Frenin Sbaen ac wedi bod yn allweddol yn hyrwyddo cysylltiad a hybu masnach rhwng yr Hen Fyd (Ewrop, Asia ac Affrica) a’r Byd Newydd (yr Americas ac Awstralia) i Sbaen.  Profodd mordeithiau Columbus hefyd bod yna gyfandir i’r gorllewin o Ewrop ac i’r dwyrain o Asia.  Wedi darganfyddiad y rhan yma o America gan Columbus, anfonwyd nifer o fordeithiau gan wahanol wledydd i fforio Hemisffer y Gorllewin.  Roedd rhain yn cynnwys Juan Ponce de León (1474-1521), a oedd yr un cyntaf i ddarganfod a mapio arfordir Florida; Vasco Núñez de Balbao (c.1475-1519) oedd yr Ewropead cyntaf i weld y Cefnofro Tawel o lannau America (wedi croesi Isthmus Panama) gan gadarnhau felly bod America yn gyfandir ar wahân i Asia; fforiwyd tiroedd yn ne Brasil, Paragwâi a Bolifia a chyrhaeddwyd mynyddoedd yr Andes yn ne America gan Aleixo Garcia (14? – 1527).

Darganfyddwyd yr afon Mississippi gan Álvar Núñez Cabeza Vaca (1490-1558) ac ef hefyd oedd y fforiwr cyntaf o Ewrop i hwylio Gwlff Mecsico a chroesi Texas.  Lluniwyd y mapiau cyntaf yn dangos rhannau o ganol Canada a’i moroedd gan Jacques Cartier (1491-1557); darganfyddwyd y Grand Canyon a’r afon Colorado gan Francisco Vásquez de Coronado (1510-1554); Francisco de Orellana (1511-1546) oedd yr Ewropead cyntaf i fordwyo ar hyd afon Amazonas.

Map John Evans o'r afon Missouri

Mae chwedloniaeth yn cysylltu Cymru gyda darganfyddiad America cyn i Columbus gael ei gysylltu gyda darganfyddiad y cyfandir. Mewn llawysgrif a ysgrifennwyd gan Edward Williams, neu Iolo Morganwg (1747-1826), ceir traethawd sy’n dwyn y teitl, Some Account of an Ancient Welsh Colony in America, sy’n cynnwys adran ragarweiniol yn honni bod tywysog Cymru, Madog ab Owain Gwynedd, wedi darganfod America ddiwedd y ddeuddegfed ganrif.  Roedd Iolo Morgannwg wedi casglu tystiolaeth gynhwysfawr o ffynonellau llafar, llawysgrif a phrint sy’n cyfeirio at fodolaeth Indiaid Cymreig Gogledd America a siaradai’r iaith Gymraeg.[5]

Hyrwyddwyd stori Madog a bod ganddo ddisgynnyddion, sef y Madogiaid gan y seryddwr enwog o Gymru, sef John Dee, a oedd yn gynghorwr i’r frenhines Elisabeth I yn ystod y 16eg ganrif.  Defnyddiwyd hanes Madog ganddo fel propaganda i gyfiawnhau’r syniad o ymerodraeth Brydeinig draw yng ngogledd America.[6] 

Ar ddiwedd y 18fed ganrif aeth y fforiwr o Waunfawr, ger Caernarfon, sef John Thomas Evans (1770 – 1799) draw i ogledd America i geisio profi bod yr ‘Indiaid Cymreig’ hyn wedi bodoli, a bod eu disgynnyddion yn parhau i fyw yno ac yn siarad Cymraeg. Fel rhan o’i ymdrechion i chwilio’r ‘Indiaid Cymreig’  bu’n teithio ar hyd yr afon Missouri ac oherwydd hynny cynhyrchodd un o’r mapiau cynharaf o’r afon honno.  Daeth Thomas Jefferson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, rhwng 1801-1809, o hyd i fap John Evans a’i drosglwyddo i Lewis a Clark wrth iddynt fforio tiroedd yn ardal y Missouri.[7]


Mordeithiau pellach[golygu cod]

Syr Walter Raleigh yn 1598. Ef a ddaeth â thatws a thybaco i Brydain.

Fernão de Magalhães (1480-1521) oedd y mordwywr cyntaf i groesi'r Cefnfor Tawel, gan ddarganfod Culfor Magellan, a gwnaeth bron a chwblhau mordaith gyfan o gwmpas y

ddaear ar ffurf sawl mordaith.  Cwblhawyd y gylchdaith gyfan gyntaf o gwmpas y ddaear gan Sebastian Elcano (1476-1526).

Cafodd Giovanni Caboto (c.1450-1498) ei noddi gan Harri’r VII i fynd ar fordaith er mwyn chwilio llwybr newydd ar draws Cefnor yr Iwerydd draw i Asia.  Sylweddolai Harri’r VII bod cyfoeth mawr yn y Byd Newydd ac roedd felly ond yn barod i gefnogi’r fordaith.  Hwyliodd Cabot o borthladd Bryste yn 1497 a chyrraedd tir Newfoundland, ar arfordir dwyreiniol Canada ym Mehefin 1497.  Hawliodd y tir newydd yn enw Lloegr.

Yn ystod ail hanner y 16eg ganrif a’r 17eg ganrif parhawyd i fforio yn Asia a'r Cefnfor Tawel.  Darganfyddwyd Ynysoedd Pitcairn gan Pedro Fernandes de Queirós (1565-1614) a darganfyddwyd Ynysoedd Solomon ac Ynys Wake gan Álvaro de Mendaña (1542-1596).

Cofnodwyd Willem Janszoon (1570-1630) fel yr Ewropeaid cyntaf i lanio yn Awstralia a darganfyddwyd dwyrain a gogledd New Guinea gan Yñigo Ortiz de Retez.  Darganfyddwyd Culfor Torres, rhwng Awstralia a New Guinea, gan Luis Váez de Torres (1565-1613) a bu Abel Tasman (1603-1659) yn fforio gogledd Awstralia gan ddarganfod Tasmania, Seland Newydd a Tongatapu.

Un o’r fforwyr pwysicaf yn fforio Gogledd America oedd y fforiwr a’r mordwywr enwog o Loegr, Henry Hudson (c.1565 – 1611).  Roedd eisiau darganfod Tramwyfa’r Gogledd – Orllewin a bu’n fforio Bae Hudson yng Nghanada gan ddarganfod yr afon Hudson, ar arfordir ddwyreiniol America yn 1609.  Yn ddiweddarach daeth Bae Hudson a Chulfor Hudson yn drefedigaethau Saesneg.  Yn ystod ei fordeithiau draw i Ogledd America rhwng 1584 a 1587 ceisiodd Walter Raleigh sefydlu trefedigaeth yn Virginia, a enwyd ar ôl y Frenhines Elisabeth I, ar yr arfordir rhwng Florida a Gogledd Carolina. Methiant fu hynny ond daeth â thybaco a thatws nôl gyda ef i Loegr. 


Mae'r planisffer Cantino (1502) yn un o'r mapiau mwyaf gwerthfawr erioed. Mae'n darlunio'r byd, fel yr oedd yr Ewropeaid yn ei adnabod ar ôl y mordeithiau archwilio mawr ar ddiwedd y bymthegfed a dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg i'r Amerig, Affrica ac India.


Mordeithiau o Ewrop i Affrica[golygu cod]

Map Thomson o Affrica yn 1813 yn dangos nad oedd Ewropeaid yn gwybod fawr ddim am du mewn y cyfandir.

Affrica yw man genedigaeth gwareiddiad. Roedd ganddo ddiwylliannau cyfoethog a oedd wedi ffynnu ers miloedd o flynyddoedd.[8] Fodd bynnag, dim ond yn yr 15fed ganrif y cychwynnodd yr archwiliad Ewropeaidd o Affrica Is-Sahara. Canolbwyntiodd fforwyr yn bennaf ar sefydlu pyst masnachu ar hyd yr arfodir a hawlio tiroedd newydd i'w gwledydd. Roedd fforio Affrica hefyd yn nodi dechrau'r fasnach gaethweision.


Un o’r fforwyr Ewropeaidd cyntaf i fforio cyfandir Affrica oedd y fforiwr o Bortiwgal, sef Henry’r Mordwywr.  Cyrhaeddwyd Penrhyn Gobaith Da am y tro cyntaf gan Bartolomeu Dias ar Mawrth 12, 1488, a arweiniodd at agor y llwybr mor pwysig rhwng India a’r Dwyrain Pell. Er hynny, yn ystod yr 16eg a’r 17eg ganrif roedd fforio Affrica gan Ewropeaid yn eithaf cyfyngedig. Tueddai’r fforwyr o Ewrop ganolbwyntio ar sefydlu canolfannau masnach ar hyd arfordir Affrica tra eu bod nhw ar yr un pryd yn fforio ac yn coloneiddio’r Byd Newydd.  Roedd fforio tir mewnol Affrica felly wedi cael ei wneud gan fwyaf gan fasnachwyr caethweision Arabaidd.

Henry Morton Stanley yn 1872

Hyd yn oed ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd gwybodaeth fforwyr o Ewrop am diroedd ac ardaloedd mewnol Affrica yn eithaf cyfyngedig o hyd.  Gwnaed rhywfaint o fforio yn ne Affrica yn ystod yr 1830au a’r 1840au ac roedd cychwyn y ‘Scrambl am Affrica’ ganol y 19eg ganrif gan ymerodraethau gwahanol Ewrop yn golygu mae ‘calon Affrica’, ynghyd â’r Arctig, Antartig a basn yr Amazon, oedd rhai o’r ychydig ardaloedd yn y byd nad oedd wedi eu fforio.  Erbyn y 1870au roedd fforwyr fel Syr Richard Burton, David Livingstone a Henry Morton Stanley wedi anturio i rannau o Affrica a oedd cynt yn anadnabyddus.  Yn sgil eu teithiau nhw roedd amlinelliad cyffredinol o ddaearyddiaeth Affrica wedi cael ei gwblhau erbyn ddiwedd y 19eg ganrif.

Roedd Henry Morton Stanley (1841-1904) yn anturiaethwr o Gymru oedd yn enwog am ei deithiau i’r Affrig. Yn 1869, cafodd ei gomisiynu gan y New York Herald i fynd i’r Affrig i chwilio am yr anturiaethwr a’r cenhadwr o’r Alban, David Livingstone. Teithiodd 700 milltir dros gyfnod o 236 diwrnod cyn darganfod Dr.Livingstone ar ynys Uiji.  Caiff ei gofio’n aml am yr ymadrodd “Dr. Livingstone, I presume?” sef y modd, mae’n debyg, iddo gyfarch David Livingstone wedi iddo’i ddarganfod.  Aeth ati i deithio ar draws ardaloedd eang yng nghanolbarth Yr Affrig a theithiodd ar hyd Afon Lualaba a’r Congo, cyn cyrraedd yr Iwerydd ym mis Awst 1877, wedi taith epig a ddisgrifiwyd ganddo yn ddiweddarach yn Through the Dark Continent (1878). Roedd Livingstone yn arwr yn ystod y 19eg ganrif oherwydd fe ymchwiliodd ardaloedd enfawr yn Affrica, a oedd yn cynnwys teithiau ar draws y Kalahari, a 4 blynedd ar draws de Affrica. Fe ddaeth ar draws ac enwodd Rhaeadr Victoria ar ôl y Frenhines yn 1855. Helpodd lunio llun gwell o Affrica i bobl o’r gorllewin. Daeth y Cymro Henry Morton Stanley i gwrdd â Livingstone ac ymchwiliodd ardaloedd o Affrica ei

hunan.

Yr Oes Fodern[golygu cod]

James Cook yn glanio yn Botany Bay, Awstralia yn 1770.

Erbyn dechrau'r 18eg ganrif roedd holl fasau tir mawr y byd wedi'u darganfod, ond roedd llawer o ynysoedd, ffyrdd dŵr a thiroedd mewnol i'w harchwilio o hyd. Roedd dal llawer i'w ddysgu hefyd am hanesion, ieithoedd a diwylliannau'r byd heb son am y byd naturiol.

Ar wahân i’r fforwyr fu’n anturio yn ystod Oes y Darganfod bu fforwyr eraill yn mentro i rannau eraill o’r byd, er enghraifft, fforwyr Rwsiaidd yn cyrraedd arfordir Siberiaidd y Cefnfor Tawel a Chulfor Bering, a oedd wedi ei leoli ar gyrion Asia ac Alaska (gogledd America).  Bu Vitus Bering (1681-1741), tra fu’n gwasanaethu Llynges Rwsia, yn fforio drwy Culfor Bering, Môr Bering, arfordir Alaska ar arfordir gogledd America a thiroedd eraill yn ardaloedd gogleddol Môr y Pasiffig; a bu Capten James Cook yn fforio arfordir dwyreiniol Awstralia, Ynysoedd Hawaii a chylchdeithiodd o gwmpas cyfandir Antartica.

Roedd gan Gymro o Sir Ddinbych gysylltiad gyda Capten James Cook, sef David Samwell, neu ‘Dafydd Feddyg Ddu’ (1751-1798).  Hwyliodd Samwell, fel Is-gapten i’r Meddyg ar long y Resolution yn 1776 ar fordaith olaf Capten James Cook i’r Cefnfor Tawel.  Roedd yn lygad-dyst pan laddwyd Cook mewn ysgarmes gyda rhai o’r brodorion ym Mae Kealakekua, ynys Hawaii yn Chwefror 1779.  Yn ystod y fordaith cafodd ei ddyrchafu i fod yn Feddyg ar y Discovery.  Ysgrifennodd David Samwell yr hanes yn llawn a’i gyhoeddi yn 1786 wedi iddo ddychwelyd i Loegr, o dan y teitl, A narrative of the death of Captain James Cook: to which are added some particulars, concerning his life and character and observations respecting the introduction of the venereal disease into the Sandwich Islands in 1786.[9] [10]

Lansiwyd mordeithiau eraill yn ystod yr oes fodern gan gynnwys mordaith Lewis a Clark (1804-1806), sef mordaith dros y tir a lansiwyd gan Arlywydd America Thomas Jefferson, er mwyn fforio tiroedd Louisiana a oedd newydd eu perchnogi oddi wrth Ffrainc yn 1803. Y bwriad hefyd oedd chwilio llwybr forwrol mewnol i'r Cefnfor Tawel yn ogystal ag ymchwilio planhigion a blodau y cyfandir.  Anfonwyd Mordaith Fforio Unol Daleithiau America (1838-1842) gan yr Arlywydd Andrew Jackson, er mwyn cynnal arolwg o'r Cefnfor Tawel a’r tiroedd amgylchynol.

Fforio i'r gofod[golygu cod]

Roced gofod yn lawnsio

Yn ystod yr 20fed ganrif, mae awydd dyn i ddarganfod ac anturio wedi symud tu hwnt i’r ddaear. Dechreuwyd fforio i’r gofod yn ystod yr 20fed ganrif gyda dyfeisiad y roced yn rhoi’r cyfle i ddynoliaeth deithio i’r lleuad ac anfon peiriannau robotig i fforio planedau eraill yn y bydysawd.

Yr Americanwr Pete Conrad yn cerdded ar y lleuad ym 1969.

Tra fod astudio’r gofod yn cael ei gynnal ar y naill law gan seryddwyr sy’n defnyddio telisgopau mae fforio ymarferol yn digwydd drwy ddefnyddio chwyliedyddion robotig di-griw a theithiau gofod gan ddyn, er enghraifft, Yuri Gagarin a Neil Armstrong yn ystod y 1960au. Roedd dyfeisiad y roced canol yr ugeinfed ganrif wedi golygu bod fforio’r gofod mewn ffordd ymarferol a ffisegol wedi dod yn realiti.


Mae nifer o resymau pam bod dyn eisiau fforio’r gofod, er enghraifft, er mwyn hyrwyddo ymchwil gwyddonol, statws i’r wlad sy’n noddi’r fforio, uno gwahanol wledydd ar draws y byd, ceisio sicrhau parhâd dynoliaeth a datblygu manteision milwrol a strategol yn erbyn gwledydd eraill.

Cafwyd trobwyntiau pwysig yn hanes fforio i’r gofod yn ystod y 1950au a’r 1960au pan oedd y rhyfel oer ar ei anterth.  Lansiwyd y lloeren gyntaf a gylch deithiodd o gwmpas y ddaear gan yr Undeb Sofietaidd ar Hydref 4, 1957, sef Sputnik 1.  Gwnaed y glaniad cyntaf erioed ar y lleuad gan daith gofod o America, sef Apollo 11, a wnaed ar Orffennaf 20, 1969.

Llwyddodd rhaglen ofod y Sofietiaid i gwblhau sawl carreg filltir bwysig, er enghraifft, y person cyntaf i fod mewn orbit yn 1957; y daith ofod gyntaf gan berson, sef Yuri Gagarin ar fwrdd Vostok 1, yn 1961; y cerddediad cyntaf yn y gofod gan Alexei Leonov ym mis Mawrth 1965 a lansio’r orsaf ofod gyntaf, sef Salyut 1 yn 1971.

Wedi ugain mlynedd cyntaf fforio i’r gofod, symudodd y sylw o lansio un taith ar y tro i’r gofod i lansio mentrau newydd fel y Rhaglen Ofod Shuttle ac o gystadleuaeth rhwng y gwledydd i gyd-weithio, er enghraifft, pan sefydlwyd yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (International Space Station – ISS).

Yn ystod y 2000au, mae Gweriniaeth Ddemocrataidd Tsieina wedi lansio rhaglen ofod lwyddiannus gyda chriw tra bod yr Undeb Ewropeaidd, Siapan ac India wedi cynllunio teithiau criw llawn i’r gofod. Mae Tsieina, Rwsia, Siapan ac India wedi dangos cefnogaeth i lansio teithiau criw llawn i’r lleuad yn ystod y 21ain ganrif tra fod yr Undeb Ewropeaidd wedi dangos diddordeb a chefnogaeth i lansio teithiau criw llawn i’r lleuad ac i Mawrth yn ystod y 21ain ganrif.

Dringo Everest[golygu cod]

Mae dringo i begwn y mynydd uchaf yn y byd, a enwyd yn 1856 ar ôl George Everest, y syrfëwr geodesig o Gruchywel wedi bod yn un o orchestion mwyaf anhygoel dyn yn ystod yr 20fed ganrif. 

Copa[dolen marw] Mynydd Everest

Mae rôl Cymru yn yr ymdrech i gyflawni hynny wedi bod yn un amlwg.  Roedd Robert Charles Evans (1918 – 1995) yn fynyddwr ac yn lawfeddyg a oedd yn enedigol o Sir Ddinbych.Gyda Edmund Hillary a Tenzing Norgay roedd yn aelod o’r ymgyrch i gyrraedd a choncro copa Mynydd Everst yn 1953.   Ef oedd is-arweinydd y cyrch ar Fynydd Everest. Ni lwyddodd ef ei hun i gyrraedd y prif gopa ond mi wnaeth gyrraedd Copa De y mynydd.  Llwyddodd Hillary a Norgay i gyflawni’r ymgais lwyddiannus gyntaf erioed i gyrraedd copa Mynydd Everest yn 1953.[11][12]


Fforiwr arall o Gymru a oedd yn aelod o ddwy ymgyrch Capten Robert Falcon Scott i gyrraedd yr Antartig oedd Edgar Evans (1876 – 1912).  Roedd yn enedigol o Rhosili, Gwyr ac roedd ar fwrdd llong y Terra Nova a hwyliodd o Gaerdydd yn 1910 ar gychwyn yr ail daith.  Bu farw yn ystod yr ail daith i’r Antartig ar Chwefror 17, 1912 a chladdwyd ef allan yn yr Antartig. [13] [14]

Y Cymro cyntaf erioed i gyrraedd prif gopa Mynydd Everest oedd y Cymro o Bontrhydfendigaid, Ceredigion, sef Caradog 'Crag' Jones (g. 1958) a gyflawnodd y gamp yn 1995.  Y Gymraes gyntaf i ddringo a chyrraedd copa Everest oedd Tori James, o Sir Benfro a gyrhaeddodd y copa yn 2007.


Rhesymau am fforio[golygu cod]

Dylanwad y Dadeni Dysg[golygu cod]

Dysgwyr yn Athens yn cyfnod a Dadeni Dysg

Roedd cyfnod y Dadeni Dysg yn gyfnod pan oedd pobl yn dangos mwy o ddiddordeb mewn darganfod a dysgu mwy am y byd o’u cwmpas.  Mae’r term yn dod yn wreiddiol o’r Ffrangeg (renaissance) ac yn golygu ‘ail-eni’.  Dyma gyfnod pan oedd pobl yn ail-ddarganfod beth oedd dysgu pethau newydd ac yn edrych nôl at gymdeithas glasurol y Rhufeiniaid a’r Groegiaid am ysbrydoliaeth.  Roedd yn gyfnod cyffrous o ddarganfyddiadau a dyfeisiadau newydd, adeiladau crand a chelfyddyd cywrain.  Roedd agweddau pobl tuag at eu hunain a’r byd o’u cwmpas yn newid. Roedd datblygiad y wasg argraffu yn yr Almaen yn golygu bod syniadau’r Dadeni Dysg yn medru cael eu lledaenu’n gyflym drwy Ewrop.  Cyn cyfnod y Dadeni Dysg dim ond tua thraean o wledydd y byd oedd wedi cael ei ddarganfod. Ychydig iawn o wybodaeth oedd gan bobl yn Ewrop am y byd tu hwnt i gyfandir Ewrop heblaw am India neu Tsieina gan fod gwledydd Ewrop wedi bod yn masnachu gyda nhw ers blynyddoedd.

Llwybrau masnach newydd[golygu cod]

Roedd Ewropeaid yn awyddus i ddarganfod llwybrau teithio masnach mwy diogel draw i’r Dwyrain ar y môr er mwyn cludo sbeisys fel sinsir, sinamon a phupur nôl i Ewrop.

Gwyddoniaeth[golygu cod]

David Livingstone yn pregethu Cristnogaeth i bobl Affrica

Roedd pobl eisiau dysgu mwy am y byd, ei drigolion a’r llwythau brodorol, diwylliannau newydd ac hefyd am rhywiogaethau gwahanol o flodau ac anifeiliaid.  Roedd dyfeisiadau newydd fel cwmpawd ac adeiladwaith gwell o longau yn golygu bod mapiau yn fwy cywir ac roedd fforwyr yn medru teithio i diroedd newydd i ddarganfod.

Crefydd[golygu cod]

Roedd yr Eglwys Gristnogol yn awyddus i ledaenu dylanwad Cristnogaeth ar draws y byd. Roedd gwledydd Catholig, fel Sbaen a Phortiwgal, wrth ddarganfod tiroedd newydd yn sefydlu dylanwad yr Eglwys Gatholig yn y gwledydd hynny wedyn.

Arian, antur ac enwogrwydd[golygu cod]

Roedd fforwyr yn medru dod yn gyfoethog iawn wrth ddarganfod a fforio gwledydd newydd yn ogystal â dod a phŵer a statws i’r gwledydd roedden nhw’n eu cynrychioli.  Gwelai llawer ef hefyd fel cyfle i weld y byd ac anturio i rannau hollol anghyfarwydd o’r byd.  Roedd gwledydd fel Sbaen a Phortiwgal a Phrydain yn hawlio’r tiroedd newydd fel eu heiddo nhw gan sefydlu ‘Ymerodraeth’ yn eu henwau nhw.  Roedd gan Sbaen a Phortiwgal Ymerodraeth yn y Byd Newydd, er enghraifft, ym Mecsico.

Cyferiadau[golygu cod]

  1. "Silk Road". Ancient History Encyclopedia. Cyrchwyd 2020-03-07.
  2. Cosmo2002 di Cosmo Yü 2002 
  3. Roth, Jonathan 2002. The Roman Army in Tripolitana and Gold Trade with Sub-Saharan Africa. APA Annual Convention. New Orleans.
  4. "Republic of the Marshall Islands". Pacific RISA. Cyrchwyd November 1, 2015.
  5. Curran, Kelly (8 January 2008). "The Madoc legend lives in Southern Indiana: Documentary makers hope to bring pictures to author's work". News and Tribune, Jeffersonville, Indiana. Cyrchwyd 16 October 2011.
  6. MacMillan, Ken (April 2001). "Discourse on history, geography, and law: John Dee and the limits of the British empire, 1576–80". Canadian Journal of History 36 (1): 1.
  7. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd; 2008.
  8. "Africa, cradle of civilization". Lisapo ya Kama (yn Saesneg). 2018-01-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-03. Cyrchwyd 2020-03-08.
  9. Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 797. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  10. "Un o lawysgrifau David Samwell". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2010-10-07. Cyrchwyd 2020-03-08.
  11. Peredur Lynch, John Davies Nigel Jenkins Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru. t. 336.
  12. (Saesneg) Tony Heath. "Obituary: Sir Charles Evans", The Independent (12 Rhagfyr 1995). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.
  13. Peredur Lynch, John Davies Nigel Jenkins Menna Baines. Gwyddoniadur Cymru. t. 337.
  14. Turner, Robin (2014-11-28). "Blue plaque unveiled for polar explorer Edgar Evans 100 years after his death". walesonline. Cyrchwyd 2020-03-07.