Jacques Cartier

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jacques Cartier
fforiwr
Darlun Jacques Cartier gan Théophile Hamel, tua 1844. Ni wyddys am unrhyw ddarluniau cyfoes ohono.
Geni:
 
31 Rhagfyr 1491
   Sant-Maloù, Llydaw
Marw:
 
1 Medi 1557
   Sant-Maloù, Llydaw

Fforiwr arloesol o Lydaw a fu'n archwilio rhannau o Ganada yn yr unfed ganrif ar bymtheg oedd Jacques Cartier (Llydaweg: Jakez Karter) (31 Rhagfyr 1491 - 1 Medi 1557).

Y fordaith gyntaf, 1534[golygu]

Fe'i dewiswyd gan Frenin Ffrainc, Ffransis I, i archwilio "ynysoedd a thiroedd lle y dywedir bod llawer o aur a thrysorau eraill". Gadawodd Sant-Maloù ar 20 Ebrill 1534 i chwilio am lwybr gorllewinol i farchnadoedd cyfoethog Asia. Methodd â chyrraedd Asia, ond archwiliodd yn hytrach rannau o Newfoundland a dwyrain Canada. Pan ddysgodd am Afon St Lawrence, dechreuodd feddwl mai dyna oedd y ffordd chwedlonol i Asia. Yn ystod y daith, glaniodd ar safle tref bresennol Gaspé (Québec), lle herwgipiodd ddau o feibion Pennaeth Donnacona, pennaeth un o'r llwythi Iroquoiaidd brodorol, a'u cludo nhw yn ôl i Ffrainc.

Yr ail fordaith, 1535–6[golygu]

Y flwyddyn ganlynol, gyrrwyd Cartier yn ôl ar ei ail daith i ogledd America gyda thair llong, 110 o ddynion a'r meibion a herwgipiwyd i ddangos y ffordd iddo. Dychwelodd y bechgyn i'w llwyth. Hwyliodd i fyny afon St Lawrence hyd at bentrefi Stadacona (lleoliad dinas Québec heddiw) a Hochelaga (Montréal). Ar ôl herwgipio rhai o'r pennaethiaid Irowuoiadd, clywodd am wlad o'r enw Saguenay i'r gogledd, y tebygid iddi fod yn llawn aur a thrysorau eraill. Ar ôl gaeaf anodd ar ei safle ger Stadacona, cyrhaeddodd Sant-Maloù unwaith eto ar 15 Gorffennaf 1536.

Y drydedd fordaith, 1541–2[golygu]

Ar 23 Mai 1541, aeth Cartier yn ôl i ogledd America ar ei drydedd daith, gan gyrraedd Stadacona ar 23 Awst. Ei nod oedd ceisio chwilio am Saguenay a sefydlu treflan barhaol yng Nghanada er mwyn cadarnháu hawl Ffrainc i'r diriogaeth yn erbyn hawliau Sbaen. Daeth Jean-François de la Rocque de Roberval ar ei ôl ef er mwyn sefydlu'r dreflan. Methodd â theithio'n bellach na Hochelaga, ond sefydlwyd treflan Charlesbourg-Royal (ar safle tref Cap-Rouge heddiw) ar lannau'r St Lawrence. Daeth y berthynas rhwng y Ffrancod a'r Iroquoiaid yn elyniaethus. Ar ôl gaeaf caled yng Nghanada, pryd bu farw llawer o'r gwladychwyr Ffrengig mewn ymosodiadau gan yr Iroquoiaid, dychwelodd i Ffrainc, gan adael Roberval yno i ddatblygu'r dreflan. Goroesodd Charlesbourg-Royal am flwyddyn arall tan i Roberval gefnu arni flwyddyn yn ddiweddarach. Doedd dim ceisiadau eraill i sefydlu treflannau Ewropeaidd parhaol yng ngogledd America am fwy na hanner can mlynedd. Ni ddaeth Cartier yn ôl i Ganada drachefn, ond bu'n treulio gweddill ei oes yn nhref ei febyd, Sant Maloù.