Neidio i'r cynnwys

Vitus Bering

Oddi ar Wicipedia
Vitus Bering
Darlun o Vitus Bering (neu efallai o'i ewythr)
GanwydVitus Jonassen Bering Edit this on Wikidata
5 Awst 1681 Edit this on Wikidata
Horsens Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd12 Awst 1681 Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 1741 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
o clefri poeth Edit this on Wikidata
Ynys Bering Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth Denmarc, Ymerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, hydrograffydd, swyddog yn y llynges, morwr Edit this on Wikidata
PriodAnna Bering Edit this on Wikidata
PlantThomas Bering, Anton Bering Edit this on Wikidata
PerthnasauVitus Bering Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Vitus Jonassen Bering, weithiau Behring, (bedyddiwyd 5 Awst 168119 Rhagfyr 1741) yn forwr a fforiwr o Ddenmarc yn llynges Rwsia, a adnabyddid gan y morwyr Rwsaidd fel Ivan Ivanovich. Ganed Bering yn Horsens, Denmarc a bu farw ar Ynys Bering, ger Gorynys Kamchatka.

Wedi mordaith i India'r Dwyrain, ymunodd a'r llynges Rwsaidd yn 1703. Priododd wraig o Rwsia, ac wedi ymweliad byr â Horsens yn 1715 ni ddychwelodd yno wedyn. Yn 1725, teithiodd ar dir i Okhotsk, croesodd i Kamchatka, ac adeiladodd y llong Sviatoi Gavriil (Sant Gabriel). Ar y llong yma, hwyliodd Bering tua'r gogledd yn 1728, hyd na allai weld rhagor o dir tua'r gogledd na'r dwyrain.

Y flwyddyn wedyn bu'n chwilio am dir i'r dwyrain, gan ail-ddarganfod Ynys Ratmanov, un o Ynysoedd Diomede. Yn 1730 dychwelodd i Sant Petersburg, ond yn ystod y daith hir trwy Siberia bu ef yn wael iawn a bu farw pump o'i blant. Dychwelodd i Okhotsk yn 1735, lle'r adeiladwyd dwy long: Sviatoi Piotr (Sant Pedr) a Sviatoi Pavel (Sant Paul). Yn 1740 sefydlodd Petropavlovsk yn Kamchatka. Oddi yno hwyliodd i gyfeiriad Gogledd America yn 1741, gan gyrraedd arfordir deheuol Alaska.

Ar y ffordd yn ôl, darganfuwyd rhai o Ynysoedd Aleutia, ond dirywiodd iechyd Bering a bu raid glanio ar ynys ym Môr Bering lle bu farw ar 19 Rhagfyr 1741. Enwyd yr ynys ar ei ôl. Heblaw y môr a'r ynys, mae Culfor Bering yn dwyn ei enw.