Petropavlovsk-Kamchatsky

Oddi ar Wicipedia
Petropavlovsk-Kamchatsky
Mathtref/dinas Edit this on Wikidata
Петропавловск-Камчатский.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth164,900 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1740 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKonstantin Viktorovich Bryzgin Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+12:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kushiro-shi, Sefastopol, Unalaska, Aksaray, Zapopan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPetropavlovsk-Kamchatsky Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd362.14 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr150 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.02°N 158.65°E Edit this on Wikidata
Cod post683000–683099 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKonstantin Viktorovich Bryzgin Edit this on Wikidata
Map

Canolfan weinyddol a dinas fwyaf Crai Kamchatka, Rwsia yw Petropavlovsk-Kamchatsky (Rwseg: Петропа́вловск-Камча́тский). Mae'n borthladd mawr. Poblogaeth: 179,780 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir y ddinas ar Fae Avacha yn rhan deheuol Gorynys Kamchatka, ar lan y Cefnfor Tawel. Ar draws y bae ceir Gwersyll Llongau Tanfor Niwcliar Rybachiy, a sefydlwyd yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd ac sy'n cael ei defnyddio o hyd gan Forlu Rwsia. Gorwedd y ddinas 6,766 cilometer (4,204 milltir) i'r dwyrain o'r brifddinas Moscow a thua 2,220 cilometer (1,380 milltir) o Vladivostok. Ceir sawl llosgfynydd yn y mynyddoedd i'r gogledd o'r ddinas.

Sefydlwyd Petropavlovsk-Kamchatsky gan y fforwr o Ddenmarc, Vitus Bering, ar ddiwedd 1740, yng ngwasanaeth Morlu Ymherodrol Rwsia. Enwyd y ddinas yn Petropavlovsk ('Pedr a Paul') ganddo, ar ôl ei ddwy long, St Peter a St Paul.

Mae pysgota yn un o'r prif ddiwydiannau lleol.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]