Pupur tsili

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Puprau tsili coch Cubanelle

Ffrwyth planhigion o'r genws Capsicum sy'n aelodau o deulu'r codwarth, Solanaceae, yw'r pupur tsili.[1] Daw'r gair tsili o'r iaith Nahuatleg.[2] Defnyddir puprau tsili yn eang mewn llawer o fwydydd fel sbeis i ychwanegu gwres i brydau. Y sylweddau sy'n rhoi grym i buprau tsili pan fyddant yn cael eu llyncu neu'n cyffwrdd â'r croen yw capsaicin a chyfansoddion cysylltiedig a elwir yn capsaicinoidau.

Daeth pupur tsili o Fecsico.[3] Ar ôl y Gyfnewidfa Columbiaidd, lledaenodd llawer o gyltifarau pupur tsili ar draws y byd, a byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer bwyd a meddygaeth draddodiadol.

Mae cyltifarau sy'n tyfu yng Ngogledd America ac Ewrop yn deillio o Capsicum annuum, ac mae ganddynt ffrwythau gwyn, melyn, coch neu borffor i ddu. Yn 2016, roedd cynhyrchiad byd-eang puprynnau tsili gwyrdd amrwd yn 34.5 miliwn tunnell, gyda Tsieina yn cynhyrchu hanner cyfanswm y byd.[4]

Pan gyrhaeddodd Christopher Columbus a'i griw y Caribî, hwy oedd yr Ewropeaid cyntaf i ddod ar draws Capsicum, gan eu galw'n “puprau” oherwydd bod ganddynt, fel pupur du o'r genws Piper sy'n hysbys yn Ewrop, flas sbeislyd, poeth yn wahanol i fwydydd eraill.[5]

Lledaenodd puprau tsili i Asia wedi i fasnachwyr Portiwgaleg, a oedd yn ymwybodol o'i werth masnach a'i debygrwydd i sbeisrwydd pupur du, hyrwyddo ei fasnach yn llwybrau masnach sbeis Asiaidd.[6][5][7] Fe'i cyflwynwyd i India gan y Portiwgaliaid tua diwedd y 15fed ganrif.[8] Defnyddir puprau tsili yn gyffredin ar draws rhanbarthau amrywiol mewn bwyd Asiaidd yr 21g. [9] [10]

Cynhyrchwyd 34.5 miliwn tunnell o bupur coch a 3.9 miliwn tunnell o bupur wedi ei sychu yn fyd-eang yn 2016.[4] Tsieina oedd cynhyrchydd tsilis gwyrdd mwyaf y byd, gan ddarparu hanner y cyfanswm byd-eang. Roedd cynhyrchiad byd-eang puprau wedi'u sychu tua nawfed o'r cynhyrchiad ffres, dan arweiniad India gyda 36% o gyfanswm y byd. [4]

Y sylweddau sy'n gwneud pupur tsili yn sbeislyd yw capsaicin (8-methyl-N-vanillyl-6-6-nonenamide) a nifer o gemegau cysylltiedig o'r enw capsaicinoidau.[11][12] Mae maint y capsaicin yn dibynnu ar y fath o bupur tsili ac ar yr amodau tyfu. Fel arfer mae puprau sy'n mynd heb ddŵr yn cynhyrchu codennau cryfach. Pan roir straen dŵr ar blanhigyn habanero, trwy amsugno dŵr isel er enghraifft, mae crynodiad y capsaicin yn cynyddu mewn rhai rhannau o'r ffrwyth.[13] Mae capsaicin yn cael ei gynhyrchu gan y planhigyn i'w amddiffyn rhag ysglyfaethwyr mamalaidd a microbau, yn enwedig ffwng fusariwm sy'n cael ei gario gan bryfed hemipteraidd sy'n ymosod ar rywogaethau arbennig o bupur tsili, yn ôl un astudiaeth.[14]

Mae dwysedd "sbeis" puprau tsili yn cael ei fesur mewn unedau gwres Scoville (SHU).

Mae'n annhebygol iawn fod perthynas rhwng enw'r planhigyn ac enw Chile, sydd ag etymoleg ansicr ac o bosib yn deillio o enwau lleoedd lleol. [15] Yn Sbaeneg fel i'y siaredir yn Chile, Colombia, Ecuador, Panama, Periw, Gweriniaeth Dominica a Puerto Rico, defnyddir y gair ají, sydd o darddiad Taíno i gyfieirio at bupur tisili. Mae'r gair pupur, oedd yn cyfeirio'n wreiddiol at y genws Piper, yn hytrach Capsicum, bellach yn gyfeirio at y ddau blanhigyn[16], ac mae'r un peth yn wir yn y Saesneg, gyda geiriaduron gan gynnwys Geiriadur Prifysgol Rhydychen (pepper, ystyr 2b) a geiriadur Merriam-Webster. [17] Defnyddir y gair pupur yn gyffredin hefyd yn y meysydd botanegol a choginio yn enwau gwahanol fathau o blanhigion tsili a'u ffrwythau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dasgupta, Reshmi R (8 May 2011). "Indian chilli displacing jalapenos in global cuisine – The Economic Times". The Times Of India. http://economictimes.indiatimes.com/features/et-sunday-magazine/indian-chilli-displacing-jalapenos-in-global-cuisine/articleshow/8190311.cms.
  2. "HORT410. Peppers – Notes". Purdue University Department of Horticulture and Landscape Architecture. http://www.hort.purdue.edu/rhodcv/hort410/pepper/pe00001.htm. "Common name: pepper. Latin name: Capsicum annuum L. ... Harvested organ: fruit. Fruit varies substantially in shape, pericarp thickness, color and pungency."
  3. Kraft, KH; Brown, CH; Nabhan, GP; Luedeling, E; Luna Ruiz, Jde J; Coppens; d'Eeckenbrugge, G; Hijmans, RJ et al. (4 December 2013). "Multiple lines of evidence for the origin of domesticated chili pepper, Capsicum annuum, in Mexico". Proceedings of the National Academy of Sciences 111 (17): 6165–6170. doi:10.1073/pnas.1308933111. PMC 4035960. PMID 24753581. http://www.pnas.org/content/111/17/6165.full. Adalwyd 4 November 2016.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Chili production in 2016; Crops/World Regions/Production Quantity/Green Chillies and Peppers from pick lists". UN Food and Agriculture Organization, Statistics Division (FAOSTAT). 2017. http://www.fao.org/faostat/en/#data/QC.
  5. 5.0 5.1 Bosland, Paul W.; Votava, Eric (2000). Peppers: Vegetable and Spice Capsicums (in Saesneg). New York City: CABI. p. 1. ISBN 9780851993355. Adalwyd November 29, 2018.  Check date values in: |access-date= (help)
  6. Bosland, P.W. (1998). "Capsicums: Innovative uses of an ancient crop". In J. Janick. Progress in New Crops. Arlington, VA: ASHS Press. pp. 479–487.  Check date values in: |access-date= (help);
  7. Collingham, Elizabeth (February 2006). Curry. Oxford University Press. ISBN 978-0-09-943786-4.  Check date values in: |date= (help)
  8. N.Mini Raj; K.V.Peter E.V.Nybe (1 January 2007). Spices. New India Publishing. pp. 107–. ISBN 978-81-89422-44-8.  Check date values in: |date= (help)
  9. Simon Robinson (14 June 2007). "Chili Peppers: Global Warming". Time Magazine. http://content.time.com/time/specials/2007/article/0,28804,1628191_1626317_1632291,00.html.
  10. John McQuaid (20 February 2015). "What's driving the global chili pepper craze?". Forbes Media LLC. https://www.forbes.com/sites/johnmcquaid/2015/02/20/whats-driving-the-global-chili-pepper-craze/#367c71eb7e0d.
  11. S Kosuge, Y Inagaki, H Okumura (1961). Studies on the pungent principles of red pepper. Part VIII. On the chemical constitutions of the pungent principles. Nippon Nogei Kagaku Kaishi (J. Agric. Chem. Soc.), 35, 923–927; (en) Chem. Abstr. 1964, 60, 9827g.
  12. (ja) S Kosuge, Y Inagaki (1962) Studies on the pungent principles of red pepper. Part XI. Determination and contents of the two pungent
  13. Ruiz-Lau, Nancy; Medina-Lara, Fátima; Minero-García, Yereni; Zamudio-Moreno, Enid; Guzmán-Antonio, Adolfo; Echevarría-Machado, Ileana; Martínez-Estévez, Manuel (1 March 2011). "Water Deficit Affects the Accumulation of Capsaicinoids in Fruits of Capsicum chinense Jacq." (yn en). HortScience 46 (3): 487–492. ISSN 0018-5345. http://hortsci.ashspublications.org/content/46/3/487.full.
  14. Tewksbury, J. J; Reagan, K. M; Machnicki, N. J; Carlo, T. A; Haak, D. C; Peñaloza, A. L; Levey, D. J (2008). "Evolutionary ecology of pungency in wild chilies". Proceedings of the National Academy of Sciences 105 (33): 11808–11811. Bibcode 2008PNAS..10511808T. doi:10.1073/pnas.0802691105. PMC 2575311. PMID 18695236. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2575311.
  15. "Chili or Pepper?". Chilipedia.org. Archifwyd o y gwreiddiol ar 20 January 2013. https://web.archive.org/web/20130120075835/http://chilipedia.org/chili-or-pepper.
  16. "Geiriadur Prifysgol Cymru". http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?pupur.
  17. "va=pepper – Definition from the Merriam-Webster Online Dictionary". M-w.com. 13 August 2010. http://www.m-w.com/cgi-bin/dictionary?book=Dictionary&va=pepper.