Map

Oddi ar Wicipedia
Map cerfwedd gwleidyddol a ffisegol
Map cyntaf o Gymru: y Cambriae Typus gan Humphrey Lhuyd; 1573
Mappa Mundi (tua 1290) yn eglwys gadeiriol Henffordd

Cynrychiolaeth weledol o ardal ddaearyddol yw map, hynny yw, dadansoddiad symbolaidd sy'n tynnu sylw at y berthynas rhwng yr elfennau yn y lle megis gwrthrych, ardaloedd a themâu. Crewyd y map cyntaf o Gymru gan Humphrey Lhuyd yn 1573 a chyhoeddwyd ef yn Antwerp.

Mae llawer o fapiau ar ffurf modelau geometrig 3D a chaesian gynrychioli geometreg yn fanwl gywir ond yn statig, tra bod eraill yn ddeinamig a rhyngweithiol. Yn aml maent hefyd yn ddarnau o gelfyddyd.

Ymddangosodd nifer o fapiau bras iawn o Gymru yn yr Oesoedd Canol gan bobl megis Mathew Paris (tua 1250) a'r murfap Mappa Mundi (tua 1290) a welir heddiw yn eglwys gadeiriol Henffordd. Yn 1694 llosgwyd map a wnaed gan Gerallt Gymro yn 1194, a dim ond disgrifiad ohono sydd bellach i'w gael. Carreg filltir arall yn hanes mapiau o Gymru yw'r atlas honno a luniwyd yn 1579 gan Christopher Saxton - casliad o fapiau o'r 13 sir yng Nghymru. Lluniodd George Owen fap o Sir Benfro a chyhoeddwyd hwnnw yn y Britannia gan William Camden yn 1602. Dylanwadodd mapiau Humphrey Lhuyd a Christopher Saxton ar waith John Speed yn enwedig ar ei waith Theatre of the Empire of Great Britain (1611), sy'n cynnwys mapiau o Gymru a'i siroedd, a chynlluniau trefi ar bob un - elfen newydd ar fap. Atlas cyntaf Cymru oedd The Principality of Wales Exactly Described yn 1718 gan Thomas Taylor. Lluniodd Morris arolwg o arfordir Cymru yn 1748 ac yn llawnach yn 1801.[1]

Mathau gwahanol o fapiau[golygu | golygu cod]

Mae yna sawl gwahanol fath o fap ar gael. Mae pwrpas arbennig i bob arddull ac mae pob un yn cynrychioli gwybodaeth mewn ffordd benodol.

Map Topograffig[golygu | golygu cod]

Mae mapiau topograffig yn arddangos prif nodweddion y tirwedd ffisegol megis bryniau, afonydd a dyffrynoedd. Maent hefyd yn arddangos nodweddion dynol megis aneddiadau a chyfarthrebau.

Cartogram[golygu | golygu cod]

Mae cartogramau yn eithaf cymhleth i'w llunio. Mae maint ac arwynebedd yn cyfateb i faint y data sy'n cael ei gynrychioli.

Map Coropleth[golygu | golygu cod]

Mae mapiau cloropleth yn arddangos data rhanbarthol trwy liw.

Map Dot[golygu | golygu cod]

Mae mapiau dot yn arddangos gwerth rhif ar fap trwy gylchoedd yn ôl ei maint. Maent yn arddangos ffactorau megis poblogaeth yn effeithiol.

Map Isopleth[golygu | golygu cod]

Mae'r llinellau ar fap isopleth yn uno pob lle sydd a'r un gwerth. Maent yn arddangos ffactorau megis tymheredd yn effeithiol.

Map Symbol[golygu | golygu cod]

Mae mapiau symbolau pwynt yn dangos ble yn union mae modd gweld nodwedd neilltuol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru 2008; tudalen 601