Cân i Gymru

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Can i Gymru)
Jump to navigation Jump to search
Cân i Gymru
Logo Can i Gymru.jpg
Gwlad/gwladwriaeth Baner Cymru Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 120 munud (yn cynnwys hysbysebion)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru (1969)
S4C (1983–)
Rhediad cyntaf yn 1969; 50 mlynedd yn ôl (1969)
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cyfansoddwr buddugol yn ennill swm o arian a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd].

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwynwyd Cân i Gymru o dan yr enw 'Cân Disg a Dawn' am y tro cyntaf ym 1969. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn gobeithio byddai'r gân fuddugol yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, er y penderfynodd y BBC yn Llundain yn y diwedd mai dim ond un cân o wledydd Prydain fyddai'n cystadlu.[1]

Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis Cân i Gymru gyda saith cân ymhob un, yn cael eu perfformio gan gantorion adnabyddus y cyfnod. Roedd y cyhoedd yn pleidleisio drwy ddanfon llythyrau i fewn ac roedd y gân gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.[2] Darlledwyd y rhaglen olaf ar 5 Mehefin 1969 drwy Brydain dan y teitl Song for Wales ac fe'i gyflwynwyd gan Ronnie Williams yn Gymraeg a Saesneg. Roedd panel wedyn yn dewis y gân fuddugol ar y noson. Roedd y rhaglen hefyd yn rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer arwisgiad Tywysog Siarl a fyddai'n digwydd ar 1 Gorffennaf 1969.[3]

Yn dilyn sefydlu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddechrau'r 70au dechreuodd Pwyllgor Cymru yr Ŵyl y gystadleuaeth 'Cân i Gymru' unwaith eto er mwyn dewis cân i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Celtavision. Doedd yna ddim cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1973. I ddechrau doedd gan y cyfryngau yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb yn y gystadleuaeth. Doedd Cân i Gymru ddim yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu, a phanel oedd yn pleidleisio i ddewis enillwyr. Er enghraifft cynhaliwyd cystadleuaeth 1980 ym Mar Cefn yr Angel yn Aberystwyth ac fe'i darlledwyd ar Radio Cymru.

Erbyn 1982 roedd y gystadleuaeth nôl ar y teledu ond panel oedd yn dal i ddewis yr enillydd.

Erbyn hyn caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Yn 2019 roedd y wobr yn £5,000 gyda £2,000 am yr ail safle a £1,000 am y trydydd safle. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Ŵyl Ban Geltaidd.

Rhestr enillwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Cân[4] Perfformiwr/perfformwyr Cyfansoddwyr[5][6]
1969 Y Cwilt Cymreig Margaret Williams Llifon Hughes-Jones, Megan Lloyd Ellis
1970 Dydd o Haf Y Canolwyr Hawys James
1971 Nwy yn y Nen Eleri Llwyd Dewi 'Pws' Morris
1972 Pan Ddaw'r Dydd Heather Jones Geraint Jarman
1973 Dim cystadleuaeth
1974 I Gael Cymru'n Gymru Rydd Iris Williams Rod Thomas, Rod Gruffydd
1975 Caledfwlch Brân (grwp) Gwyndaf Roberts
1976 Y Llanc Glas Lygad Rhian Rowe Douglas Roberts
1977 Dafydd ap Gwilym Cawl Sefin Peter Hughes Griffiths, Meinir Lloyd
1978 Angel Ble Wyt Ti Delwyn Siôn a Brân John Gwyn, Ronw Protheroe
1979 Ni Welaf yr Haf Pererin (grwp) Arfon Wyn
1980 Golau Tan Gwmwl Plethyn Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd
1981 Dechrau'r Dyfodol Beca Gareth Glyn, Eleri Cwyfan
1982 Nid Llwynog Oedd yr Haul Caryl Parry Jones a Bando Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd
1983 Popeth Ond Y Gwir Linda Healy a Cleif Harpwood Siân Wheway, Robin Gwyn
1984 Y Cwm Geraint Griffiths Huw Chiswell
1985 Ceiliog y Gwynt Bwchadanas Euros Rhys Evans
1986 Be Ddylwn i Ddweud Eirlys Parri Mari Emlyn
1987 Gloria Tyrd Adre Eryr Wen Euros Elis Jones, Llion Jones
1988 Can Wini Manon Llwyd Manon Llwyd, Eurig Wyn
1989 Twll Triongl Hefin Huws Hefin Huws, Les Morrison
1990 Gwlad y Rasta Gwyn Sobin a'r Smaeliaid Rhys Wyn Parry, Bryn Fôn
1991 Yr Un Hen Lle Neil Williams a'r Band Richard Marks
1992 Dal i Gredu Eifion Williams Gwennant Pyrs, Meleri Roberts, Alwen Derbyshire
1993 Y Cam Nesa Paul Gregory Llion Rhys Howel, Anthony James Burdett
1994 Rhyw Ddydd Geraint Griffiths Paul Gregory, Lorraine King, Tim Hamill, Dave Parsons
1995 Yr Ynys Werdd Gwenda Owen Richard Jones, Arwel John
1996 Cerrig yr Afon Iwcs a Doyle Iwan Roberts, John Doyle
1997 Un Funud Fach Bryn Fôn Barry Jones
1998 Rho Dy Law Arwel Wyn Roberts Rhodri Tomos
1999 Torri'n Rhydd Steffan Rhys Williams Matthew McAvoy, Steffan Rhys Williams
2000 Cae o Ŷd Martin Beattie Arfon Wyn
2001 Dagrau Ddoe Geinor Haf Emlyn Dole
2002 Harbwr Diogel Elin Fflur Arfon Wyn, Richard Synnott
2003 Oes Lle i Mi Non Parry & Steffan Rhys Williams Emma Walford, Mererid Hopwood
2004 Dagrau Tawel Rhian Mair Lewis Meinir Richards. Tudur Dylan
2005 Mi Glywais Rhydian Bowen Philips Dafydd Jones, Guto Vaughan
2006 Llii'r Nos Ryland Teifi Ryland Teifi
2007 Blwyddyn Mas Einir Dafydd Einir Dafydd, Ceri Wyn Jones
2008 Atgofion Aled Myrddin Aled Myrddin
2009 Gofidiau Elfed Morgan Morris Lowri Watcyn Roberts, Elfed Morgan Morris
2010 Bws i'r Lleuad Tomos Wyn Alun Evans
2011 Rhywun yn Rhywle Tesni Jones Steve Balsamo, Ynyr Gruffydd
2012 Braf yw Cael Byw Gai Toms Gai Toms, Philip Jones
2013 Mynd I Gorwen Hefo Alys Jessop a'r Sgweiri Rhys Gwynfor, Osian Huw Williams
2014 Galw Amdanat Ti Mirain Evans Barry Evans, Mirain Evans
2015 Y Lleuad a'r Sêr Elin Angharad Elin Angharad, Arfon Wyn
2016 Dim Ond Un Cordia Ffion Elin, Rhys Jones
2017 Rhydd Cadi Gwyn Edwards Cadi Gwyn Edwards
2018 Cofio Hedd Wyn Ceidwad y Gân Erfyl Owen
2019 Fel Hyn 'da Ni Fod Elidyr Glyn Elidyr Glyn

Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).

Y goreuon, yn ôl gwylwyr S4C, 2016[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Mawrth 2016 cynhaliodd S4C bleidlais o'r holl enillwyr ers 1982, a'r 7 uchaf oedd:

  • 7fed: Cerrig Oer yr Afon - Iwcs a Doyle
  • 6ed: Dagrau Tawel - Rhian Mair Lewis
  • 5ed: Galw Amdanat Ti - Mirain a Barry Evans
  • 4ydd: Harbwr Diogel - Arfon Wyn
  • 3ydd: Y Cwm - Geraint Griffiths yn canu; Chiswell y cyfansoddwr
  • 2il: Gofidiau - Elfed Morgan Morris
  • 1af: Torri'n Rhydd - Steffan Rhys Williams
Y grŵp gwerin 'Cilmeri' yn perfformio yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1975. Daethant yn ail i'r grwp Brân a gannodd 'Caledfwlch'. Yn y llun: Elwyn Rowlands, Robin Owain a Huw Roberts.

Dychan[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn destun dychan ar hyd y blynyddoedd. Ar gyfer Cân i Gymru 2019 cafwyd sgetch ddychan gan DJ Bry ar sianel ar-lein Hansh S4C, "Tips Bry ar Shwt i Ennill Cân i Gymru".[7]

Twitter[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sylwadau o gefnogaeth, anghytuno a dychan ar y sioe ar Twitter yn boblogaidd iawn adeg darllediad y rhaglen yn fyw ar S4C. Mae'r hashnod #CiG2019 (neu'r flwyddyn gyfredol) yn 'trendio' ar Twitter ar draws Brydain adeg cyfnod y darllediad byw.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]