Dinas Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q354820 (translate me)
ehangu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Location map | Cymru
{{Location map | Cymru
| mark = Green pog.svg <!--green dot-->
| mark = Green pog.svg <!--green dot-->
| alt = Dinas Emrys (Bryngaer )
| alt = Dinas Emrys
| caption = '''Dinas Emrys (Bryngaer )''', Beddgelert
| caption = '''Dinas Emrys''', Beddgelert
| label = Dinas Emrys (Bryngaer )
| label = Dinas Emrys
| border = grey
| border = grey
| position = right
| position = right
Llinell 15: Llinell 15:


Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan [[Cadw]] a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref> Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o [[heneb]]ion, er bod [[archaeoleg]]wyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

==Enw==
Mae'r fryngaer hon yn un o [[Dinas (gwahaniaethu)|sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas']], e.e. [[Dinas Dinlle]], [[Dinas Cerdin]]; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw). Ystyr yr enw felly yw "Caer Emrys" (gweler isod am yr hanes).


==Lleoliad==
==Lleoliad==

Fersiwn yn ôl 22:06, 30 Mehefin 2013

Dinas Emrys
Dinas Emrys
Dinas Emrys, Beddgelert
Dinas Emrys
Y mur allanol

Y mae Dinas Emrys yn safle hen gastell a bryngaer yn ne Eryri, Gwynedd. Mae'n un o'r cynharaf o'r cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert, tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN018.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Enw

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Dinlle, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw). Ystyr yr enw felly yw "Caer Emrys" (gweler isod am yr hanes).

Lleoliad

Mae'r hen amddiffynfa ar ben bryn syrth a choediog, sy'n mwynhau golygfa eang i lawr i gyfeiriad Beddgelert ac i fyny i Lyn Dinas a Nant Gwynant. I'r dwyrain mae ucheldir creigiog y Moelwynion, rhwng Croesor a Blaenau Ffestiniog, ac yn gefn iddi dros gwm unig Afon y Cwm mae llethrau gwyllt yr Aran (2451'), sy'n rhan o gadwyn yr Wyddfa.

Y tŵr

Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan Llywelyn Fawr yn gynnar yn y 13eg ganrif neu, yn fwy tebygol, gan Owain Gwynedd tua diwedd y 12fed ganrif. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel Castell Deudraeth. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.

Y dreigiau

Safle Dinas Emrys o Afon Glaslyn

Mae gwaith yr archaeolegwyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl Lludd a Llefelys. Mae Sieffre o Fynwy yn adrodd sut y bu i Fyrddin eu dangos i'r brenin Gwrtheyrn gan esbonio eu bod yn cynrychioli y Brythoniaid a'r Saeson yn eu gornest am sofraniaeth Ynys Prydain. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius, yr Historia Brittonum (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.

Llyfryddiaeth

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)

Gweler hefyd

Cyfeiriadau