Pwllhobi

Oddi ar Wicipedia
Pwllhobi
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.408098°N 4.059442°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Ardal o Aberystwyth yng nghymuned Llanbadarn Fawr, Ceredigion, Cymru yw Pwllhobi, sydd 74.2 milltir (119.4 km) o Gaerdydd a 178.5 milltir (287.2 km) o Lundain.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Enwyd 'Pwllhobi' ar ôl pwll dŵr croyw a ddefnyddiwyd i dorri syched ceffylau. Mewn erthygl, noda Carwen Vaughan, wedi concwest Cymru gan y Saeson, mai dim ond ar ddiwrnod marchnad y caniatwyd y Cymry i werthu ei cynnyrch. Bu'n rhaid iddynt ddod fewn i dref Aberystwyth gyda'i cynnyrch, gan gynnwys ceffylau. Defnyddiwyd pwll hobi (hobi, fel yn 'hobby horse') fel man cyfleu i'r ceffylau yfed dŵr. Cafwyd pyllau yfed eraill hefyd - Pwll Iago, Pwll Seimon, a Ffynnon Twlc yr Hwch.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.