Pen-wyllt

Oddi ar Wicipedia
Penwyllt
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8286°N 3.6642°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN852156 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Hen bentref chwarel yng nghymuned Tawe Uchaf, Powys, Cymru, yw Pen-wyllt[1] neu Penwyllt.[2] Fe'i lleolir yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ystradgynlais ger pentref Craig-y-nos. Mae'n gorwedd yn y Fforest Fawr o fewn terfynau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yr unig ffordd i gyrraedd y pentref anghysbell hwn gyda modur yw trwy ddringo lôn o'r A4067 ger Craig-y-nos. Bu'n gymuned fywiog ar un adeg ond mae llawer o'r bythynnod yn adfeilion erbyn hyn. Defnyddir un rhes o dai, sef 1-10 Stryd Powell, fel canolfan gan Glwb Ogofu De Cymru a Thîm Achub Ogofâu Gorllewin Brycheiniog. Gerllaw ceir y fynedfa i Ogof Ffynnon Ddu, un o'r rhwydweithiau ogofâu mwyaf yng ngwledydd Prydain sy'n denu ogofwyr (cavers) o sawl gwlad.

Bythynod Powell, Penwyllt, sy'n bencadlys i Glwb Ogofu De Cymru a Thîm Achub Ogofâu Gorllewin Brycheiniog bellach. Gwelir ogofwyr fel y rhai yn y llun yn aml.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.