Betws Cedewain

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Betws Cydewain)
Betws Cedewain
Eglwys Sant Beuno, Betws Cedewain
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBetws Cedewain Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.561°N 3.295°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO122967 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Betws Cedewain (Saesneg: Bettws Cedewain). Saif i'r gogledd o'r Drenewydd ar y ffordd B4389. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 425.

Hyd at 1914, eiddo i stad Gregynog oedd y rhan fwyaf o'r ffermydd.

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio yn bennaf o'r 19g ond gyda tŵr o'r 16g, i sant Beuno. Daw enw'r pentref o gantref Cedewain.

Brodor o blwyf Betws Cedewain oedd y bardd ac achyddwr Lewys Dwnn (bl. 1568 - 1616).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Betws Cedewain (pob oed) (445)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Betws Cedewain) (84)
  
19.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Betws Cedewain) (208)
  
46.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Betws Cedewain) (56)
  
29.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]