Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Aberffraw

Oddi ar Wicipedia
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Aberffraw
Daearyddiaeth
SirYnys Môn
GwladBaner Cymru Cymru
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)



Mae Aberffraw ("y Berffro" ar lafar yn lleol) yn bentref ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, rhwng Rhosneigr a Llangadwaladr, yng ngogledd Cymru. Mae'n cymryd ei enw o Afon Ffraw. Yn Oes y Tywysogion Aberffraw oedd maenor cwmwd Malltraeth, yng nghantref Aberffraw. Ers cyfnod cynnar iawn roedd yn gartref i brif lys teyrnas Gwynedd, cartref traddodiadol brenhinoedd a thywysogion Gwynedd.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Erbyn heddiw, mae Aberffraw yn gymuned gymharol fach yn ne-orllewin Ynys Môn. Ond adeg yr Oesoedd Canol roedd yn brif lys i reolwyr teyrnas Gwynedd rhwng c.860 OC hyd c.1170. Hwn oedd canolbwynt eu pŵer.

Mae archaeoleg yn dangos bod Aberffraw wedi bod yn lleoliad pwysig hefyd mewn cyfnod cyn-hanesyddol. Canfuwyd fflintiau Mesolithig, Tomen Gladdu o’r Oes Efydd a chaer Rufeinig yma. Mae hefyd yn cael ei enwi yn Y Mabinogion fel y man lle priodwyd Branwen ferch Llŷr a Matholwch, Brenin Iwerddon.[1][2]

Mae tystiolaeth yn dangos ei bod hi’n ddigon posib bod maerdref (lle byddai’r taeogion yn byw), eglwys, llys a chaer wedi bod yn Aberffraw ers cyfnod Maelgwn Gwynedd, a oedd yn teyrnasu dros Wynedd yn y 6ed ganrif OC.[3]

O tua 860OC ymlaen datblygodd Aberffraw i fod yn lleoliad llys Brenhinoedd Gwynedd. Roedd hwn yn dynodi dechrau llinach frenhinol a ddaeth i gael ei hadnabod fel Aberffraw, a barhaodd hyd Concwest Edward I o Gymru yn 1282/3. Roedd Aberffraw yn borthladd pwysig ar gyfer masnachu a physgota, ac amddiffynwyd ef gan Rhodri Mawr a Brenhinoedd Gwynedd rhag ymosodiadau oddi wrth y Llychlynwyr, y Gwyddelod a’r Normaniaid.[4]

Y llys yn Aberffraw oedd canolbwynt pŵer Teyrnas Gwynedd. Oddi yma roedd swyddogion yn casglu trethi ac yn gweinyddu’r gyfraith. Oherwydd ei statws fel llys brenhinol byddai hefyd wedi diddanu'r Brenin, ei deulu a’i wahoddedigion. Wedi ymosodiadau'r Normaniaid yng ngogledd Cymru yn 1086 dechreuodd cyflwr y llys ddirywio, ond cafodd ei atgyweirio a’i adnewyddu fel canolfan pŵer Owain Gwynedd wedi iddo ymsefydlu fel Brenin Gwynedd yn 1137.[5]

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd yng Nghilmeri yn 1282, dinistriwyd llawer o’r llys canoloesol yn Aberffraw gan y Saeson, a chymerwyd cerrig oddi ar y safle er mwyn adeiladu cestyll Edward yng Nghaernarfon a Biwmares.[6] Mae cloddiadau yn yr ardal wedi dangos olion caer ganoloesol sy’n dangos nodweddion Rhufeinig neu ôl-Rufeinig, a allai fod yn safle posibl i’r llys.[7] Tybir mai lleoliad Eglwys Sant Beuno heddiw oedd safle’r llys brenhinol.[8]

Eglwys Beuno[golygu | golygu cod]

Mae tŵr yr eglwys hynafol hon yn nodwedd amlwg yn y pentref. Cysegrwyd yr eglwys i Beuno Sant. Mae ei chynllun corff dwbl yn fwy cyffredin yn Nyffryn Clwyd nag ar yr ynys. Mae'r rhan ddeheuol yn Normanaidd ei phensaernïaeth ac yn dyddio o'r 12g. Mae'r porth deheuol yn dyddio o'r 14g. Ailadeiladwyd y corff gogleddol yn y 19g ar seiliau o'r 16g.

Y pentref heddiw[golygu | golygu cod]

Hen bont Aberffraw

Heddiw, mae'n un o'r pentrefi ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Yn ôl Cyfrifiad 2001, poblogaeth y pentref oedd 599, gyda 79.8% yn siarad Cymraeg. Mae Traeth Aberffraw, gerllaw, yn draeth llydan, tywodlyd a deniadol, gyda golygfa dda dros Eryri.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberffraw (pob oed) (620)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberffraw) (409)
  
67.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberffraw) (438)
  
70.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberffraw) (132)
  
44.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Tarddiad Afon Ffraw yw Llyn Coron, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac sy'n rhedeg heibio'r pentref, lle ceir pont fwaog a godwyd yn 1731 yn ei chroesi. Bellach mae pont ddiweddarach yn cludo'r A4080 dros yr afon. Mae'r pentref wedi ei leoli ar dir gwastad, tywodlyd braidd, ar lan ogleddol Afon Ffraw. I'r de o'r afon ceir Tywyn Aberffraw. Yr unig adeilad o ddiddordeb heddiw, ar wahân i'r hen bont, yw Eglwys Beuno.

Tyddyn "Tyn Towyn" ger Porth Nobla; 18fed ganrif.

Enwogion[golygu | golygu cod]

Am y tywysogion a gysylltir ag Aberffraw, gweler Teyrnas Gwynedd.

Atyniadau eraill[golygu | golygu cod]

Nid nepell o Aberffraw mae Barclodiad y Gawres, carnedd gellog (neu garnedd siambr) gyn-hanesyddol hynod bwysig, ac Eglwys Sant Cwyfan ar Ynys Cribinau sydd wedi ei lleoli mewn llecyn anghyffredin iawn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Aberffraw Anglesey Wales". www.aberffraw.wales. Cyrchwyd 2020-09-25.
  2. "The Story of Branwen, the Second Tale of the Mabinogi". www.sjsu.edu. Cyrchwyd 2020-09-25.
  3. Davies, John. (2007). Hanes cymru. [Place of publication not identified]: Penguin Books Ltd. tt. 7, 50. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  4. "Aberffraw Anglesey Wales". www.aberffraw.wales. Cyrchwyd 2020-09-25.
  5. "Aberffraw: The Royal Court". www.red-dragon-wales.com. Cyrchwyd 2020-09-25.
  6. "Aberffraw llys and motte (The Gatehouse Record)". www.gatehouse-gazetteer.info. Cyrchwyd 2020-09-25.
  7. "ABERFFRAW, EXCAVATED FEATURES, REJECTED ROMAN FORT AND SUGGESTED LLYS SITE | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-25.
  8. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 7. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]