Rwmania

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth România)
Neidio i: llywio, chwilio
Rwmania
Rwmania
Baner Rwmania Arfbais Rwmania
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: Deşteaptă-te, române!
Lleoliad Rwmania
Prifddinas Bucureşti
Dinas fwyaf Bucureşti
Iaith / Ieithoedd swyddogol Rwmaneg1
Llywodraeth Democratiaeth seneddol
Arlywydd
Prif Weinidog
Traian Băsescu
Victor Ponta
Annibyniaeth
Datganwyd
Adnabwyd

10 Mai, 1877 2
13 Gorffennaf, 1878 3
Esgyniad i'r UE 1 Ionawr, 2007
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
238,391 km² (81fed)
3%
Poblogaeth
 - Amcangyfrif Gorffennaf 2006
 - Cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
22,303,552 (50fed)

21,680,974
93.7/km² (79fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2006
$204.4 biliwn (44fed)
$9,446 (67fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2005) 0.792 (64fed) – canolig
Arian cyfred Leu (RON)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .ro
Côd ffôn +40
1Mae ieithoedd eraill, megis Hwngareg, Romani, Wcreineg a Serbeg, yn gyd-swyddogol ar lefelau lleol gwahanol.

2 Rhyfel Annibyniaeth Rwmania

3 Cytundeb Berlin

Gwlad yn ne-ddwyrain Ewrop yw Rwmania (Rwmaneg: România). Mae'n ffinio â Hwngari a Serbia i'r gorllewin a Bwlgaria i'r de, a'r Wcráin a Moldofa i'r gogledd a'r dwyrain.[1] Ffurfir y mwyafrif o'r goror rhwng Rwmania a Bwlgaria gan Afon Donaw, sy'n arllwys i Aberdir y Donaw yn y fan mae morlin yn ne-ddwyrain Rwmania ar lannau'r Môr Du. Mae ganddi arwynebedd o 238,391 square kilometres (92,043 millt sg) a hinsawdd gyfandirol a thymherus. Rhed cadwyn dde-ddwyreiniol Mynyddoedd Carpathia trwy ganolbarth y wlad, gan gynnwys Copa Moldoveanu (2,544 m (8,346 tr)).[2]

Datblygodd y wlad fodern yn nhiriogaethau'r dalaith Rufeinig Dacia. Unodd tywysogaethau Moldafia a Walachia ym 1859 yn sgil y deffroad cenedlaethol. Rhoddid yr enw Rwmania ar y wlad yn swyddogol ym 1866, ac enillodd ei hannibyniaeth oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid ym 1877. Ymunodd Transylfania, Bukovina a Besarabia â Theyrnas Rwmania ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Brwydrodd Rwmania ar ochr yr Almaen Natsïaidd yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd tan iddi ymuno â'r Cynghreiriaid ym 1944. Cafodd y wlad ei meddiannu gan y Fyddin Goch a chollodd sawl tiriogaeth. Wedi'r rhyfel, trodd Rwmania yn weriniaeth sosialaidd ac yn aelod o Gytundeb Warsaw. Dymchwelwyd y drefn gomiwnyddol gan Chwyldro 1989, a newidodd Rwmania'n wlad ddemocrataidd a chanddi economi'r farchnad.

Tyfod economi Rwmania yn gyflym ar ddechrau'r 2000au, a bellach mae'n seiliedig yn bennaf ar wasanaethau ac hefyd yn cynhyrchu ac allforio peiriannau ac ynni trydan. Ymaelododd â NATO yn 2004 a'r Undeb Ewropeaidd yn 2007. Trigai tua 20 miliwn o bobl yn y wlad, a bron i 2 miliwn ohonynt yn y brifddinas Bwcarést.[3] Rwmaniaid, un o'r cenhedloedd Lladinaidd, yw mwyafrif y boblogaeth a siaradent Rwmaneg ac yn Gristnogion Uniongred Dwyreiniol. Ceir lleiafrifoedd o dras Hwngaraidd a Roma.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw enw'r wlad yn y bôn o'r gair Lladin romanus, sy'n golygu "dinesydd Rhufain".[4] Defnyddid yr enw yn gyntaf, hyd y gwyddon, yn yr 16g gan ddyneiddwyr Eidalaidd a deithiodd i Dransylfania, Moldafia, a Walachia.[5][6][7][8] Sonir am Țeara Rumânească ("Tir Rwmania") yn Llythyr Neacșu o Câmpulung (1521), y ddogfen hynaf sy'n goroesi yn yr iaith Rwmaneg.[9]

Defnyddid y ddau sillafiad român a rumân[10] hyd ddiwedd yr 17eg ganrif, pan wahaniaethid y ddwy ffurf am resymau cymdeithasol-ieithyddol: "taeog" oedd ystyr rumân bellach, a român oedd yr enw ar y bobl Rwmaneg eu hiaith.[11] Wedi diddymu'r system daeog ym 1746, gair anarferol oedd rumân a daeth y ffurf român yn safonol.[12] Defnyddid yr enw Rwmania i ddisgrifio mamwlad yr holl Rwmaniaid yng nghyfnod cynnar y 19eg ganrif.[13]

Ymhlith y ffurfiau ar enw'r wlad mewn ieithoedd eraill Ewrop mae Rumänien yn Almaeneg, Roumanie yn Ffrangeg, Rumunija yn Serbo-Croateg, Румыния (Rumyniya) yn Rwseg, a Rumunia yn Bwyleg. Daw'r enw Cymraeg drwy'r hen ffurf Saesneg Rumania neu Roumania.[14] Romania yw'r ffurf Saesneg arferol ers canol y 1970au.[15][16]

Enwau swyddogol
  • 1859–1862: Tywysogaethau Unedig
  • 1862–1866: Tywysogaethau Unedig Rwmania
  • 1866–1881: Rwmania
  • 1881–1947: Teyrnas Rwmania
  • 1947–1965: Gweriniaeth Pobl Rwmania (RPR)
  • 1965–1989: Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (RSR)
  • 1989–presennol: Rwmania

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Tua 2000 CC ymsefydlodd yr Indo-Ewropeaid yn ardal Donaw-Carpathia, a chymysgant â'r brodorion neolithig gan ffurfio'r Thraciaid. Tros amser datblygodd y Thraciaid yn ddau dylwyth tebyg, y Getiaid a'r Daciaid, enwau a roddid arnynt gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Trigant yn y mynyddoedd i ogledd Gwastatir y Donaw ac ym Masn Transylfania. Daeth y Getiaid i gysylltiad â'r byd Groeg drwy wladfeydd yr Ïoniaid a'r Doriaid ar arfordir gorllewinol y Môr Du yn y 7g CC.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Annibyniaeth a brenhiniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Rwmania dan reolaeth Ymerodraeth yr Otomaniaidd o'r 15g hyd y 19eg ganrif. Yn sgil twf cenedlaetholdeb ar draws Ewrop, dechreuodd y Rwmaniaid frwydro am eu hannibyniaeth yn y 1820au wrth iddynt geisio uno Moldafia, Walachia a Thransylfania. Unodd Moldafia a Walachia ym 1862 i ffurfio'r Tywysogaethau Unedig, a ail-enwyd yn Rwmania ym 1866. Trodd yn deyrnas ym 1881.

Y Rwmania gomiwnyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd ymchwydd economaidd bach yn y 1960au a'r 1970au. Nid oedd polisïau awtarciaidd Nicolae Ceauşescu, arweinydd y Rwmania Gomiwnyddol o 1965 i 1989, yn llwyddiannus, ac wrth drio talu holl ddyled y wlad cafodd effaith ddifrifiol ar yr economi a arweiniodd at dlodi. Ansefydlogodd Rwmania ymhellach wrth iddi droi'n wladwriaeth heddlu dan warchodaeth y Securitate. Saethwyd Ceauşescu a'i wraig Ddydd Nadolig 1989, ar ôl iddo orchymyn i'r heddlu cudd ymosod ar brotestwyr yn Timisoara.[17]

Y Rwmania fodern[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Map o Rwmania gyda dinasoedd a phrif afonydd

Ffurfir rhan fawr o ffiniau Rwmania â Serbia a Bwlgaria gan yr Afon Donaw. Ymunir y Donaw gan yr Afon Prut, sy'n ffurfio'r ffin â Moldofa. Llifir y Donaw i'r Môr Du, yn ffurfio Delta'r Donaw sydd yn cadfa o'r Biosffer.

Otherwydd diffiniwyd nifer o ffiniau Romany gan afonydd naturiol, weithiau'n shifftio, ac oherwydd bu'r Delta Donaw wastad yn ehangu tuag at y môr, tua 2-5 metr llinellog y flwyddyn, mae arwynebedd Romania wedi newid dros yr ychydig o degawdau diwethaf, yn cyffredinol yn cynyddu. Cynyddwyd y rhif o tua 237,500 km² yn 1969 i 238,319 km² yn 2005.

Mae gan Rwmania tirwedd eithaf dosbarthol, gyda 34% mynyddoedd, 33% brynau a 33% iseldiroedd.

Mae Mynyddoedd Carpathia yn dominyddu canoldir Rwmania wrth iddynt amgylchynu Gwastatir Uchel Transylfania, 14 o gopâu dros 2 000 m, yr uchaf yn Copa Moldoveanu (2 544 m). Yn y de, mae Mynyddoedd Carpathia yn pereiddio i'r brynau, tuag at Wastadedd Bărăgan.

Tri mynydd uchaf Rwmania yw:

   Enw  Uchder  Grŵp Mynyddoedd
   1 Copa Moldoveanu    2 544 m Mynyddoedd Făgăraş
   2 Omu    2 500 m Mynyddoedd Făgăraş
   3 Piatra Craiului    2 489 m Mynyddoedd Făgăraş

Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y dinasoedd pennaf yw'r prifddinas Bucureşti, Iaşi, Timişoara, Cluj-Napoca, Constanţa, Craiova, Braşov, a Galaţi. Y dinasoedd mwyaf yw:

# Dinas Poblogaeth[18] Sir
1. Bucureşti 2 082 334 Sir Bucureşti
2. Iaşi 320 888 Sir Iaşi
3. Cluj-Napoca 317 953 Sir Cluj
4. Timişoara 317 660 Sir Timiş
5. Constanţa 310 471 Sir Constanţa
6. Craiova 302 601 Sir Dolj
7. Galaţi 298 861 Sir Galaţi
8. Braşov 284 595 Sir Braşov
9. Ploiesti 232 527 Sir Prahova
10. Braila 216 292 Sir Braila
11. Oradea 206 616 Sir Bihor
12. Bacau 175 500 Sir Bacau

Gwleidyddiaeth a llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Rwmania yn weriniaeth ddemocrataidd. Mae cangen ddeddffwriaethol llywodraeth Rwmania yn cynnwys dwy siambr, y Senat (Senedd), sydd ag 137 o aelodau (2004), ac y Camera Deputaţilor (Siambr Dirprwyon), sydd â 332 o aelodau (2004). Etholir aelodau'r ddwy siambr pob pedair mlynedd.

Etholir yr Arlywydd, pennaeth y cangen weithredol, hefyd gan bleidlais boblogaidd, pob pum mlynedd (nes 2004, pedair mlynedd). Mae'r arlywydd yn penodi'r Prif Weinidog, sy'n bennaeth y lywodraeth, a phenodir aelodau'r lywodraeth gan y Prif Weinidog. Mae angen i'r lywodraeth cael pleidlais seneddol o gymeradwyaeth.

Rhanbarthau a siroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Map gweinyddol o Rwmania
Mae Transylfania yn wyrdd, Wallachia yn las, ardal Moldofa yn goch, a Dobrogea yn felyn

Caiff Rwmania ei rhannu i 41 o judeţe, neu siroedd, a bwrdeisiaeth Bucureşti (y brifddinas).

Y siroedd (yn nhrefn yr wyddor) yw:

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Y boblogaeth hanesyddol
Blwyddyn Pobl. ±%
1866 4,424,961 —    
1887 5,500,000 +24.3%
1899 5,956,690 +8.3%
1912 7,234,919 +21.5%
1930 18,057,028 +149.6%
1939 19,934,000 +10.4%
1941 13,535,757 −32.1%
1948 15,872,624 +17.3%
1956 17,489,450 +10.2%
1966 19,103,163 +9.2%
1977 21,559,910 +12.9%
1992 22,760,449 +5.6%
2002 21,680,974 −4.7%
2011 20,121,641 −7.2%
2016 (amcan.) 19,474,952 −3.2%
Nid yw rhifau cyn 1948 yn cyfateb i ffiniau cyfredol y wlad.
Map o grwpiau ethnig Rwmania, yn seiliedig ar ddata o gyfrifiad 2011.

Yn ôl cyfrifiad 2011, poblogaeth Rwmania yw 20,121,641.[19] Megis gwledydd eraill yn ei chylch, mae disgwyl i'r boblogaeth leiháu'n raddol yn y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i gyfradd ffrwythlondeb (1.2–1.4) sy'n rhy isel i gynnal nifer cenedlaethau'r dyfodol a chyfradd allfudo sy'n uwch na'r gyfradd mewnfudo. Ym mis Hydref 2011, roedd Rwmaniaid ethnig yn cyfri am 88.9% o'r boblogaeth. Y lleiafrifoedd ethnig mwyaf eu maint yw'r Hwngariaid (6.5%) a'r Roma (3.3%).[20][21] Mwyafrif yw'r Hwngariaid yn siroedd Harghite a Covasna. Ymhlith y lleiafrifoedd eraill mae'r Wcreiniaid, yr Almaenwyr, y Tyrciaid, y Lipofiaid (Hen Gredinwyr o dras Rwsiaidd), yr Aromaniaid, y Tatariaid, a'r Serbiaid.[22] Ym 1930, trigai 745,421 o Almaenwyr yn Rwmania,[23] ond dim ond rhyw 36,000 sy'n byw yno heddiw.[22] Yn 2009 roedd tua 133,000 o fewnfudwyr yn Rwmania, yn bennaf o Foldofa a Tsieina.[24]

Ieithoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Iaith swyddogol Rwmania yw'r Rwmaneg, iaith Romáwns ddwyreiniol sy'n debyg i'r Aromaneg, y Megleno-Romaneg, a'r Istro-Romaneg, ond sy'n rhannu nifer o nodweddion â'r ieithoedd gorllewinol megis Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg, a Phortiwgaleg. Mae 31 o lythrennau yn yr wyddor Rwmaneg. Siaredir Rwmaneg yn iaith gyntaf gan 85% o'r boblogaeth. Siaredir Hwngareg gan 6.2%, a'r Flach-Romani (tafodiaith Romani) gan 1.2%. Trigai 25,000 o siaradwyr Almaeneg brodorol a 32,000 o siaradwyr Tyrceg yn Rwmania, yn ogystal â 50,000 o siaradwyr Wcreineg [25] sy'n byw ger y ffin â'r Wcrain ac yn fwyafrif yn yr ardaloedd hynny.[26] Yn ôl y cyfansoddiad, mae rhaid i gynghorau lleol sicrháu hawliau iaith i holl leiafrifoedd y wlad, ac os yw'r lleiafrif ethnig yn cyfri am ddros 20% o'r boblogaeth yna ceir defnyddio'r iaith leiafrifol yn y llywodraeth, y llysoedd, a'r ysgolion.[27] Y Saesneg a'r Ffrangeg yw'r prif ieithoedd tramor a addysgir yn yr ysgol.[28] Yn 2012 roedd 31% o Rwmaniaid yn medru'r Sasneg, 17% yn medru'r Ffrangeg, a 7% yn gallu siarad Eidaleg.[29]

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Crefydd yn Rwmania (cyfrifiad 2011)
Crefydd Canran
Uniongrededd Dwyreiniol
  
81.0%
Pabyddiaeth
  
4.3%
Eglwysi Diwygiedig
  
3.0%
Pentecostiaeth
  
1.8%
Eglwys Gatholig Groeg
  
0.7%
Bedyddwyr
  
0.6%
Adfentydd y Seithfed Dydd
  
0.4%
Arall
  
1.8%
Digrefydd
  
0.2%
Dim data
  
6.2%

Gwladwriaeth seciwlar ac heb grefydd swyddogol yw Rwmania. Cristnogion yw'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth. Yn 2011 roedd 81% yn perthyn i Eglwys Uniongred Rwmania, 4.8% yn Brotestaniaid, 4.3% yn Babyddion, a 0.8% yn ffyddlon i Eglwys Gatholig Groeg Rwmania. O weddill y boblogaeth, mae 195,569 yn perthyn i enwadau Cristnogol eraill neu'n aelodau o grefydd arall, gan gynnwys 64,337 o Fwslimiaid (y mwyafrif o dras Dyrcaidd neu Dataraidd) a 3,519 o Iddewon. Yn ogystal, mae 39,660 yn anffydwyr neu fel arall yn ddigrefydd.[30]

Eglwys hunanbenaethol dan Batriarch yw Eglwys Uniongred Rwmania sy'n rhan o gymundeb yr Eglwysi Uniongred Dwyreiniol. Hon yw'r Eglwys Uniongred ail fwyaf yn y byd, ac yn wahanol i'r eglwysi eraill mae ganddi ddiwylliant Lladinaidd ac yn defnyddio iaith Romáwns yn ei litwrgi.[31] Mae ganddi awdurdod canonaidd dros holl diriogaeth Rwmania a Moldofa,[32] ac esgobaethau ar gyfer Rwmaniaid yn Serbia ac Hwngari yn ogystal â chymunedau ar wasgar yng Nghanolbarth a Gorllewin Ewrop, Gogledd America, ac Oceania.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod hunaniaeth gymdeithasol a diwylliannol genedlaethol, mae diwylliannau'r rhanbarthau yn adlewyrchu gwahaniaethau hanesyddol. Gwelir dylanwad Awstria ac Hwngari ym mhensaernïaeth Transylfania a'r Banat: arddulliau Romanésg, Gothig, a Baróc. Cafodd y Slafiaid, yn bennaf yr Wcreiniaid a'r Rwsiaid, eu heffaith ar ardal Moldafia, a gwelir nodweddion o darddiad Tataraidd a phobloedd eraill Canolbarth Asia yng nghelfyddyd y werin. Trwy Walachia yn ne'r wlad daeth ddylanwad Môr y Canoldir: y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, y Bysantiaid a'r Otomaniaid. Mae'r lleiafrifoedd Hwngaraidd, Roma, ac Almaenig yn cadw at draddodiadau eu hunain o ran celfyddyd, coginiaeth, a gwisg.

Y Weinyddiaeth Diwylliant sy'n gyfrifol am gefnogi bywyd a sefydliadau diwylliannol ar draws Rwmania. Bwcarést yw canolfan ddiwylliannol y wlad ac yma lleolir sawl theatr, tŷ opera, y Gerddorfa Genedlaethol, Cerddorfa Ffilharmonig George Enescu, yr Amgueddfa Gelfyddyd Genedlaethol, yr Amgueddfa Hanes Genedlaethol, Amgueddfa Byd Natur Grigore Antipa, Amgueddfa'r Werin, Amgueddfa'r Pentref, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Ganolog Prifysgol Bwcarést, a Llyfrgell Academi Rwmania. Mae gwyliau cenedlaethol Rwmania yn cynnwys y flwyddyn newydd (1 ac 2 Ionawr), y Llun wedi'r Pasg, Gŵyl Fai (mărțișor), y Diwrnod Cenedlaethol (1 Rhagfyr, sy'n dathlu uno Transylfania â gweddill y wlad), a Dydd y Nadolig.

Rheolir nifer o arferion a thraddodiadau gan grefydd y gymuned. Mae'r Rwmaniaid ethnig yn cynnal seremonïau yn ôl yr arfer Uniongred Ddwyreiniol yn ystod Wythnos y Grog a'r Pasg. Mae'r Hwngariaid ac Almaenwyr, sy'n perthyn i'r Eglwys Babyddol ac eglwysi Protestannaidd, yn rhoi mwy o bwyslais ar ddathlu'r Nadolig. Cedwir y wisg werin Rwmanaidd yng nghefn gwlad, ac mae gan bob sir bron ei lliw ac arddull leol. Cyfunir y grefft a'r gelfyddyd gan arferion y werin: cerfweithiau pren, gwisg addurnedig, brodwaith, carpedi, a chrochenwaith. Mae Rwmania yn enwog am ei wyau Pasg addurnedig a phaentio ar wydr.

Coginiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd dylanwad sylweddol ar goginiaeth Rwmania gan draddodiadau'r Tyrciaid a'r Groegiaid. Prif fwyd y werin ers talwm yw cawl a ballu: cawl cig, llysiau a nwdls, cawl bresych tew, a stiw cig moch gyda garlleg a winwns. Am damaid melys bwyteir crwst plăcintă, baclafa, neu deisen almon o'r enw saraille. Mae gwin o ardal Moldafia yn boblogaidd, a cheir cyrfau lleol ar draws y wlad. Diod archwaeth gryf yw palincă, sef brandi eirin sy'n ffurf ranbarthol ar wirod sy'n boblogaidd ar draws Basn Carpathia.

Celf, cerdd a llên[golygu | golygu cod y dudalen]

Offerynnau cerdd traddodiadol y wlad yw'r cobza (sy'n debyg i liwt), y tambal (dwlsimer), y flaut (ffliwt), yr alpgorn, y bibgod, a'r nai (pibau Pan). Mae'r gerddoriaeth werin yn cynnwys cerddoriaeth ddawns, y doina (galarganeuon), baledi, a cherddoriaeth fugeiliol. Daeth sawl arlunydd a llenor Rwmanaidd i sylw'r byd yn y 19eg ganrif, gan gynnwys y beirdd Mihail Eminescu a Tudor Arghezi, y llenor a chwedleuwr Ion Creanga, yr arlunydd Nicolae Grigorescu, a'r dramodydd Ion Luca Caragiale. Ymfudodd nifer o artistiaid a deallusion Rwmanaidd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys y dramodydd Eugène Ionesco, y bardd a thraethodydd Andrei Codrescu, yr athronydd Emil Cioran, y llenor a chyfarwyddwr ffilm Petru Popescu, y cerflunydd Constantin Brancusi, a'r hanesydd Mircea Eliade. Roedd yn rhaid i'r holl gelfyddydau cydymffurfio â Realaeth Sosialaidd yn ystod yr oes gomiwnyddol.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Gêm bat a phêl o'r enw oină yw mabolgamp draddodiadol Rwmania. Pêl-droed yw'r gamp fwyaf poblogaidd, a saif meysydd yn y dinasoedd mawrion a chanddynt timau yn y gynghrair genedlaethol. Bu'r tîm pêl-droed cenedlaethol yn llwyddiannus iawn ar adegau, yn enwedig yn y 1990au dan gapteiniaeth Gheorghe Hagi. Fel arfer mae Rwmaniaid yn chwarae a hamddena mewn clybiau, a'r gweithgareddau mwyaf boblogaidd yw seiclo, pêl-droed, pêl-law, tenis, rygbi, a'r crefftau ymladd. Mae Mynyddoedd Carpathia yn denu dringwyr a heicwyr yn yr haf, a sgïwyr ac eirfyrddwyr yn y gaeaf. Yn Aberdir y Donaw mae gwylwyr adar wrth eu helfen, ac mae nofwyr yn heidio i'r traethau ar lannau'r Môr Du pan bo'r tywydd yn braf.

Er i Rwmania ddanfon un athletwr i Gemau Olympaidd yr Haf 1900, ni chafwyd carfan sylweddol gan y wlad tan Gemau'r Haf ym 1924. Cystadleuodd Rwmania ym mhob un Olympiad ers hynny ac eithrio Gemau'r Haf 1932, Gemau'r Haf 1948, a Gemau'r Gaeaf 1960. Rwmania oedd yr unig wlad yn y Bloc Dwyreiniol i fynychu Gemau'r Haf yn Los Angeles ym 1984 wedi i'r Undeb Sofietaidd datgan boicot yn erbyn yr Americanwyr. Y cystadleuydd enwocaf o'r wlad yw Nadia Comăneci, a enillodd chwe medal gymnasteg yng Ngemau'r Haf 1974 ac hi oedd y cyntaf i sgorio'r deg perffaith yn y Gemau Olympaidd. Ymhlith athletwyr o fri eraill mae timau rhwyfo'r dynion a'r menywod, yr athletwraig Iolanda Balaș, a'r chwaraewr tenis Ilie Năstase.

Y cyfryngau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynodd y cyfryngau torfol a lleol yn Rwmania yn sgil Chwyldro 1989, er i nifer o gyhoeddiadau derfyn o ganlyniad i gwymp economaidd yn y ddegawd olynol. Cyhoeddir y papurau newydd cenedlaethol Libertatea ("Rhyddid"), Jurnalul Naţional ("Cyfnodolyn Cenedlaethol"), Adevărul ("Y Gwir"), ac Evenimentul Zilei ("Digwyddiadau'r Dydd") yn ddyddiol ym Mwcarést, a Monitorul Oficial ("Sylwedydd Swyddogol") yw newyddiadur y llywodraeth. Rompres yw asiantaeth newyddion swyddogol y wlad. Lansiwyd y gwasanaeth Media Fax, cwmni preifat, ym 1991. Lleolir adrannau o asiantaethau newyddion tramor, er enghraifft y BBC, yn y brifddinas. Rheolir rhwydwaith radio a theledu cenedlaethol gan y wladwriaeth, a cheir hefyd nifer o sianeli preifat, megis PRO-TV. Mae'r cyfansoddiad yn haeru i sicrháu rhyddid y wasg, ond gwelir y llywodraeth yn aml yn dylanwadu ar y cyfryngau ac yn erlyn newyddiadurwyr am resymau gwleidyddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Romania at a glance (Adroddiad). NATO. http://www.nato.int/invitees2004/romania/glance.htm. Adalwyd 5 Chwefror 2017.
  2. (Saesneg) "Romania Geography". aboutromania.com. http://www.aboutromania.com/geography.html. Adalwyd 5 Chwefror 2017.
  3. (Rwmaneg) "POPULAŢIA REZIDENTĂ1". Sefydliad Ystadegau Cenedlaethol Rwmania. http://www.insse.ro/cms/files/statistici/comunicate/com_anuale/populatie/PopRez2014r.pdf. Adalwyd 5 Chwefror 2017.
  4. "Explanatory Dictionary of the Romanian Language, 1998; New Explanatory Dictionary of the Romanian Language, 2002" (yn ro). Dexonline.ro. http://dexonline.ro/search.php?cuv=rom%C3%A2n. Adalwyd 25 September 2010.
  5. Verres, Andréas. Acta et Epistolae I. p. 243. nunc se Romanos vocant 
  6. Cl. Isopescu (1929). "Notizie intorno ai romeni nella letteratura geografica italiana del Cinquecento". Bulletin de la Section Historique XVI: 1–90. ""... si dimandano in lingua loro Romei ... se alcuno dimanda se sano parlare in la lingua valacca, dicono a questo in questo modo: Sti Rominest ? Che vol dire: Sai tu Romano, ...""
  7. Holban, Maria (1983). Călători străini despre Țările Române (in Romanian) II. Ed. Științifică și Enciclopedică. pp. 158–161. Anzi essi si chiamano romanesci, e vogliono molti che erano mandati quì quei che erano dannati a cavar metalli ... 
  8. Cernovodeanu, Paul (1960). Voyage fait par moy, Pierre Lescalopier l'an 1574 de Venise a Constantinople, fol 48. Studii și materiale de istorie medievală (in Romanian) IV. p. 444. Tout ce pays la Wallachie et Moldavie et la plus part de la Transilvanie a eté peuplé des colonies romaines du temps de Traian l'empereur ... Ceux du pays se disent vrais successeurs des Romains et nomment leur parler romanechte, c'est-à-dire romain ... 
  9. Ion Rotaru, Literatura română veche, "The Letter of Neacșu from Câmpulung", București, 1981, pp. 62–65
  10. "am scris aceste sfente cărți de învățături, să fie popilor rumânesti ... să înțeleagă toți oamenii cine-s rumâni creștini" "Întrebare creștinească" (1559), Bibliografia românească veche, IV, 1944, p. 6.
    "... că văzum cum toate limbile au și înfluresc întru cuvintele slăvite a lui Dumnezeu numai noi românii pre limbă nu avem. Pentru aceia cu mare muncă scoasem de limba jidovească si grecească si srâbească pre limba românească 5 cărți ale lui Moisi prorocul si patru cărți și le dăruim voo frați rumâni și le-au scris în cheltuială multă ... și le-au dăruit voo fraților români, ... și le-au scris voo fraților români" Palia de la Orăștie (1581–1582), București, 1968.
    În Țara Ardealului nu lăcuiesc numai unguri, ce și sași peste seamă de mulți și români peste tot locul ..., Grigore Ureche, Letopisețul Țării Moldovei, p. 133–134.
  11. Brezeanu, Stelian (1999). Romanitatea Orientală în Evul Mediu. Bucharest: Editura All Educational. pp. 229–246. 
  12. In his well known literary testament Ienăchiță Văcărescu writes: "Urmașilor mei Văcărești!/Las vouă moștenire:/Creșterea limbei românești/Ș-a patriei cinstire."
    In the "Istoria faptelor lui Mavroghene-Vodă și a răzmeriței din timpul lui pe la 1790" a Pitar Hristache writes: "Încep după-a mea ideie/Cu vreo câteva condeie/Povestea mavroghenească/Dela Țara Românească.
  13. In 1816, the Greek scholar Dimitrie Daniel Philippide published in Leipzig his work The History of Romania, followed by The Geography of Romania.
    On the tombstone of Gheorghe Lazăr in Avrig (built in 1823) there is the inscription: "Precum Hristos pe Lazăr din morți a înviat/Așa tu România din somn ai deșteptat."
  14. See, for example, "Rumania: Remarkable Common Ground", The New York Times (December 21, 1989).
  15. See the Google Ngrams for Romania, Rumania, and Roumania.
  16. "General principles" (yn Romanian). cdep.ro. http://www.cdep.ro/pls/dic/site.page?den=act2_2&par1=1#t1c0s0a1. Adalwyd 7 September 2009.
  17. BBC Cymru'r Byd – Tramor – Cofio pen-blwydd yn Romania
  18. (Rwmaneg) Athrofa Cenedlaethol o Ystadegau, Cyfrifiad 2002 Noia 64 mimetypes pdf.pngPDF
  19. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' CensusRef
  20. 2002 census data, based on population by ethnicity, gave a total of 535,250 Roma in Romania. Many ethnicities are not recorded, as they do not have ID cards. International sources give higher figures than the official census (e.g., UNDP's Regional Bureau for Europe, World Bank, "International Association for Official Statistics" (PDF). Archifwyd o y gwreiddiol ar 26 February 2008. //web.archive.org/web/20080226202154/http://www.msd.govt.nz/documents/publications/msd/journal/issue25/25-pages154-164.pdf.
  21. "European effort spotlights plight of the Roma". usatoday. 10 February 2005. Adalwyd 31 August 2008.  Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  22. 22.0 22.1 (yn Romanian) Official site of the results of the 2002 Census (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 5 February 2012. https://web.archive.org/web/20120205002157/http://www.recensamantromania.ro/rezultate-2. Adalwyd 31 August 2008.
  23. "German Population of Romania, 1930–1948". hungarian-history.hu. Archifwyd o y gwreiddiol ar 17 August 2007. //web.archive.org/web/20070817040031/http://www.hungarian-history.hu/lib/minor/min02.htm. Adalwyd 7 September 2009.
  24. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' hdrstats.undp.org
  25. "2011 census results by native language" (xls). www.recensamantromania.ro, website of the Romanian Institute of Statistics. http://www.recensamantromania.ro/wp-content/uploads/2013/07/sR_TAB_9.xls. Adalwyd 2015-05-05.
  26. "IARNA UCRAINEANĂ - Află care sunt localitățile din Maramureș în care se prăznuiesc sărbătorile de iarnă după rit vechi", Infomm.ro, http://infomm.ro/ro/detalii/in-maramures-aproape-31-000-ucraineni-petrec-sarbatorile-de-iarna, adalwyd 5 May 2015
  27. "Constitutia României". Cdep.ro. http://www.cdep.ro/pls/dic/site.page?den=act2_1&par1=1. Adalwyd 29 August 2011.
  28. "Two-thirds of working age adults in the EU28 in 2011 state they know a foreign language". Eurostat. 26 September 2013. http://epp.eurostat.ec.europa.eu/cache/ITY_PUBLIC/3-26092013-AP/EN/3-26092013-AP-EN.PDF. Adalwyd 21 August 2014.
  29. "EUROPEANS AND THEIR LANGUAGES, REPORT". Eurostat. 2012. http://ec.europa.eu/public_opinion/archives/ebs/ebs_386_en.pdf. Adalwyd 21 August 2014.
  30. "2011 census results by religion" (xls). www.recensamantromania.ro, website of the Romanian Institute of Statistics. http://www.recensamantromania.ro/wp-content/uploads/2013/07/sR_TAB_12.xls. Adalwyd 2015-05-05.
  31. Profiles of the Eastern Churches at cnewa.org
  32. European Court of Human Rights - Case of Metropolitan Church of Bessarabia

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Rwmania
yn Wiciadur.